Background Splash

Cyhoeddi - 24/09/2026

Fibrax Menopause Awareness

Mae Cambria ar gyfer Busnes yng Ngholeg Cambria yn gweithio gyda sefydliadau i gyflwyno rhaglenni hyblyg ar draws ystod eang o feysydd, gan gynnwys iechyd meddwl, rheoli straen, ymwybyddiaeth o fenopos, ymwybyddiaeth o hunanladdiad a’i atal, a llesiant yn y gweithle.

Ymhlith y rhai sydd wedi cyrchu hyfforddiant oedd Tata Steel, Fibrax, Proctorseal, ICA Group, Reacta Healthcare, Woodlands Ltd, P&A Group, Kronospan, Theatr Clwyd, Toyota a Kingspan.

Mae cyrsiau’n cynnwys Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru, NEBOSH Rheoli Straen yn y Gwaith neu Deall Menopos yn y Gweithle – hefyd gellir datblygu rhaglenni pwrpasol o amgylch anghenion unigol sefydliad.

Dywedodd Gari Thomas, Rheolwr Ymgysylltu â Chyflogwyr yng Ngholeg Cambria, mai’r nod ydy gwneud datblygiad proffesiynol mor hygyrch a pherthnasol â phosib.

“Rydyn ni yma i wrando ar gyflogwyr, deall yr hyn sydd ei angen arnyn nhw ac yna gweithio gyda’n timau cwricwlwm i greu hyfforddiant sy’n darparu ar gyfer eu sefydliad a’u pobl,” meddai.

“Rydyn ni’n gallu cynnal hyfforddiant ar safle cyflogwyr, neu ar ein safleoedd ni gal gynnwys Iâl, Glannau Dyfrdwy a Llaneurgain, a Llysfasi, pa un bynnag sydd fwyaf cyfleus.

“Mae’r adborth wedi bod yn arbennig, ac rydyn ni eisiau adeiladu ar hynny drwy weithio gyda hyd yn oed mwy o gyflogwyr, ar draws pob sector a maint busnesau.

Ychwanegodd Claire Williams, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant: “Mae’r gweithle wedi gweld newid enfawr dros y blynyddoedd diwethaf ac mae cyflogwyr yn adnabod yn gynyddol bod cefnogi iechyd meddwl a llesiant yn rhan bwysig o ddatblygu a chynnal gweithlu cadarn.

“P’un ai fod hynny’n cymorth cyntaf iechyd meddwl, deall menopos, rheoli straen neu faes arall o iechyd a llesiant, y canolbwynt ydy hyfforddiant ymarferol, o safon uchel, mae pobl yn gallu ei roi ar waith yn eu gweithle.”

Mae Cambria yn cynnig rhaglenni iechyd meddwl sy’n amrywio o gyrsiau ymwybyddiaeth yn y gweithle i gymwysterau manwl, ochr yn ochr ag opsiynau dysgu hyblyg a rhan-amser.

Un sefydliad sy’n manteisio ar y cyfle ydy Fibrax Ltd, gwneuthurwr cydrannau polymerig yn Wrecsam.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithgynhyrchu Kevin Rimmer: “Er ein bod ni wedi gweithio gyda Choleg Cambria ers blynyddoedd lawer ar gymwysterau galwedigaethol ‘traddodiadol’ fel prentisiaethau a hyfforddiant rheoli, mi wnaethom ni gysylltu â’r coleg y llynedd i ofyn am gymorth i wella ein darpariaeth lles gweithwyr, ac roedd eu hymateb yn wirioneddol ragorol.”

“Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi ein perthynas â thîm Coleg Cambria ac ni fyddem yn oedi cyn eu hargymell.”

Mae Cambria hefyd wedi gweithio’n agos gyda Woodlands Ltd, cwmni sydd wedi’i leoli yn Wrecsam ac sy’n darparu gofal arbenigol, addysg a chymorth therapiwtig i bobl ifanc.

Dywedodd Craig Williams, Arweinydd Hyfforddiant a Datblygu: “Mae Woodlands wedi cynnal perthynas agos â Choleg Cambria o hyd, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi’n cyfleoedd a’r gefnogaeth yn fawr y mae’r coleg yn eu darparu.”

“Mae ein profiad gyda Choleg Cambria wedi bod yn hynod gadarnhaol. Mae ein holl staff, gan gynnwys fi fy hun, yn teimlo eu bod nhw’n cael cefnogaeth dda pryd bynnag y byddwn ni’n ymgysylltu â’r coleg.”

Mae cyfleoedd pellach ar gael drwy’r prosiect Cefnogi Cyflogadwyedd a Sgiliau yn Wrecsam, sy’n cael ei gefnogi gan y Gronfa Twf Lleol, sy’n galluogi i gyflogwyr cymwys gyrchu hyfforddiant gweithlu â chymhorthdal.

Mae’r rhaglen ar agor i fusnesau o bob maint, gyda thîm Ymgysylltu â Chyflogwyr Cambria yn helpu i nodi bylchau mewn sgiliau a hyfforddiant addas. Gall busnesau cymwys gyrchu hyfforddiant sydd wedi’i ariannu hyd at 100%, yn amodol ar feini prawf.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost