Background Splash

Cyhoeddi - 21/04/2026

A “green sweep” of achievements helped cultivate Coleg Cambria’s reputation as one of the UK’s most sustainable and forward-thinking educators

Mae’r coleg ar fin datgelu gwelliannau sydd werth hyd at £1.5 miliwn ar ei safle Iâl yn Wrecsam, wedi’u hariannu gan grantiau gan Lywodraeth Cymru a Salix Finance.

Mae’r datblygiadau’n rhan o strategaeth ehangach sy’n gosod Cambria ar y blaen fel un o’r colegau gwyrddaf yng Nghymru.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd gwelliant mawr i Floc E – sy’n gartref i Ganolfan Gymraeg newydd CAMU – yn cael ei gwblhau, ochr yn ochr â mewnosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan ychwanegol ar draws safleoedd Cambria.

Mae’r buddsoddiad hefyd yn cefnogi rhaglen ehangach gan gynnwys fflyd o geir trydan a phrosiect ynni solar ar raddfa fawr yng Nglannau Dyfrdwy, sydd ar fin dechrau gweithredu yn yr haf.

Ar draws ei safleoedd, mae’r coleg yn casglu ynni o’r haul.

Mae dros 1,300 o baneli solar yn cynhyrchu dros 265,000 kWh o drydan adnewyddadwy bob blwyddyn, sydd gyfwerth â gyrru car trydan o amgylch cyhydedd y ddaear mwy na 42 gwaith neu gwblhau dwy daith i’r lleuad ac yn ôl!

Mae arweinwyr y coleg yn dweud bod y buddsoddiad yn adlewyrchu uchelgais hirdymor i ymgorffori cynaliadwyedd ym mhob agwedd o fywyd coleg, o seilwaith a thrafnidiaeth i addysgu ac ymgysylltu â’r gymuned.

Mae pennaeth ystadau Alex Evans yn credu bod graddfa’r gwaith yn dangos sut mae cynaliadwyedd yn cael ei flaenoriaethu ar draws y sefydliad: “Mae hyn yn golygu mwy nag adeiladau a seilwaith, y nod ydy creu safleoedd sy’n barod ar gyfer y dyfodol a dangos i’n myfyrwyr bod cynaliadwyedd yn rhywbeth rydyn ni’n ei gymryd yn wirioneddol o ddifrif.”

Mae disgwyl i drawsnewidiad Bloc E yn Iâl i dorri ôl-troed carbon yr adeilad yn sylweddol wrth wella amodau i ddysgwyr a staff. Mae’r adnewyddiad yn cynnwys systemau ynni a gwresogi modern sydd wedi’u dylunio i wneud yr adeilad yn fwy effeithlon ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

Ar yr un pryd, mae’r pwyntiau gwefru ceir trydan yn cael eu mewnosod ar draws safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi, gan gefnogi symudiad tuag at deithio carbon isel i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr.

Dywedodd Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd Jenny Prendergast mai’r nod ydy gwneud cynaliadwyedd yn amlwg ar draws bywyd bob dydd yn y coleg.

“Rydyn ni am iddo fod yn rhywbeth mae ein myfyrwyr yn gallu ei weld a’i deimlo bob dydd, ddim dim ond rhywbeth maen nhw’n darllen amdano mewn dogfen strategaeth,” meddai hi.

Y tu hwnt i seilwaith, mae Coleg Cambria wedi ymestyn ei waith amgylcheddol ar draws Gogledd Cymru. Gyda dolydd blodau gwyllt sy’n ymestyn yn fwy na maint dau gae pêl-droed wedi cael eu sefydlu ar draws safleoedd yn Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy ac Iâl, sy’n gweld tua 380,000 o wenyn bob dydd.

Mae mesurau bioamrywiaeth ychwanegol yn cynnwys bocsys nythu gwenoliaid du a chartrefi draenogod. Yn ogystal mae gerddi glaw sydd wedi’u datblygu gyda Cynefin Dyfrdwy yn helpu i reoli llif dŵr a lleihau risg llifogydd yn ardal dalgylch Afon Dyfrdwy.

Mae myfyrwyr hefyd yn chwarae rhan weithredol. Bob blwyddyn, mae dysgwyr yn plannu 1,500 o goed o leiaf, yn mynd i gasglu sbwriel yn y gymuned ac yn gwirfoddoli gyda mentrau cynaliadwyedd lleol fel caffis trwsio a phrosiectau Incredible Edible.

Dywedodd Arbenigwr Cynaliadwyedd Sophie Hughes-Saunier bod y dull yn adlewyrchu blaenoriaethau’r genhedlaeth nesaf.

“Mae ein myfyrwyr yn angerddol am yr amgylchedd a dyfodol y blaned, ac mae’n bwysig bod eu coleg yn adlewyrchu’r gwerthoedd hynny,” meddai hi.

Ychwanegodd Alex: “Drwy fuddsoddi mewn ynni glanach, trafnidiaeth drydanol ac adeiladau mwy gwyrdd, rydyn ni’n lleihau ein heffaith amgylcheddol ac yn helpu i baratoi ein dysgwyr ar gyfer y dyfodol.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost