Background Splash

Cyhoeddi - 02/07/2026

Rachael and Debbie

Daeth mwy na 75 o staff a myfyrwyr i’r sesiwn yng Ngholeg Cambria Iâl yn Wrecsam, lle siaradodd Debbie am golled drasig ei mab, Chris, a phwysigrwydd deall peryglon dŵr agored.

Mae sylfaenydd arobryn River and Sea Sense wedi treulio bron i ddau ddegawd yn addysgu pobl ifanc ledled y Deyrnas Unedig, yn troi tor calon yn ymgyrch sydd wedi helpu i arbed bywydau a chodi ymwybyddiaeth o ddiogelwch yn y dŵr.

Dim ond 15 oed oedd Chris pan wnaeth o foddi yng Nghapel Curig ym mis Awst 2006 ar ôl mynd i drafferth.

Yn benderfynol na fyddai teuluoedd eraill yn profi’r un dor calon, dechreuodd Debbie siarad mewn ysgolion dim ond wythnosau’n ddiweddarach ac ers hynny mae wedi ymroi ei bywyd i addysg diogelwch yn y dŵr.

Heddiw, trwy River and Sea Sense, mae wedi siarad â channoedd ar filoedd o bobl ifanc ac oedolion ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt, gan rannu cyngor ymarferol ar sut i fod yn ddiogel wrth afonydd, llynnoedd, cronfeydd dŵr, ac amgylcheddau arfordirol.

Ei chenhadaeth yn syml yw “Cyffwrdd â Miliwn o Galonnau” gyda’i stori wrth greu etifeddiaeth barhaol er mwyn Chris trwy addysg ac ymwybyddiaeth.

Yn adfyfyrio ar ei thaith, dywedodd Debbie wrth y mynychwyr: “Mi’r oedd adegau pan roeddwn i’n cwestiynu a fyddwn i’n gallu cario ymlaen, ond roeddwn i’n gwybod fod rhaid i mi droi fy mywyd i’n rhywbeth sy’n bwysig er mwyn Chris.

“Rydw i’n eich gweld chi’n debyg iawn i Chris. Rydych chi’n disgleirio, ac mae eich dyfodol a’ch breuddwydion o’ch blaenau chi.

“Os ydy rhannu ein stori yn helpu i arbed un bywyd hyd yn oed, yna mae’n fuddiol.”

Yn ystod ei chyflwyniad, tynnodd Debbie sylw at rai o’r risgiau mwyaf sy’n wynebu pobl ifanc, yn enwedig wrth i fisoedd yr haf agosau.

Roedd y pynciau’n cynnwys sioc dŵr oer, peryglon cudd o dan y dŵr, tymheredd y dŵr, teganau pwmpiadwy, yfed alcohol wrth y dŵr, partïon ar lan y môr, pwysau gan gyfoedion a phwysigrwydd defnyddio’r cyfarpar diogelwch cywir.

Roedd yn esbonio’r nifer o bobl sy’n tanseilio peryglon dŵr agored, hyd yn oed yn ystod tywydd cynnes, a sut mae sioc dŵr oer yn gallu cael canlyniadau angheuol o fewn eiliadau.

Tynnodd Debbie sylw hefyd at y pryderon ynghylch y nifer cynyddol o ddamweiniau sy’n cynnwys bechgyn yn eu harddegau a dynion ifanc, gan annog dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ac edrych ar ôl ei gilydd.

Tynnodd yr ymweliad sylw hefyd at gefnogaeth Debbie i’r ymgyrch Save Lives for Sam a’i hymdrechion ehangach i leihau achosion o foddi y gellir eu hatal drwy addysg.

Mae ei gwaith di-flino wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol, gan gynnwys Gwobr Cyflawniad Arbennig y Loteri Genedlaethol a gyflwynwyd gan Bear Grylls a Gwobr Points of Light gan y cyn Brif Weinidog Theresa May. Mae hi hefyd wedi siarad yn y Senedd a Thŷ’r Arglwyddi am faterion atal boddi a diogelwch yn y dŵr.

Mae ei neges yn parhau i fod yr un fath: “Parchwch y dŵr… bob amser.”

Cafodd y sesiwn ei threfnu gan y Darlithydd Sgiliau Sylfaen, Rachael Muia.

“Cafodd stori Debbie effaith ddwys ar bawb yn yr ystafell,” meddai Rachael.

“Roedd yn emosiynol, ysgogol ac yn hynod bwysig. Dydy llawer o bobl ifanc ddim yn ymwybodol o ba mor gyflym mae sefyllfa o amgylch dŵr yn gallu bod yn fygythiad i fywyd.

“Mae’r hyn a ddigwyddodd i Chris yn gwbl ddinistriol, ac amlygodd cyflwyniad Debbie yr effaith y mae trychinebau fel hyn yn eu cael ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau am flynyddoedd wedi’r digwyddiad.

“Rydyn ni eisoes yn chwilio am gyfleoedd i gael Debbie i ddarparu rhagor o sgyrsiau a chyflwyniadau ar safleoedd Coleg Cambria yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf am fod y negeseuon hyn yn rhoi sydd wir yn arbed bywydau.”

Anogodd Debbie ddysgwyr i ofalu am ei gilydd, gwneud penderfyniadau synhwyrol o amgylch dŵr a pheidio byth â thanseilio’r risgiau.

“Byddwch yn ofalus,” ychwanegodd. “Mae pob bywyd sy’n cael ei achub yn golygu popeth.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost