Mae Ysgol Fusnes Llaneurgain y coleg yn cynnig Tystysgrifau Cenedlaethol NEBOSH sydd wedi’u cynllunio i gefnogi’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan Ddeddf Terfysgaeth (Diogelu Eiddo) 2025 – sy’n cael ei hadnabod yn eang fel Cyfraith Martyn.
Wedi’i henwi er cof am Martyn Hett, un o 22 o bobl a laddwyd yn y bomio yn Arena Manceinion yn 2017, cafodd y ddeddfwriaeth Gydsyniad Brenhinol y llynedd a’i nod ydy cryfhau diogelwch mewn eiddo cyhoeddus a digwyddiadau ledled y DU.
Mae Cambria yn cynnig Tystysgrif Genedlaethol NEBOSH mewn Diogelu Safleoedd Dyletswydd Safonol rhag Terfysgaeth, gyda chyrsiau’n dechrau yn Llaneurgain ac ar-lein y mis yma (Medi), yn ogystal â’r Dystysgrif Genedlaethol mewn Diogelu Safleoedd a Digwyddiadau Dyletswydd Uwch rhag Terfysgaeth, sy’n lansio ym mis Hydref.
Mae’r ddyletswydd safonol yn berthnasol i safleoedd cymwys sydd ar gael i’r cyhoedd lle mae’n rhesymol disgwyl y gall rhwng 200 a 799 o bobl fod yn bresennol ar yr un pryd, tra bod y ddyletswydd uwch yn cwmpasu safleoedd a digwyddiadau cymwys gydag 800 neu ragor o bobl.
Mae’r Ddeddf yn cario cyfnod gweithredu o leiaf 24 mis o’r Cydsyniad Brenhinol, gan roi amser i sefydliadau ddeall a chynllunio ar gyfer eu rhwymedigaethau newydd cyn i’r gofynion ddod i rym.
Bydd Awdurdod y Diwydiant Diogelwch yn goruchwylio cydymffurfiaeth unwaith y bydd y gyfraith ar waith, gyda phwerau i gyhoeddi hysbysiadau cydymffurfio a chosbau ariannol lle mae safleoedd yn methu â chyflawni’r gofynion.
Dywedodd Jane Keys, Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer Ymgysylltu â Chyflogwyr yng Ngholeg Cambria, fod y rhaglenni newydd yn cryfhau portffolio eang o gymwysterau proffesiynol a diwydiant sydd ar gael drwy’r coleg.
“Bydd gan Gyfraith Martyn oblygiadau i sefydliadau a lleoliadau ar draws llawer o sectorau gwahanol, felly mae’n bwysig bod busnesau’n deall beth mae’r ddeddfwriaeth yn ei olygu iddyn nhw a bod ganddyn nhw’r wybodaeth a’r hyder i baratoi,” meddai Jane.
“Mae’r cymwysterau yma yn enghraifft arall ohonom ni’n ymateb i anghenion newidiol y diwydiant ac yn sicrhau y gall cyflogwyr ledled y rhanbarth gyrchu datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel yn lleol.
“Mae’r dull yma yn wych ar gyfer DPP. Mae’n caniatáu hyblygrwydd i bobl sydd eisoes mewn gwaith, yn brysur, neu’n methu ymrwymo i un cwrs llawn amser.
“Gallwn ni hyd yn oed fod yn hyblyg drwy greu rhaglenni pwrpasol, wedi’u teilwra ar gyfer cyflogwyr, yn enwedig yn y diwydiant, i gefnogi grwpiau mwy.”
Mae’r tystysgrifau newydd yn cwmpasu meysydd gan gynnwys natur terfysgaeth a’r fframwaith cyfreithiol, lefelau bygythiad y DU, cyfrifoldebau sefydliadol, bygythiadau a gwendidau posibl, gweithdrefnau diogelu’r cyhoedd a datblygu diwylliant diogelwch cryf.
Mae’r cymhwyster uwch hefyd yn archwilio mesurau amddiffyn, dogfennu cydymffurfiaeth, a pharhad a hadferiad busnes.
Bydd Cyfraith Martyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy’n gyfrifol am safleoedd a digwyddiadau cymwys gymryd camau rhesymol ymarferol i leihau niwed pe bai ymosodiad terfysgol yn digwydd.
Bydd safleoedd dyletswydd uwch a digwyddiadau cymwys yn wynebu gofynion ychwanegol gyda’r nod o leihau eu bregusrwydd i ymosodiad.
Ychwanegodd Jane: “I lawer o sefydliadau mae hwn yn faes cyfrifoldeb newydd, felly rŵan ydy’r amser i ddatblygu’r wybodaeth honno, i edrych ymlaen a bod yn barod.
“Ein ffocws yn Ysgol Fusnes Llaneurgain ydy darparu hyfforddiant perthnasol ac ymarferol sy’n adlewyrchu’r hyn y mae cyflogwyr yn ei wynebu heddiw a’r hyn y bydd ei angen arnyn nhw yfory.”