Roedd Christina Giannini Spencer yn 56 pan wnaeth dod yn nain a dechrau gweithio ym Meithrinfa Dydd Kids Planet yn Llandudno ei hysbrydoli hi i fynd ar drywydd ei huchelgais i weithio mewn addysg.
Gan gydnabod ei bod hi angen hyfforddiant ffurfiol i ategu ei phrofiad a’i hangerdd, gwnaeth Christina, o Ddeganwy, gofrestru ar y cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant gyda Choleg Cambria.
Gwnaeth hi ragori’n academaidd, gan gyflawni dros 90% mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, ac fe aeth hi ymlaen i ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn y Gwaith – Gofal Plant/Gwaith Chwarae 2026 yng Ngwobrau Myfyrwyr y coleg.
Mae ei chyflawniadau’n cael eu dathlu fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion, ymgyrch flynyddol sy’n taflu goleuni ar y cyfloed sydd ar gael i oedolion sy’n dychwelyd i addysg ar draws Cymru.
“Ers cenedlaethau, mae fy nheulu wedi bod yn deulu o addysgwyr. Wrth dyfu i fyny, roeddwn i bob amser yn gwybod fy mod i eisiau dilyn yn eu hôl troed a dod yn athrawes,” meddai Christina, a gyrhaeddodd Cymru o’r Eidal 10 mlynedd yn ôl.
“Fodd bynnag, mae pethau annisgwyl yn codi mewn bywyd, ac am amser hir, mae fy llwybr gyrfa wedi fy arwain i ffwrdd o’r ystafell ddosbarth.
“Fe wnaeth hynny i gyd newid pan oeddwn i’n 56 oed. Bron ar yr un pryd, des i’n nain a chefais i swydd newydd yn gweithio mewn meithrinfa. Roedd yn teimlo fel pe bai’r bydysawd o’r diwedd yn fy llywio’n ôl at fy ngalwedigaeth wirioneddol.”
Dywedodd Christina fod dychwelyd i addysg wedi dod â heriau, o fynd i’r afael â modiwlau diogelu cymhleth i sefyll arholiadau eto, ond canmolodd yr Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith Anna Edwards am ei chefnogaeth drwyddi draw.
“Fe wnaeth y coleg neilltuo tiwtor i mi sydd, heb os, y ddynes fwyaf anhygoel i mi erioed ei chyfarfod,” meddai.
“Roedd Anna yn effeithlon, yn galonogol, ac yn gefnogol iawn. Pryd bynnag y byddai ton o hunan-amheuaeth neu argyfwng yn taro, roedd hi yno.
“Pan gefais fy enwi’n Fyfyriwr y Flwyddyn yn ddiweddar, roeddwn i’n teimlo mor ddiolchgar. Er i mi astudio’n galed ar gyfer fy mhlant a’m gyrfa, roeddwn i hefyd yn astudio ar gyfer fy nhiwtor.
“Roeddwn i eisiau anrhydeddu ei gwaith caled a’i hymroddiad llwyr i’m llwyddiant. Mewn gwirionedd, mae hi’n haeddu’r wobr cymaint â minnau.”
Fe wnaeth profiad cadarnhaol Christina ar y cwrs gofal plant ei sbarduno hi, ac yn ddiweddarach cofrestrodd ar gyfer dosbarthiadau Cymraeg gyda’r nos yn Cambria ar ôl iddi hi gwblhau ei chwrs.
Fe wnaeth datblygu Cymraeg gryfhau ei hyder i ddefnyddio’r iaith gyda phlant a marcio’r cam nesaf o’i thaith academaidd.
Erbyn hyn mae hi wedi cael swydd yn ysgol uwchradd Abergele ac mae hi’n parhau gyda’i hastudiaethau Cymraeg gan hefyd symud ymlaen at gymhwyster Cefnogi Addysgu a Dysgu.
“Pan wnes i orffen fy mlwyddyn gyntaf, doeddwn i ddim yn teimlo fel fy mod i’n cyrraedd diwedd,” meddai Christina.
“Yn lle, roedd hi’n teimlo fel fy mod i’n sefyll ar drothwy taith newydd sbon danlli.
“Mae drysau wir yn agor i mi ar hyd fy llwybr.”
Dywedodd Anna fod stori Christina yn enghraifft o’r penderfyniad a’r brwdfrydedd sy’n cael eu dangos gan ddysgwyr sy’n oedolion ar draws Coleg Cambria.
“Mae hi wedi bod yn bleser cefnogi Christina ac mae ei hymrwymiad i ddysgu wedi bod yn ysbrydoledig,” meddai hi.
“Fe aeth hi i’r afael â bob her, gan weithio’n galed iawn a chwilio am ffyrdd i ddatblygu’n bersonol a phroffesiynol o hyd. Roedd hi’n haeddu ei gwobr, ac mae’n ardderchog ei gweld hi’n parhau i ddysgu a gwneud cynnydd mewn addysg.”
Mae Wythnos Addysg Oedolion yn digwydd ar draws Cymru, gan annog pobl i weld beth allai addysg a hyfforddiant ei wneud ar gyfer eu sgiliau, eu hyder a’u gyrfa.