Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
Diploma Lefel 3 UAL mewn Graffeg y Cyfryngau, Ffotograffiaeth a Dylunio ar gyfer y Cyfryngau Cymdeithasol
Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP00386 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs dwy flynedd llawn amser. |
Adran | Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2027 |
Dyddiad gorffen | 16 Jun 2028 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae ein Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol yn rhoi sgiliau hanfodol i ddarpar wneuthurwyr ffilmiau, dylunwyr, a chrewyr cynnwys digidol yn y diwydiant. Wedi'i gynllunio i baratoi myfyrwyr ar gyfer prifysgol neu hunangyflogaeth, mae'r cwricwlwm amlddisgyblaethol hwn yn cyfuno hyfforddiant technegol ymarferol â datblygu portffolio proffesiynol.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Mae ein "Bŵt-camp" cychwynnol yn meithrin sgiliau sylfaenol mewn Ffotograffiaeth, Sain a Graffeg trwy hyfforddiant ymarferol, dwys. Bydd unedau craidd yn eich cyflwyno chi i ystod eang o ddisgyblaethau, a bydd eich Prosiect Mawr Terfynol yn eich galluogi chi i arbenigo yn eich maes dewisol, ysgrifennu eich briff eich hun a chyfarwyddo eich cynhyrchiad eich hun.
Mae'r cwrs hwn yn edrych ar amrywiaeth o bynciau cyffrous, gan gynnwys:
- Creu cynnwys
- Animeiddio
- Ffotograffiaeth
- Dylunio gemau
- Darlunio digidol
- Dylunio graffeg
- Cyfryngau print digidol
- Cynhyrchu podlediadau
- Gwneud ffilmiau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol
- Golygu fideo
- Ysgrifennu Sgriptiau.
Byddwch chi'n gweithio yn ein stiwdios Mac, gan feistroli meddalwedd fel Adobe Premiere Pro, Final Cut Pro, Adobe Photoshop, Adobe Illustrator, Adobe Illustrator a Logic Pro.
A’i Dyma’r Cwrs i Chi?
Mae'r cwrs hwn yn berffaith i unrhyw un sydd wrth eu boddau yn creu cynnwys ar gyfer y cyfryngau, sy'n anelu at astudio ar lefel gradd neu yrfaoedd llawrydd yn y diwydiant cyfryngau. Er nad oes angen profiad blaenorol yn y cyfryngau arnoch chi, mae diddordeb gwirioneddol yn y cyfryngau yn hanfodol. Dylai ymgeiswyr fod yn ddysgwyr annibynnol sy’n gallu cyfathrebu'n effeithiol sydd hefyd yn mwynhau cydweithio ag eraill ac sy’n gallu gweithio o fewn cyfyngiadau llym mewn amgylchedd creadigol.

Os byddwch yn gwneud cais o ysgol yng Nghymru: 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys:
Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg (Iaith Gyntaf)
(Gwobr Sengl neu Ddwbl).
A
Mathemateg a Rhifedd (Dyfarniad Dwbl).
Os byddwch chi’n gwneud cais o ysgol yn Lloegr: 5 TGAU gradd 4 neu uwch, gan gynnwys:
TGAU Iaith Saesneg
A
TGAU Mathemateg, neu Lefel 2 mewn Sgiliau Swyddogaethol Mathemateg.
Dysgwyr sy’n Symud Ymlaen:
Dysgwyr sy’n Symud Ymlaen (sydd yn y Coleg yn barod): Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus, y ogystal â chymwysterau priodol mewn Cyfathrebu a Rhifedd, neu gymhwyster TGAU cyfwerth.
Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi chi i symud ymlaen at gwrs lefel uwch.

Byddwch chi’n cael eich asesu ar ddiwedd pob uned yn unol â meini prawf asesu. Rhaid pasio pob uned. Caiff yr holl waith ei asesu’n fewnol a’i ddilysu gan gymedrolwr sy’n ymweld; nid oes arholiadau ffurfiol. Mae hwn yn gwrs academaidd iawn sy’n gyfwerth â 3 Safon Uwch. Bydd disgwyl i chi gadw at yr holl ddyddiadau cau a bennir a phasio pob uned. Mae gradd Rhagoriaeth ar ôl cwblhau’r ‘Diploma Estynedig Lefel 3 Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol’ cyfwerth â 168 pwynt UCAS (tair gradd A* ar Safon Uwch).
Ar ôl cwblhau, byddwch chi wedi’ch paratoi i ddilyn amrywiaeth o rolau yn y diwydiant cyfryngau neu hyd yn oed ddechrau eich busnes eich hun fel crëwr cynnwys llawrydd! Os cewch chi eich gradd derfynol ofynnol, gallwch chi ddefnyddio’r cymhwyster hwn i gael mynediad uniongyrchol i brifysgol ar gyfer astudiaeth lefel gradd. Mae hefyd yn cynnig llwybrau i raglenni prentisiaeth uwch.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026