Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol) – Dull Cyfunol (Dechrau ym mis Ionawr)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01706
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cwrs dysgu cyfunol hwn yn cynnig hyblygrwydd i gyd-fynd â’ch bywyd. Bydd gennych gyswllt wyneb yn wyneb am 53% o’r cwrs, rhwng 9:15 am a 6:30 pm ar ddydd Mercher. Bydd gweddill eich dysgu yn e-ddysgu ar-lein, y gallwch ei gwblhau ar amser sy’n gyfleus i chi yn ystod eich wythnos. Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnal o fis Ionawr i fis Rhagfyr, gyda seibiant dros yr haf.

Er mwyn sicrhau eich bod chi’n llwyddo, mae gallu rheoli amser personol yn allweddol. Bydd cynllunio eich amser astudio ar-lein ac annibynnol yn cefnogi eich taith ddysgu ac yn eich helpu i gyflawni eich nodau.
Adran
Dyddiad Dechrau
06 Jan 2027
Dyddiad gorffen
15 Dec 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mynediad i AU - Y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol (Dysgu Cyfunol) - Dechrau ym mis Ionawr

Barod i gymryd eich cam nesaf tuag at radd prifysgol? Mae ein Diploma Mynediad i AU - Y Dyniaethau AU a Gwyddorau Cymdeithasol wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi, gan eich paratoi ar gyfer dyfodol gwerth chweil mewn ystod eang o feysydd.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu

Nod y diploma yw eich arfogi chi â'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudio ar lefel prifysgol ac mae'n cynnwys amrywiaeth o bynciau diddorol a sgiliau craidd hanfodol. Gallwch chi archwilio modiwlau fel:

*Gwaith Cymdeithasol
*Seicoleg
*Troseddeg
*Cymdeithaseg
*Hanes
*a Saesneg, ymhlith llawer o rai eraill.

Byddwch yn cael dealltwriaeth gadarn o sut mae'r pynciau hyn yn gweithio mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.

Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau craidd hanfodol, gan gynnwys:

Cyfathrebu
Sgiliau Astudio
Rhifedd

Bydd eich tiwtor yn rhoi cyngor i chi ar y modiwlau penodol sy’n berthnasol i’ch taith dysgu.
Gradd C/4 mewn TGAU Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu Fathemateg, gyda gradd D/3 o leiaf mewn pwnc arall
neu
Lefel 2 AON neu Gyfathrebu, gyda Lefel 1 o leiaf yn y pwnc arall.

Fodd bynnag, rydym yn annog oedolion sydd â phrofiad bywyd a gwaith i wneud cais hyd yn oed os nad ydynt yn bodloni’r gofynion mynediad uchod gan fod cais pob dysgwr yn cael ei asesu ar sail unigol.

Cymhwysedd Oedran
Mae ein Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch wedi’u cynllunio’n bennaf ar gyfer dysgwyr hŷn (19 oed a hŷn) sy’n dychwelyd i addysg er mwyn symud ymlaen i’r brifysgol neu astudiaethau lefel uwch.

Dysgwyr 19 oed a hŷn: Ar agor i oedolion sy’n chwilio am lwybr at radd heb gymwysterau traddodiadol Lefel 3.
Dysgwyr dan 19 oed: Gellir ystyried ceisiadau gan unigolion dan 19 oed ar sail unigol, trwy gyfweliad yn unig. I fod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr fod wedi treulio cyfnod sylweddol allan o addysg llawn amser, neu ddangos profiad perthnasol o’r diwydiant neu’r byd gwaith yn y sector o’u dewis.

Sylwer: Nid yw Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch yn llwybr amgen ar gyfer disgyblion sydd newydd adael yr ysgol, na’r rhai sy’n symud ymlaen yn uniongyrchol o astudiaethau Blwyddyn 12/13.

Efallai y cewch eich cynghori i gofrestru ar y cwrs Paratoi ar gyfer Gyrfa ac Astudio neu gwrs Sgiliau Hanfodol Cymru cyn dechrau’r cwrs Mynediad. Mae’r rhaglenni hyn yn rhoi’r cyfle i chi uwchsgilio mewn Cymhwyso Rhif a Sgiliau Cyfathrebu.

Rydym yn annog darpar ymgeiswyr i gysylltu â phrifysgolion unigol i gael gwybodaeth am ofynion mynediad.
Byddwch yn cael eich asesu’n barhaus trwy amrywiaeth o ddulliau, yn bennaf gwaith aseiniadau, ynghyd â rhai profion wedi’u hamseru neu sefyllfaoedd arholiadau. Byddwch yn ennill credydau wrth gwblhau pob uned astudio’n foddhaol. Er mwyn ennill Diploma Mynediad i AU yn llwyddiannus, bydd angen i chi gyflawni 60 credyd, gan gynnwys nifer o gredydau gorfodol. Bydd eich credydau Lefel 3 yn cael eu graddio fel Llwyddo, Teilyngdod, neu Ragoriaeth. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch chi’n cael Diploma Mynediad i Addysg Uwch – Agored Cymru, sy’n cael ei gydnabod gan ‘QAA’.
Ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch wedi’ arfogi i symud ymlaen at gyrsiau gradd fel Addysgu, Gwaith Cymdeithasol, Saesneg, Seicoleg, Troseddeg, Cymdeithaseg, Daearyddiaeth, Hanes, Newyddiaduraeth ac mae llawer rhagor o ddewisiadau ar gael. Mae’r cwrs hwn yn darparu gwybodaeth werthfawr a fydd yn eich galluogi chi i gyrchu llawer o gyrsiau prifysgol a fydd yn arwain at ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llysfasi
07/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Ffordd y Bers
19/11/2026
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

Ceisiadau ar agor mewn...

Days
Hours
Minutes
Seconds