Cafodd Maryam Avazzadeh ei henwi’n Ddysgwr Mynediad i AU y Flwyddyn gan Agored Cymru, gan ennill y categori “Ymrwymiad Rhagorol i Astudio” i gydnabod ei dygnwch, ei gwydnwch a’i rhagoriaeth academaidd.
Roedd Maryam wedi cwblhau’r Diploma Mynediad i AU mewn Gofal Iechyd yng Ngholeg Cambria Iâl. Cwrs dwys, blwyddyn o hyd sy’n cwmpasu pynciau gan gynnwys Bioleg, Seicoleg, Cymdeithaseg, Mathemateg a Saesneg – gan gyflawni rhagoriaeth ym mhob maes.
Mae’r cymhwyster wedi’i lunio i gefnogi dysgwyr sy’n oedolion, 19 oed a hŷn, sydd ag ychydig neu ddim cymwysterau ffurfiol er mwyn eu galluogi i symud ymlaen i’r brifysgol neu yrfaoedd lefel uwch.
Erbyn hyn mae Maryam yn dilyn gyrfa mewn hylendid deintyddol ac yn gweithio tuag at gwblhau ei TGAU mewn Gwyddoniaeth wrth iddi aros am le yn y brifysgol.
Dywedodd Maryam fod dychwelyd i addysg wedi bod yn nod hirdymor. Ar ôl byw yn y DU am dros wyth mlynedd, arhosodd nes ei bod hi’n teimlo’n ddigon hyderus i gymryd y cam.
Disgrifiodd y cwrs fel un heriol ond gwerth chweil, gan ganmol ei thiwtoriaid am eu cefnogaeth a’u hanogaeth. Daeth Bioleg a Seicoleg yn hoff bynciau iddi a dywedodd mai un o’i adegau mwyaf balch oedd pan ddywedodd ei mab wrthi ba mor falch oedd ohoni – rhywbeth mae Maryam yn ei ddisgrifio fel profiad “rhyfeddol” ac yn hynod ysgogol.
Dywedodd Gemma Ible, Cyfarwyddwr Cwricwlwm ar gyfer Mynediad a Dysgu Sylfaen yng Nglannau Dyfrdwy ac Iâl, Wrecsam, fod cyflawniad Maryam yn adlewyrchu gwerth ehangach rhaglenni Mynediad.
“Pan fydd rhywun fel Maryam yn dod i mewn i’r coleg, rydych chi’n gweld ar unwaith bod y cyfle yn golygu popeth iddyn nhw,” meddai.
Diben y cyrsiau hyn ydy darparu ffordd ddilys, strwythuredig yn ôl i’r brifysgol i unigolion sydd wedi gorfod rhoi eu nodau o’r neilltu. Mae’r ffaith ei bod hi erbyn hyn ar ei ffordd i’r brifysgol ac yn ennill graddau rhagoriaeth ar yr un pryd yr union ganlyniad yr oedden ni’n gobeithio amdano.”
Dywedodd y tiwtor Wayne Young fod ymrwymiad Maryam wedi sefyll allan o’r dechrau un.
“Nid lwyddodd yn unig wnaeth Maryam, mae hi wedi ennill graddau ragoriaeth drwyddi draw, sy’n gyflawniad arbennig,” meddai.
Doedd hi ddim yn hawdd ond fe wnaeth hi ymgymryd â’r her yn llwyr. Mae hi wedi dangos ymroddiad anhygoel. Roedd hi bob amser yn gofyn cwestiynau ac yn ceisio gwella a llwyddodd i wneud hyn wrth astudio yn ei hail iaith.
Ychwanegodd fod brwdfrydedd Maryam yn ymestyn y tu hwnt i’w hastudiaethau ei hun, gan ei disgrifio fel aelod cefnogol a chydweithredol o’r dosbarth a oedd yn helpu eraill ac yn cyfrannu at amgylchedd dysgu cadarnhaol.
Mae darpariaeth Mynediad i AU Coleg Cambria yn parhau i gynyddu mewn poblogrwydd, gan gynnig ail gyfle mewn addysg a llwybr uniongyrchol i’r brifysgol i oedolion ledled y rhanbarth.