main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Educating explorers smashed their fundraising target and a huge charity challenge

Mae Karl Jackson, Pennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg ar safle Ffordd y Bers Coleg Cambria yn Wrecsam, a’i gydweithiwr Carl Roberts, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Peirianneg, wedi cwblhau Her The Skye is the Limit er budd Hosbisau Plant Tŷ Gobaith.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Karl a’r tîm wedi ymgymryd â’r Her Tri Chopa Cymru a’r Crazy 7 er budd Cerrig Camu Gogledd Cymru ac wedi codi dros £1,000 ar gyfer Menstrual Health Project wrth gwblhau her Cairngorm 4000s, taith gerdded tri diwrnod ar draws mynyddoedd 4,000+ troedfedd yn ucheldiroedd dwyreiniol yr Alban.

Gwnaeth Karl a darlithydd Paul Standring hefyd oresgyn ymdaith pedwar diwrnod Freezing Fingers mewn amodau oer a gaeafol dros fynyddoedd Rhinogydd yn Eryri.

Y tro yma, gwnaeth Carl ymuno ag ef, a gyda’i gilydd maent wedi codi swm anhygoel o £1,400.

“Rydyn ni wedi llwyddo! Dros 53 milltir mewn 33 awr a dros 8,000 troedfedd o uchder,” meddai Karl.

“Roedd yn her enfawr ond yn werth chweil, trwy wynt a glaw a phob math o dir, mi wnaethon ni gyflawni ein nod.

“Mi wnaethon ni lwyddo i wneud 26 milltir mewn un diwrnod, a chael noson go lew o gwsg ac yna aethon ni yn ôl ati’r diwrnod wedyn a cherdded i fyny ac i lawr, ond mi wnaethon ni helpu ein gilydd.”

Ychwanegodd Carl: “Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi rhoi arian a’n cefnogi ni ar ein taith.

“Mi wnaethon ni yrru dros 20 awr mewn bws mini yn ystod y noson cyn cyrraedd yn Skye ac yna dechreuodd y daith! Am antur, roedd yn anodd, ond mi wnaethon ni lwyddo.”

Gwnaeth y pâr gario bagiau 20 cilo ar eu cefnau – a oedd yn cynnwys pebyll, bwyd a dŵr – gan frwydro gyda’r tywydd yn ystod y daith.

Gwnaeth Bethan Young swyddog codi arian ardal Wrecsam Tŷ Gobaith ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion gan ddweud: “Am ymdrech anhygoel, roedden ni’n gwybod y bydden nhw’n llwyddo ac rydyn ni mor ddiolchgar am y swm anhygoel maen nhw wedi’i godi.

“Mi fydd bob ceiniog yn ein helpu ni i barhau ein cenhadaeth i alluogi teuluoedd i gael gofal proffesiynol a gwella ansawdd bywyd eu plant.

“Diolch anferthol i Karl a Carl a phawb sydd wedi rhoi arian i’w her.”

Mae’r sefydliad yn darparu gofal a chymorth hanfodol i blant â chyflyrau sy’n bygwth bywyd ac mae ganddo ddwy hosbis a 15 o siopau ar draws Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Canolbarth a Gogledd Cymru sy’n helpu i godi’r £7.5 miliwn sydd ei angen i ariannu gofal i bob plentyn mewn angen.

Gallwch chi noddi Karl a’r tîm yma: Karl Jackson yn codi arian ar gyfer Ty Gobaith (justgiving.com).

Ewch i www.hopehouse.org.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan hosbisau plant Tŷ Gobaith

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost