Bydd Devashree Deshpande, 18 oed, yn astudio Cyfrifiadureg yn y brifysgol fawreddog wedi dwy flynedd lwyddiannus yn Chweched Dosbarth Iâl, Coleg Cambria.
Mae’r cyn-ddisgybl o Ysgol Maelor wedi meithrin diddordeb cynyddol mewn AI a thechnolegau newydd, ac mae’n gobeithio y bydd ei gradd yn arwain at yrfa’n datblygu technoleg sy’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.
“Dwi wir yn edrych ymlaen at yr hyn sydd o’m blaen, ac at barhau i archwilio’r meysydd o fewn Cyfrifiadureg a’m hysbrydolodd yn wreiddiol yng Ngholeg Cambria,” meddai Devashree.
“Dwi eisiau parhau i ddysgu, herio fy hun a darganfod i ble gall fy niddordebau mewn meysydd fel AI a pheirianneg meddalwedd fy arwain.
“Dwi hefyd yn gobeithio ysbrydoli myfyrwyr eraill, yn enwedig menywod ifanc, i ddilyn pynciau STEM a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.”
Astudiodd Devashree Fathemateg, Mathemateg Bellach a Ffiseg yn Chweched Iâl, ynghyd ag AQA Economeg yn breifat, ond dywed fod ei hamser yn y coleg yn ymwneud â llawer mwy na chymwysterau.
Sefydlodd Glwb Datrys Problemau a manteisiodd ar gyfleoedd trwy raglen SEREN, gan gynnwys profiadau preswyl yng Nghaergrawnt a Rhydychen a helpodd i lywio ei huchelgeisiau academaidd.
Yng Nghaergrawnt, cymerodd Devashree ran mewn gweithgareddau peirianneg a darlith Cyfrifiadureg, tra bod preswyl haf yn Rhydychen wedi rhoi cyfle iddi archwilio AI, moeseg a theori anhrefn.
“Roedd y ddau breswyl yn brofiadau a newidiodd fy safbwynt yn llwyr,” meddai.
“Dod i Goleg Cambria oedd y penderfyniad gorau ar gyfer fy nhaith academaidd. Dwi bob amser wedi teimlo fy nghefnogi, fy nghalonogi a’m gwerthfawrogi.
“Cael fy nghymeradwyo gan gymaint o bobl, a chael hyfforddwr cynnydd, yw’r rheswm pam y bydd lle arbennig yn fy nghalon bob amser i Goleg Cambria.
“Dwi’n hynod ddiolchgar am yr arweiniad a gefais gan Nora Richardson, a’m cynorthwyodd bob cam o’r ffordd gyda’m cais UCAS, ac a agorodd y drws i gymaint o gyfleoedd.”
Talodd Devashree deyrnged hefyd i’w theulu am gefnogi ei huchelgeisiau.
“Aeth Mam â fi i’r holl weithgareddau yma, ni waeth pa mor bell, gan fy annog i wneud cais am gymaint ag y dymunwn,” meddai.
“Roedd Dad wastad yn cadw llygad am gyfleoedd newydd, a fy mrawd wastad yno i’m hysbrydoli a’m harwain.”
Dywedodd Gareth Jones, Pennaeth Chweched Dosbarth Iâl: “Manteisiodd Devashree i’r eithaf ar ei hamser yn Chweched Iâl, yn academaidd ac trwy’r cyfleoedd niferus a oedd ar gael iddi y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
“Roedd ei chwilfrydedd, ei phenderfyniad a’i pharodrwydd i herio ei hun yn amlwg iawn.
“Mae ei gweld yn mynd i Brifysgol Glasgow i astudio Cyfrifiadureg yn wych ac yn gwbl haeddiannol. Rydym yn hynod falch ohoni ac yn edrych ymlaen at weld i ble bydd ei hangerdd am y pwnc yn mynd â hi nesaf.”