Background Splash

Cyhoeddi - 25/09/2026

Yaser Iranshahi

Mae Yaser Iranshahi, sy’n wreiddiol o Iran ac sydd bellach yn byw yn Llai, ger Wrecsam, yn dweud bod gwella ei sgiliau Saesneg a chyfathrebu wedi rhoi’r hyder iddo ddilyn cyfleoedd newydd a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Ar ôl astudio Siarad, Gwrando, Darllen, Ysgrifennu a TG yng Ngholeg Cambria, cafodd Yaser ei enwi yn Ddysgwr y Flwyddyn – Saesneg 2026 yn Iâl.

Enillodd y wobr nid yn unig am ei gynnydd ond am yr effaith gadarnhaol a gafodd ar yr adran Dysgu Saesneg, gan gefnogi cyd-fyfyrwyr a helpu i greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol.

Rŵan mae Yaser yn cymryd cam arwyddocaol arall, ar ôl cofrestru ar gyfer y Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg ar safle Ffordd Bers y coleg.

Mae ei daith yn cael ei dathlu fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion, ymgyrch flynyddol sy’n tynnu sylw at sut y gall dychwelyd i addysg helpu pobl i ddatblygu sgiliau, meithrin hyder, ennill cymwysterau a mynd â’u bywydau a’u gyrfaoedd i gyfeiriad newydd.

“Ar y dechrau, fe wnes i ddewis Coleg Cambria oherwydd ei fod yn agos at ble dwi’n byw,” meddai Yaser.

“Ond yn ddiweddarach, gwnes i rai ffrindiau da ac fe wnes i gyfarfod athrawon caredig. Roeddwn i hefyd yn hoffi’r awyrgylch cyfeillgar yn y coleg, ac roeddwn i wrth fy modd yno.

“Cyn i mi ddechrau yn Cambria, roeddwn i’n nerfus iawn ynglŷn â siarad Saesneg. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn hoffi ateb y ffôn oherwydd fy mod i’n poeni am siarad.

“Rŵan mae gen i lawer mwy o hyder. Dwi’n ateb y ffôn yn hyderus, a dydw i ddim yn poeni cymaint ag o’r blaen.

“Dwi ddim yn meddwl bod fy Saesneg yn berffaith eto, ond dwi’n ceisio gwella bob dydd. Mae gen i fwy o hyder hefyd i wneud cais am swyddi a mynd i gyfweliadau swyddi.”

Roedd dychwelyd i’r ystafell ddosbarth ar ôl blynyddoedd lawer yn frawychus i ddechrau, ond mae Yaser yn dweud bod y gefnogaeth a gafodd wedi gwneud y newid yn haws.

“Doeddwn i byth yn meddwl y baswn i’n gallu eistedd mewn ystafell ddosbarth eto ar ôl cymaint o flynyddoedd,” meddai.

“Roedd bron fel mynd yn ôl i fy mlynyddoedd iau a bod yn fyfyriwr eto. Ond mewn gwirionedd, mae’n well gen i astudio rŵan oherwydd dwi wir yn teimlo bod Coleg Cambria yn lle gwych i ddysgu.

“Fe wnaeth y gefnogaeth gan yr athrawon a’r staff wneud i mi fwynhau dysgu a rhoi mwy o gymhelliant i mi.”

Dywedodd tiwtoriaid Yaser ei fod yn codi calon myfyrwyr a staff yn gyson trwy ei garedigrwydd, ei anogaeth a’i ymrwymiad i gynhwysiant, gan helpu eraill i deimlo’n gartrefol ac yn hyderus waeth beth fo’u cefndir.

Fe wnaethon nhw hefyd ganmol ei wydnwch a’i empathi, gan gynnwys adeg pan wnaeth gefnogi myfyriwr mewn trafferth trwy helpu gyda chyfieithu a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu deall.

Roedd derbyn y wobr o flaen ei deulu yn foment emosiynol.

“Y rhan orau oedd derbyn y wobr o flaen fy ngwraig a’m plant,” meddai Yaser. “Roedd yn un o nosweithiau gorau fy mywyd, ac fe fydda’ i’n ei chofio am byth.”

Fe wnaeth ddiolch i’w wraig am ei hanogaeth ac i’w athrawon Ceri Thomas, Sarah Ashley, Hazal Ayaz a Helena Sperring am eu caredigrwydd a’u cefnogaeth.

Wrth edrych ymlaen at ei gwrs Peirianneg, ychwanegodd Yaser: “Dwi’n edrych ymlaen at y cam nesaf yma ac yn gobeithio y bydd yn fy helpu i adeiladu dyfodol a gyrfa well.

“Dwi’n hapus iawn i fod yn fyfyriwr yng Ngholeg Cambria, a dwi’n gobeithio y gall fy stori annog oedolion eraill sy’n ystyried mynd yn ôl i addysg.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost