Mae Krish Lavan, 18 oed, o Wrecsam, wedi treulio’r ddwy flynedd ddiwethaf yn astudio Mathemateg, Ffiseg, Mathemateg Bellach a Bagloriaeth Cymru yn Chweched Iâl, Cambria, lle mae wedi rhagori yn academaidd a thu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff, mae Krish wedi derbyn cynnig i astudio am radd Meistr Peirianneg (MEng) mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig ym Mhrifysgol Sheffield, gyda blwyddyn yn y diwydiant.
Ei uchelgais hirdymor yw adeiladu gyrfa mewn peirianneg electronig, gan arbenigo mewn meysydd fel electroneg ddigidol, systemau mewnosodedig, lled-ddargludyddion a roboteg, gyda diddordeb arbennig mewn datblygu technolegau sy’n datrys problemau byd go iawn.
Yn ystod ei gyfnod yn y coleg, manteisiodd Krish ar amrywiaeth o gyfleoedd i ddatblygu ei sgiliau ac arddangos ei dalent. Cymerodd ran yng nghystadlaethau Ymddiriedolaeth Mathemateg y DU, Olympiad Ffiseg Prydain a heriau peirianneg, gan ennill cydnabyddiaeth am ei allu academaidd a’i feddwl arloesol.
Ymhlith ei gyflawniadau mwyaf balch oedd ennill Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Chweched Iâl, fawreddog.
Dywedodd Krish: “Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i (Pennaeth Chweched Iâl) Gareth Jones a fy athrawon pwnc, Alistair, John, Rob ac Ekundayo, am eu cefnogaeth academaidd a’u hanogaeth gyson drwy gydol fy nhaith.
“Maen nhw wedi fy herio’n barhaus i wthio fy hun ymhellach ac wedi rhoi cyfleoedd gwerthfawr i mi arddangos fy ngalluoedd, fel cymryd rhan yng nghystadlaethau Ymddiriedolaeth Mathemateg y DU, Olympiad Ffiseg Prydain a chystadlaethau peirianneg.
“Hoffwn i hefyd ddiolch i fy nheulu a’m ffrindiau am eu cefnogaeth barhaus, yn bersonol ac wrth fy helpu i oresgyn yr heriau a’r rhwystrau rydw i wedi’u hwynebu.”
Ychwanegodd: “Roeddwn i mor ddiolchgar o ennill Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Chweched Iâl ac o gael fy enwebu gan fy Anogwr Cynnydd, Rebecca. Mae ei chefnogaeth a’i pharodrwydd i gydnabod fy nghyflawniadau wedi bod yn amhrisiadwy. Hoffwn i hefyd estyn diolch yn fawr i Nora Richardson. Fe wnaeth ei harweiniad fy helpu i ennill gwobr mewn cystadleuaeth beirianneg fawr yn y DU, a oedd yn gyfraniad sylweddol at ennill Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn.”
Y gystadleuaeth honno oedd Cystadleuaeth Big Bang sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol, a gynhaliwyd yn yr NEC Birmingham. Ochr yn ochr â’i gyd-ddysgwr Dylan Blackwell, enillodd Krish y categori “Stantec Developing Future Communities” gyda’u OMAA-Bot (Odometry Mapping Automatic Agri-Bot) arloesol.
Wedi’i gynllunio i gefnogi ffermio cynaliadwy, mae’r robot yn monitro twf planhigion yn awtomatig gan ddefnyddio system reoli sy’n seiliedig ar synwyryddion, yn hydradu planhigion trwy bwmp dŵr integredig ac yn olrhain ei symudiad i lywio llwybrau wedi’u diffinio ymlaen llaw.
Fe wnaeth Gareth Jones, Pennaeth Cynorthwyol a Phennaeth Chweched Iâl, longyfarch Krish, a dywedodd: “Mae Krish yn ddysgwr rhagorol sydd wedi dangos rhagoriaeth academaidd, agwedd benderfynol ac angerdd gwirioneddol dros beirianneg a thechnoleg yn gyson. Mae wedi bachu ar bob cyfle sydd ar gael iddo, wedi gwthio ei hun i gyflawni ar y lefel uchaf ac wedi bod yn fodel rôl gwych i’w gyfoedion. Rydyn ni’n hynod falch o’i gyflawniadau a does dim amheuaeth y bydd yn mynd ymlaen i fwynhau llwyddiant mawr yn y brifysgol a thrwy gydol ei yrfa.”
Mae Coleg Cambria yn cefnogi dysgwyr ar draws ystod eang o lwybrau academaidd a galwedigaethol, gan eu helpu i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i symud ymlaen i addysg uwch, prentisiaethau a gyrfaoedd gwerth chweil mewn diwydiannau ledled y DU a thu hwnt.