main logo
Background Splash

Gan hannah

CambriaFest3

Cafodd Gŵyl Cambria 2024 ei chynnal yng Nglannau Dyfrdwy a daeth dros 520 o ddysgwyr a staff, gan gynnwys rhai o safleoedd eraill y coleg yn Wrecsam, Llysfasi a Llaneurgain.

Dyma oedd yr ail waith i’r digwyddiad gael ei gynnal, ac roedd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, adloniant – gan gynnwys bwytäwr tân dewr – lluniaeth, gemau, cwrs antur, a rhagor.

Cafodd ei drefnu gan y tîm Llais Myfyrwyr, a gwnaeth y cyfranogwyr gwblhau holiadur er mwyn gweld beth oedden nhw’n ei feddwl a’i deimlo am yr ŵyl; dywedodd 85.5% eu bod nhw wedi mwynhau’r diwrnod, gwnaeth tua 64% ddweud ei bod wedi effeithio’n gadarnhaol ar eu hiechyd meddwl, a dywedodd 80% ei bod wedi “codi eu hysbryd” ar ôl cwblhau eu cyrsiau a’u harholiadau. “Roedden ni wrth ein bodd i ddod â Gŵyl Cambria yn ôl yr haf yma yn dilyn llwyddiant y llynedd,” meddai Mark-Ryan Hughes, Swyddog Ymgysylltu Llais Myfyrwyr. “Roedd yn gyfle i gael pawb at ei gilydd i ddathlu diwedd blwyddyn academaidd arall, ac i fyfyrwyr o safleoedd gwahanol y coleg i gymysgu a chyfarfod ei gilydd. “Roedd canlyniadau ein hastudiaeth yn rhoi mewnwelediad da i ni ac yn helpu siapio ein penderfyniadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at llaismyfyrwyr@cambria.ac.uk Ewch i www.cambria.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost