Background Splash

Cyhoeddi - 05/02/2026

UPS Learners Raise £2,911 for Royal British Legion Through Flintshire Volunteering

Yn ddiweddar rhoddodd fyfyrwyr Lefel 2 a Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai eu hamser i gefnogi’r Lleng Brydeinig Frenhinol, gan wirfoddoli ar draws Queensferry, Cei Connah, a’r ardaloedd cyfagos.

O ganlyniad i’w hymroddiad a’u gwaith caled, cododd y dysgwyr gyfanswm o £2,911, gyda’r arian yn mynd yn uniongyrchol tuag at Ymgyrch Coffa’r Lleng Brydeinig Frenhinol.

Gwnaeth Cydlynydd Apêl y Pabi, Sir y Fflint, Colin Sargeant gadarnhau’r cyfanswm terfynol, gan gydnabod yr effaith a wnaed gan y myfyrwyr o fewn y gymuned leol.

Canmolodd Jason Ferguson, Tiwtor Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai eu hymroddiad, a dywedodd: “O ganlyniad i holl waith caled ac ymdrechion ein myfyrwyr Lefel 2 a Lefel 3, mi wnaethom ni lwyddo i godi llawer o arian, sydd wedi mynd tuag at Ymgyrch Coffa’r Lleng Brydeinig Frenhinol ac i gefnogi ein cyn-filwyr.”

Mae’r llwyddiant codi arian diweddaraf yn dilyn sawl ymgyrch codi arian llwyddiannus yn y gorffennol. Y llynedd, cododd dysgwyr Gwasanaethau Cyhoeddus mewn lifrai yng Nglannau Dyfrdwy filoedd o bunnoedd ar gyfer amrywiaeth o elusennau cymunedol fel rhan o’u Prosiect Cymuned Fyd-eang Bagloriaeth Cymru.

Roedd yr achosion a gafodd eu cefnogi’n cynnwys Uned Diogelwch Cam-drin Domestig (DASU) yn Shotton ac elusen Teenage Cancer Trust, gyda gweithgareddau gan gynnwys teithiau cerdded noddedig a heriau canŵio i gemau pêl-rwyd staff yn erbyn myfyrwyr.

Mae eu cefnogaeth barhaus i’r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi bod yn arbennig o arwyddocaol, gyda dysgwyr Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai yn cyfrannu hyd at £4,000 mewn un flwyddyn yn flaenorol gan gynyddu eu cyfraniad codi arian cyfan ar gyfer elusen y Lluoedd Arfog i fwy na £40,000 dros y degawd diwethaf.

Ychwanegodd Jason: “Bob blwyddyn mae’r myfyrwyr a’r staff yn gwneud eu gorau glas i godi cymaint o arian â phosib ar gyfer elusen, ac mae hynny’n wir eleni. Fedrai ddim diolch digon iddyn nhw.”

Dywedodd Lucy Roberts, darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai, fod y cyflawniadau’n adlewyrchu’r gwerthoedd sydd wrth wraidd y coleg. “Trwy greadigrwydd, gwaith tîm a phenderfyniad, mae ein myfyrwyr wedi dangos ysbryd cymunedol a thosturi gwirioneddol. Mae pawb yng Ngholeg Cambria yn falch iawn o’r llwyddiant diweddaraf yma.”

Ychwanegodd Mark-Ryan Hughes o Calon, Adran Codi Arian a Gwirfoddoli’r coleg: “Mae hwn yn enghraifft wych o’r effaith y gall ein dysgwyr ei chael drwy elusen a gwirfoddoli, ac yn glod gwirioneddol i bawb sy’n gysylltiedig.”

I weld rhagor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk a dilynwch nhw ar gyfryngau cymdeithasol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost