Background Splash

Cyhoeddi - 20/02/2026

LLYSFASI Innovation Hub

Mae’r hwb o’r radd flaenaf wedi’i enwi’r Adeilad Cymunedol neu Gyhoeddus Orau yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu LABC, gan gydnabod cyflawniad rhagorol mewn dylunio, cynaliadwyedd ac ansawdd adeiladu. 

Wedi’i gefnogi gan dros £5.9 miliwn gan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, cafodd yr adeilad ei adeiladu gan gwmni Read Construction o Wrecsam a chafodd ei ddylunio i gefnogi datblygiadau mewn astudiaethau’r tir.

Mae cyfleusterau’n cynnwys ystafelloedd dosbarth, labordai, llyfrgell, mannau cyfarfod, siop goffi, wâl ddringo, canolfan AU a hwb llesiant.

Canmolodd beirniaid yr LABC y datblygiad, gan ddweud: “Mae’r prosiect yma yn enghraifft o ddylunio cynaliadwy ac adeiladu cydweithredol i greu adeilad carbon-niwtral sy’n integreiddio mannau addysgol â chyfleusterau llesiant a hamdden.

“Trwy inswleiddio gwell, aerglosrwydd a llygad craff am fanylion, cyflawnodd y prosiect berfformiadau thermol uwch gan arwain at ostyngiad sylweddol yn y defnydd o ynni cynradd.”

Gwnaeth Pennaeth Llysfasi Elin Roberts llongyfarch tîm y prosiect am y wobr a’u partneriaeth barhaus.

“Rydyn ni’n hynod o falch o weld yr Hwb Arloesi’n cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol,” meddai Elin.

“Hoffwn longyfarch Read Construction, a phawb a oedd yn rhan o ddarparu cyfleuster mor rhagorol. O safbwynt y coleg, mae’r adeilad yma yn cynrychioli ein huchelgais ar gyfer dysgwyr, ein hymrwymiad i gynaliadwyedd, a’n penderfyniad i ddarparu amgylcheddau ysbrydoledig sy’n cefnogi llwyddiant academaidd a llesiant.”

Ychwanegodd Alex Evans, Pennaeth Ystadau a Chyfleusterau: “Mae Coleg Cambria yn falch o gael cydnabyddiaeth i’r Hwb Arloesi ar lefel genedlaethol yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu’r LABC.

“Wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â TACP Architects a Read Construction a’i gefnogi gan raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, mae’r adeilad wedi’i adeiladu i safonau Carbon Sero Net.

“Gyda phwmp gwres o’r aer, paneli solar, systemau rheoli adeiladau deallus ac adeiladu pren modiwlaidd, mae’r Hwb Arloesi yn cefnogi uchelgais y coleg i ddadgarboneiddio ei ystâd. Mae’r cyfleuster wedi adfywio addysg ar safle Llysfasi yn Rhuthun, gan ddarparu mannau dysgu modern o ansawdd uchel sy’n cyfuno’n ddi-dor â’r amgylchedd lleol.”

Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, mae Read Construction wedi cael eu penodi i gyflwyno datblygiad llety 50 ystafell wely newydd i’r myfyrwyr yn Llysfasi.

Yn dilyn cymeradwyaeth gynllunio a chwblhau’r holl asesiadau amgylcheddol, mae timau adeiladu bellach ar y safle yn gosod y sylfeini ar gyfer y prosiect gwerth miliynau o bunnoedd.

Wedi’i ddylunio gan TACP Architects, bydd yr adeilad yn darparu mannau byw cyfoes o ansawdd uchel i fyfyrwyr, gan gynnwys ystafelloedd gwely en-suite, mannau cymdeithasu a pharthau cymunedol wedi’u cynllunio i feithrin ymdeimlad cadarn o gymuned.

Dywedodd Paul Izzard, Rheolwr Safle Adeiladu Read ar gyfer yr Hwb Arloesi: “Ar ôl cyflwyno’r Hwb Arloesi, rydyn ni’n deall pa mor bwysig ydy creu adeiladau sy’n gwella profiadau’r myfyrwyr yn wirioneddol, a bydd y llety yma yn cefnogi dysgwyr yn ystod eu hastudiaethau a thu hwnt.

Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill y wobr a diolch i Goleg Cambria am eu cefnogaeth.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

I weld rhagor am Read Construction, ewch i’r wefan: www.readconstruction.co.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost