Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP00165 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs 2 flynedd llawn amser. |
Adran | Celf a Dylunio |
Dyddiad Dechrau | 03 Sep 2027 |
Dyddiad gorffen | 17 Jun 2028 |
Trosolwg o’r Cwrs
Gellir dilyn y Diploma Lefel 3 fel Diploma blwyddyn neu fel Diploma Estynedig dwy flynedd lawn. Mae'r cwrs yma wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol i chi symud ymlaen i astudiaeth Lefel Gradd mewn Celf a Dylunio neu i ddechrau cyflogaeth. Mae'n cynnig cyfle i'r rhai sydd â diddordeb yn y celfyddydau gweledol archwilio, datblygu a phrofi eu creadigrwydd o fewn strwythur cymwysterau ysgogol a heriol, gan ddarparu trosglwyddiad cefnogol o Addysg Bellach i Addysg Uwch.
Mae'r Diploma a'r Diploma Estynedig mewn Celf a Dylunio yn pwysleisio dysgu profiadol ac integredig. Mae'r cymwysterau yma yn canolbwyntio ar gymhwyso sgiliau ymarferol gan gydnabod egwyddorion cyffredin a nodweddion nodedig amrywiol ddisgyblaethau Celf a Dylunio. Byddwch chi’n datblygu sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddamcaniaethol trwy broses o ailadrodd ac atgyfnerthu, gan arwain at arferion gwaith effeithiol sy'n cefnogi creadigrwydd ar draws ystod o weithgareddau ysgogol a chynyddol heriol.
Byddwch chi’n ennill sgiliau trwy weithgareddau amrywiol, gan gynnwys gweithio mewn 2D, 3D a 4D, fel lluniadu o arsylwadau, peintio, tecstilau, gwneud crefftau, celf ddigidol, animeiddio, ffotograffiaeth, gwneud printiau a cherameg. Bydd cyfleoedd i weithio gydag artistiaid, dylunwyr a chrefftwyr wrth eu gwaith. Byddwch chi hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol, ac ymweliadau addysgol i ategu eich astudiaethau.
Mae eich rhaglen dysgu’n cynnwys nifer o gymwysterau gan gynnwys Bagloriaeth Cymru.

Wrth wneud cais o ysgol yng Nghymru: 5 TGAU ar radd C neu uwch, i gynnwys:
Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Iaith Gyntaf) (Gwobr Sengl neu Ddwbl) a Mathemateg a Rhifedd (Gwobr Ddwbl) A gradd B/6 mewn Celf a Dylunio.
Wrth wneud cais o ysgol yn Lloegr: 5 TGAU ar radd 4 neu uwch, i gynnwys:
TGAU Iaith Saesneg a TGAU Mathemateg, neu Fathemateg Sgiliau Ymarferol ar Lefel 2 A gradd B/6 mewn Celf a Dylunio.
Dysgwyr sy’n Symud Ymlaen (sydd yn y Coleg yn barod): Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus, y ogystal â chymwysterau priodol mewn Cyfathrebu a Rhifedd, neu gymhwyster TGAU cyfwerth.
Mae gofyn i bob ymgeisydd ymgymryd â phrosiect mynediad, ac mae’n rhaid iddynt ei gwblhau a llwyddo ynddo.
Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.

I ennill y cymhwyster Diploma (blwyddyn 1), rhaid i chi basio tair uned yn llwyddiannus. Mae Uned 3, “Ymateb i Friff Gosod,” yn caniatáu i chi ddangos yr holl ddysgu o’r unedau eraill. Mae’r uned hon wedi’i graddio yn ôl Llwyddo, Teilyngdod, neu Ragoriaeth ac mae’n pennu gradd gyffredinol y cymhwyster, gydag asesiad mewnol ac allanol.
I ennill y cymhwyster Diploma Estynedig (blwyddyn 2), rhaid i chi basio tair uned ychwanegol yn llwyddiannus. Mae Uned 6 – “Canlyniad Creadigol Arbenigol”, yn caniatáu i chi ddangos yr holl ddysgu o’r unedau eraill. Mae’r uned hon wedi’i graddio yn ôl Llwyddo, Teilyngdod, neu Ragoriaeth ac mae’n pennu gradd gyffredinol y cymhwyster.

Mae cyflogwyr ac Addysg Uwch yn rhoi gwerth ar Ddiplomâu Lefel 3. Mae’r cwrs yma yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol ac ar gyfer ceisiadau prifysgol mewn meysydd fel Cerameg, Tecstilau, Celfyddyd Gain, Graffeg, Darlunio, Dylunio Cynnyrch, Ffasiwn, Addurno Mewnol neu Ffotograffiaeth fel rhai enghreifftiau.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026