Background Splash

Cyhoeddi - 07/07/2026

A GROUNDBREAKING higher education pathway is helping students turn their passion for gaming into careers in one of the world's fastest-growing industries

Mae Coleg Cambria wedi gweld dysgwyr yn symud ymlaen o Addysg Bellach i astudiaeth sy’n cyfateb i brifysgol drwy ei Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn E-chwaraeon, sy’n cael ei gyflwyno yng Nghanolfan Brifysgol Cambria Glannau Dyfrdwy, mewn partneriaeth â Pearson.

Mae’r rhaglen yn darparu llwybr clir o Lefelau 2 a 3 hyd at Lefelau 4 a 5, gyda’r opsiwn i symud ymlaen i radd lawn yn y brifysgol.

Ymhlith y rhai sy’n arwain y ffordd mae Ben Oortwyn, o Sandycroft, ac Adam Parkes, o Lannau Dyfrdwy – rhan o garfan E-chwaraeon Addysg Uwch gyntaf erioed Cambria ar ôl dod trwy lwybr AB y coleg.

Cofrestrodd Ben ar gwrs TGCh i ddechrau cyn dod o hyd i’w draed mewn E-chwaraeon.

“Mae wedi bod yn anhygoel,” meddai.

“Dwi’n mwynhau gemau, ond dwi’n caru’r agweddau eraill hefyd, boed hynny’n rheoli digwyddiadau, cynhyrchu clyweledol, hyfforddi, neu ddylunio gemau. Mae’r cwrs wedi agor fy llygaid i nifer o gyfleoedd gyrfa gwahanol.”

Mae gan Adam uchelgeisiau mwy ar yr ochr gystadleuol.

“Fy nod i ydi dod yn gystadleuydd proffesiynol E-chwaraeon,” meddai.

“Dwi wedi cael llwyddiant gyda thîm Cambria Chimeras Valorant, a’r freuddwyd ydi teithio’r byd drwy E-chwaraeon. Mae’r rhaglen Addysg Uwch wedi datblygu fy sgiliau a fy nealltwriaeth o’r diwydiant.”

Mae’r ddau fyfyriwr wedi cyrraedd rowndiau terfynol cenedlaethol ym Mhencampwriaethau’r Myfyrwyr.

Dywedodd y darlithydd E-chwaraeon, Tom Crofts, fod y rhaglen yn adlewyrchu esblygiad sector sydd bellach yn werth biliynau o bunnoedd yn fyd-eang.

“Mae pobl yn tybio mai dim ond chwarae gemau’n broffesiynol ydy e-chwaraeon, ond mae hynny’n rhan fach o ddarlun llawer mwy,” meddai.

“Mae gyrfaoedd mewn rheoli digwyddiadau, darlledu, marchnata, creu cynnwys, hyfforddi, dadansoddeg a datblygu gemau – ac mae ein cwrs yn ymarferol ac yn canolbwyntio ar y diwydiant o’r diwrnod cyntaf.

“Does dim angen cefndir mewn E-chwaraeon arnoch chi i ymuno â ni. Rydyn ni’n croesawu myfyrwyr o bob math o gefndiroedd addysgol a phroffesiynol.”

Fe wnaeth y darlithydd E-chwaraeon Lauren Crofts dynnu sylw at y fantais leol, gan ychwanegu: “Ychydig iawn o gyfleoedd fel hyn sydd ar gael yn y rhanbarth. Gall myfyrwyr ennill cymwysterau perthnasol i’r diwydiant heb adael Gogledd Cymru.”

Mae’r rhaglen wedi’i hategu gan Arena E-chwaraeon Cambria gwerth £230,000 – 36 o orsafoedd gemau manyleb uchel, offer cystadlu proffesiynol a mannau addysgu pwrpasol – ochr yn ochr ag ystafell ddosbarth trochi 360 gradd o’r radd flaenaf.

Mae Cambria Chimeras, tîm cystadleuol y coleg, eisoes wedi ennill Cwpan Gwanwyn Apex Legends, wedi cyrraedd y pedwar uchaf yn y DU ar gyfer EAFC, ac wedi cyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth Overwatch Pencampwyr Myfyrwyr, a thwrnamaint Valorant Ffederasiwn E-chwaraeon Prydain.

Dywedodd Lisa Roadcliffe, Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer Astudiaethau Technegol: “Mae cyflogwyr yn cydnabod gwerth y sgiliau technegol, creadigol a phroffesiynol sy’n cael eu datblygu trwy E-chwaraeon fwyfwy.

“P’un a yw myfyrwyr eisiau cystadlu, gweithio y tu ôl i’r llenni neu drosglwyddo eu sgiliau i ddiwydiannau cysylltiedig, mae’r llwybr hwn yn agor drysau go iawn.”

Am ragor o wybodaeth ewch i www.cambria.ac.uk a dilynwch Goleg Cambria ar y cyfryngau cymdeithasol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost