Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP51259 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn, llawn amser. |
Adran | Adeiladu a Gwaith Adeiladu, Plymwaith |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2027 |
Dyddiad gorffen | 31 Jul 2028 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs yn cynnig cyflwyniad eang i’r sectorau adeiladu a’r amgylchedd adeiledig gan ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth amdanynt. Bydd pob dysgwr yn cwblhau chwe uned graidd orfodol a fydd yn ymdrin â chyflwyniad i'r sectorau adeiladu ac amgylchedd adeiledig, sgiliau cyflogaeth a chyflogadwyedd ac iechyd a diogelwch. Yn ogystal â'r unedau craidd gorfodol, bydd dysgwyr yn gweithio tuag at ddysgu am ddau faes crefft, y bydd un ohonynt yn Blymwaith a Gwresogi. Mae'r cymhwyster yn rhoi dealltwriaeth eang, drawsbynciol o'r sector i ddysgwyr, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am eu datblygiad eu hunain.
● Cyflwyniad i’r Amgylchedd Adeiledig
● Cyflwyniad i’r Crefftau yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
● Cyflwyniad i’r Cylch Bywyd Amgylchedd Adeiledig
● Cyflogadwyedd yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
● Diogelu Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd wrth weithio yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
● Cyflwyniad i Dechnolegau Newydd yn y Sector Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

● un prawf atebion amlddewis wedi’i osod yn allanol, a’i farcio’n allanol.
● un prosiect sy’n ymdrin â dau faes crefft, wedi’i osod yn allanol, a’i farcio’n fewnol.
● un drafodaeth dan arweiniad, wedi’i gosod yn allanol, a’i marcio’n fewnol.
● un prawf iechyd a diogelwch, wedi’i osod yn allanol a’i farcio’n fewnol.

Mae’r cymhwyster yn darparu digon o wybodaeth i ddysgwyr symud ymlaen i brentisiaeth mewn crefft o’u dewis. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, efallai y bydd dysgwyr, nad oes ganddynt brentisiaeth, yn dymuno parhau ar gwrs amser llawn y cymhwyster Dilyniant.
Mae’r cwrs am ddim i fyfyrwyr llawn amser. Bydd gofyn i fyfyrwyr brynu cyfeirlyfr ar gyfer y cyrsiau; bydd y manylion ar gael i’r holl fyfyrwyr cyn i’r cyrsiau ddechrau. Bydd angen i fyfyrwyr brynu dillad gwaith (trowsus gwaith, crys polo a/neu grys chwys). Bydd angen i fyfyrwyr gael esgidiau diogelwch ar gyfer pob sesiwn ymarferol hefyd.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
12/11/2026