Background Splash

Cyhoeddi - 09/06/2026

Our Students’ Union Named FE College Union of the Year at National Awards

Enwyd Undeb Myfyrwyr y coleg yn Undeb Coleg Addysg Bellach y Flwyddyn yng Ngwobrau mawreddog NUS Cymru.

Mae’r wobr yn dilyn cyfnod trawsnewidiol o waith i gryfhau ymgysylltiad a chynrychiolaeth dysgwyr ar draws y sefydliad, sydd â safleoedd yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a Llaneurgain.

Mae cerrig milltir allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys agor Hwb Undeb Myfyrwyr newydd ar safle Iâl yn Wrecsam ac ethol mwy na 300 o gynrychiolwyr dysgwyr.

Dywedodd Deio Owen, Llywydd NUS Cymru: “Mae’r gwobrau hyn yn adlewyrchu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Undebau Myfyrwyr ledled Cymru. Mae wedi bod yn wych gweld yr holl waith sy’n cael ei wneud gan y tîm yng Ngholeg Cambria eleni – yn cefnogi myfyrwyr a sicrhau eu bod wedi bod yn llais cryf yn y coleg a thu hwnt.”

Mae tîm Llais Myfyrwyr wedi chwarae rhan ganolog wrth gefnogi dysgwyr drwy gydol y flwyddyn, gyda ffocws eang ar lesiant, cynhwysiant, datblygiad personol ac ymgysylltu cymunedol.

Mae’r ganolfan newydd yn Iâl wedi dod yn ganolbwynt yn gyflym ar gyfer gweithgaredd a chefnogaeth i fyfyrwyr, gan ddod â chlybiau a chymdeithasau, cefnogaeth Cambria Heini a Menter, mentrau Llais Myfyrwyr, a gwasanaethau Caplaniaeth i gyd o dan un to.

Mae’r lle yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol mewn creu ardal bwrpasol lle gall myfyrwyr gysylltu, ceisio cefnogaeth ac ymgysylltu â bywyd coleg, waeth beth fo’u cefndir neu eu dull astudio.

Dywedodd Mark Ryan Hughes, Cydlynydd Ymgysylltu Llais Myfyrwyr: “Mae ennill y wobr hon yn anrhydedd wirioneddol i’n Hundeb Myfyrwyr.

“Mewn blwyddyn yn unig, rydyn ni wedi creu lle newydd i fyfyrwyr gysylltu a chodi eu lleisiau ac wedi datblygu ffyrdd newydd i bob myfyriwr ddweud ei ddweud. Rydyn ni’n hynod falch o’r cyflawniad hwn ac yn gyffrous i barhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n dysgwyr.”

Dywedodd y Prif Weithredwr Yana Williams fod y wobr yn adlewyrchiad o ymrwymiad ehangach y coleg i adeiladu amgylchedd lle mae pob dysgwr yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi.

Dywedodd: “Mae hwn yn gydnabyddiaeth wych i’n myfyrwyr, cynrychiolwyr a staff, sydd wedi gweithio mor galed i gryfhau llais y myfyrwyr ar draws Coleg Cambria.

“Mae Undeb y Myfyrwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu cefnogi a’u gwerthfawrogi, ac mae’r wobr hon yn adlewyrchu’r egni, yr ymrwymiad a’r uchelgais maen nhw’n eu cyflwyno i fywyd coleg bob dydd.”

Am ragor o wybodaeth am fywyd myfyrwyr yng Ngholeg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk/college-life/student-clubs neu www.studentvoice.cambria.ac.uk, neu anfonwch e-bost at llaismyfyrwyr@cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost