Background Splash

Cyhoeddi - 12/02/2026

learner with a horse

Mae’r cydweithrediad yn nodi cam sylweddol arall ymlaen i raglenni ceffyleg Coleg Cambria sydd wedi hen ennill eu plwyf ac yn adeiladu ar enw da cadarn o gyflwyno dysgu yn y gwaith o ansawdd uchel ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru.

Mae Prentisiaeth British Dressage eisoes wedi’i chyflwyno’n llwyddiannus yn Lloegr a’r Alban ac mae bellach ar gael i ddysgwyr 16 oed a hŷn sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Dywedodd Katy Davies, Arweinydd ac Ymarferydd yn y Gwaith Gofal Anifeiliaid a Cheffyleg yng Ngholeg Cambria: “Rydyn ni’n falch o gefnogi dysgwyr ledled Cymru wrth iddyn nhw ddatblygu gyrfaoedd yn y diwydiant marchogaeth.

“Mae partneru â British Dressage yn gam cyffrous ymlaen ac yn creu rhwydweithio a chyfleoedd gwerthfawr i’r rhai sy’n dechrau eu gyrfa mewn ceffyleg neu’n symud ymlaen i lefelau uwch.

“Mae gennym ni raglenni sydd wedi’u sefydlu’n dda sy’n boblogaidd gyda’r gymuned geffylau ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru.

“Mae’r cydweithrediad newydd yma yn cryfhau’r cynnig hwnnw ymhellach ac yn adlewyrchu’r galw cynyddol am ddysgu yn y gwaith gan bobl sydd eisiau uwchsgilio, symud ymlaen ac ennill cymwysterau cydnabyddedig wrth ennill profiad ymarferol yn y diwydiant.”

Mae dysgwyr yn ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol wrth ennill cyflog, gyda chefnogaeth timau asesu profiadol Cambria, a wasanaethir gan y diwydiant, ochr yn ochr â gweithgareddau dysgu gwerth ychwanegol gan British Dressage.

Er bod dressage yn ganolbwynt allweddol i’r bartneriaeth, mae hefyd yn ein hatgoffa o ehangder y llwybrau gyrfa mewn ceffyleg sy’n cael eu cefnogi gan y coleg.

Mae Cambria yn cynnig ystod eang o brentisiaethau yn y gwaith ceffyleg a gofal anifeiliaid, gan gefnogi dysgwyr o Bowys i Ynys Môn a Wrecsam.

Mae cyfleoedd dysgu yn y gwaith sector y tir yn cynnwys Ceffyleg a Gofal Anifeiliaid, Nyrsio Milfeddygol, Amaethyddiaeth, Garddwriaeth, Cadwraeth, Coedyddiaeth gydag amrywiaeth o lwybrau sy’n adlewyrchu amrywiaeth y swyddi sydd ar gael ar draws y sector.

Mae’r coleg yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth ceffyleg o Lefel 2 hyd at Lefel 4. Mae’r rhain yn cynnwys cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 Cymdeithas Ceffylau Prydain a City & Guilds mewn Gofal Ceffylau, marchogaeth, bridio a hyfforddi, ochr yn ochr â llwybr Lefel 4 Cymdeithas Ceffylau Prydain mewn gofal uwch, marchogaeth a rheolaeth.

Mae pob llwybr prentisiaeth wedi’i deilwra i ddiddordebau a nodau gyrfa’r dysgwr, gyda dysgu wedi’i lunio o amgylch cynnydd unigol.

Dywedodd y Rheolwr Dysgu yn y Gwaith, Kate Muddiman, fod y cydweithrediad yn adlewyrchu ymrwymiad a rennir i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ceffyleg.

“Mae’r bartneriaeth yma gyda British Dressage yn ddatganiad pwerus o’n huchelgais ar gyfer y sector. Drwy gyfuno dull ymroddedig Coleg Cambria o ddysgu yn y gwaith â safonau rhyngwladol uchel eu parch mewn lles a hyfforddiant ceffylau, rydyn ni’n creu llwybr gwirioneddol safon aur i yrfaoedd ceffylau.”

Ychwanegodd Pennaeth Datblygu British Dressage, Charlotte Osborne: “Dwi wrth fy modd yn croesawu Coleg Cambria fel partner ar gyfer rhaglen Prentisiaeth British Dressage. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu llwybr cynhwysol a hygyrch i chwaraeon marchogaeth ac mae ehangu cyfleoedd i Gymru yn gam pwysig nesaf.

“Rydyn ni’n ymlaen at gydweithio’n agos â Choleg Cambria i gefnogi dysgwyr drwy gydol eu taith.”

I weld rhagor am brentisiaeth British Dressage, ewch i Our apprenticeships (Wales) | British Dressage.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost