Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00130
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion
Dyddiad Dechrau
06 Sep 2027
Dyddiad gorffen
20 Jun 2028

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar safonau galwedigaethol cenedlaethol trin gwallt, ac mae’n cynnwys yr holl elfennau sydd eu hangen i weithio’n effeithiol fel triniwr gwallt iau / steilydd gwallt iau. Mae’n rhaid i ddysgwyr gyflawni pob uned orfodol, sy’n cynnwys:

Egwyddorion arferion trin gwallt
• Golchi, cyflyru a thrin y gwallt a chroen y pen
• Gosod a thrin gwallt
• Torri’r gwallt gan ddefnyddio technegau syml
• Lliwio a goleuo gwallt

Trwy gydol y cymhwyster hwn, bydd myfyrwyr yn cynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r anatomi a ffisioleg berthnasol. Bydd dysgwyr yn cael gwybodaeth am bob prawf perthnasol ynghyd â’r gofynion iechyd, diogelwch a deddfwriaethol angenrheidiol ar gyfer steilydd gwallt. Byddant hefyd yn meithrin y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau i ymgynghori â chleientiaid, a darparu ystod o wasanaethau sylfaenol mewn torri, lliwio a goleuo gwallt. Yn gyfochrog â’r unedau hyn, mae unedau i feithrin sgiliau dysgwyr mewn gosod, trin, chwythsythu a steilio gwallt gydag offer trydanol. Hefyd, bydd dysgwyr yn meithrin eu sgiliau cyfathrebu a gwasanaethau i gwsmeriaid, eu hymwybyddiaeth o gynaliadwyedd amgylcheddol, a’u sgiliau masnachol. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi pob un o’r rhain yn fawr. Bydd sgiliau datrys problemau ac ymchwilio hefyd yn cael eu meithrin.

Yn ogystal â’r cymhwyster Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt, bydd rhaglen y maes dysgu yn cynnwys y canlynol:

● TGAU mewn Saesneg a Mathemateg neu Sgiliau Hanfodol Cymru
● Meithrin sgiliau Cymraeg, trwy Gymraeg Gwaith.
Fel arfer bydd angen 4 TGAU arnoch chi, Cwblhau rhaglen dysgu lefel 1 Trin Gwallt yn llwyddiannus
Asesir gwaith cwrs yn barhaus.

Er mwyn ennill y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i bob dysgwr ennill gradd Llwyddo neu uwch yn yr asesiadau canlynol:
**Arholiadau a osodir a’u marcio’n allanol (40% gradd y cymhwyster)
*Asesiad graddedig synoptig a osodir yn allanol a’i farcio’n fewnol (60% gradd y cymhwyster)
*Portffolio tystiolaeth.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gal; dysgwyr symud ymlaen i gwrs Trin Gwallt Lefel 3 neu Brentisiaeth Fodern mewn Trin Gwallt.
Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr brynu offer/neu wisg.
Gweler y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

Ceisiadau ar agor mewn...

Days
Hours
Minutes
Seconds