Background Splash

Cyhoeddi - 23/04/2026

A WREXHAM bakery apprentice was named Rising Star at the Wales Food and Drink Awards - one of three of our learners recognised among the best in the country

Gwnaeth y coleg fwynhau noson wych yn Arena Building Society Abertawe, gyda chynrychiolwyr yn cyrraedd y rowndiau terfynol ac yn cipio anrhydedd uchaf.

Cafodd prentisiaid Caleb Blackwell, o Blacks Pies, a Tilly Squire, o Village Bakery, eu cydnabod ymysg y goreuon yng Nghymru, a chafodd Naomi Griffiths – o Fecws Iâl, becws hyfforddi masnachol Coleg Cambria ar ei safle yn yr Hafod yn Wrecsam – ei choroni’n Seren Addawol ar ôl gwneud argraff ar y beirniaid gyda’i hymrwymiad, angerdd a brwdfrydedd dros y diwydiant bwyd Cymreig.

Roedd dros 200 o geisiadau ar gyfer gwobrau eleni, sy’n dathlu rhagoriaeth ac arloesedd ar draws sector bwyd a diod ffyniannus Cymru, gyda channoedd o weithwyr proffesiynol y diwydiant yn bresennol yn y seremoni.

Dywedodd Naomi: “Roedd ennill y wobr Seren Addawol yn syndod llwyr ac yn gymaint o anrhydedd. Dwi’n andros o falch o gynrychioli Becws Iâl a Choleg Cambria, ac yn ddiolchgar am yr holl gefnogaeth dwi wedi’i chael gan y tîm yno a gan y diwydiant ehangach.

“Roedd hi’n noson mor ysbrydoledig ac mae cael fy nghydnabod ymhlith cynifer o bobl dalentog ym myd bwyd a diod Cymru yn golygu cymaint i mi.”

Cafodd y gwobrau eu sefydlu gan y ddarlledwraig Sian Lloyd a Liz Brookes, Cyfarwyddwr Rheoli Digwyddiadau Grapevine, i hyrwyddo’r gorau yn sector bwyd a diod Cymru.

Dywedodd Liz: “Daeth sector bwyd a diod Cymru ynghyd i ddathlu rhagoriaeth ac ymroddiad. Tynnodd y gwobrau sylw at y dalent nodedig ar draws y diwydiant ac roedd yn gyfle gwych i gydnabod gwaith caled pawb. Llongyfarchiadau i bawb a gyfrannodd at noson mor gofiadwy.”

Dywedodd Maria Stevens, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol yng Ngholeg Cambria, fod cyflawniad Naomi yn adlewyrchu ymrwymiad y coleg i feithrin talent y dyfodol.

“Mae hi’n llysgennad gwych i Fecws Iâl a’r coleg,” meddai Maria.

“Mae llwyddiant Naomi yn dyst i’w gwaith caled, ei chreadigrwydd a’i phenderfyniad, ac mae hefyd yn tynnu sylw at gryfder ein partneriaethau â chyflogwyr a’r cyfleoedd sydd ar gael trwy brentisiaethau a dysgu yn y gwaith.

“Rydyn ni’n andros o falch o bawb a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol ac o’r cyflogwyr rydyn ni’n gweithio mor agos gyda nhw ar draws y diwydiant.”

Gan ychwanegu at y dathliadau, enillodd Naomi ac Ella Muddiman, pobydd a chef patisserie wobr arian yng Ngwobrau Cacen Orau Prydain 2026 am eu Sleisen Goffi Gwyddelig, a gafodd ei chreu trwy gydweithrediad rhwng Coleg Cambria, Bako and Wright’s, rhan o The Compleat Food Group.

Wedi’i datblygu fel rhan o Fenter Pobydd Ifanc Bako, mae’r sleisen foethus yn cynnwys sbwng fanila llaith wedi’i haenu â charamel coffi ac wedi’i orchuddio â hufen gwirod Gwyddelig, gan ennill cydnabyddiaeth genedlaethol gan y beirniaid.

Dywedodd Kate Muddiman, Rheolwr Dysgu yn y Gwaith yng Ngholeg Cambria: “Mae gweld Naomi ac Ella yn cyflawni arian ar lwyfan cenedlaethol gyda’r Sleisen Goffi Gwyddelig, ochr yn ochr â llwyddiant Naomi fel Seren Addawol, yn adlewyrchiad gwych o’r dalent sy’n dod trwy Fecws Iâl.

“Mae eu creadigrwydd, eu proffesiynoldeb a’u hangerdd dros y grefft wedi bod yn eithriadol. Rydyn ni’n hynod falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni ac o lwyddiant parhaus Becws Iâl fel canolfan ragoriaeth ar gyfer prentisiaethau becws yng Ngogledd Cymru.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost