Mae’r Academi yn dod â Chyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam a Choleg Cambria at ei gilydd i gynnig lleoliadau gwaith strwythuredig i fyfyrwyr Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Wedi’i lleoli yn adeilad iechyd a gofal cymdeithasol Nant Coleg Cambria sydd werth £14 miliwn ar ei safle Iâl, mae’r rhaglen yn rhoi profiad ymarferol i ddysgwyr ar draws gwasanaethau rheng flaen wrth helpu’r cyngor i ddatblygu gweithlu’r dyfodol.
Cafodd effaith yr ymgyrch ei harddangos yn ddiweddar yn ystod ymweliad gan Dawn Bowden, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, a aeth am ymweliad o amgylch y cyfleusterau o’r radd flaenaf a chyfarfod staff a dysgwyr sy’n rhan o’r Academi.
Dywedodd Vicky Edwards, Is-bennaeth Astudiaethau Technegol yng Ngholeg Cambria: “Roedden ni wrth ein bodd i groesawu Dawn Bowden i’n hadeilad iechyd Nant ac i gael arddangos effaith Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam. Mae’r bartneriaeth yma gyda Chyngor Wrecsam yn creu cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr, gan roi profiad ymarferol iddyn nhw wrth helpu i ddatblygu gweithlu medrus a thosturiol ar gyfer y dyfodol.
“Rydyn ni’n falch o’r gwahaniaeth mae’n ei wneud i fyfyrwyr a gwasanaethau gofal cymdeithasol ar draws Wrecsam. Drwy ymgysylltu dysgwyr yn gynnar a thynnu sylw at yr ystod o lwybrau gyrfa sydd ar gael, rydyn ni’n codi proffil gofal cymdeithasol ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesa’.”
Ers i’r lleoliadau gwaith ddechrau – cafodd yr Academi ei lansio yn 2022 – mae dwsinau o ddysgwyr wedi cymryd rhan mewn rhaglenni strwythuredig gyda chefnogaeth mentoriaid pwrpasol.
Mae myfyrwyr yn cylchdroi trwy wasanaethau gan gynnwys byw yn y gymuned, allgymorth iechyd meddwl, ail-alluogi, gofal preswyl a gofal seibiant, canolfannau teulu, gwasanaethau dydd, gofal ychwanegol, therapi galwedigaethol a thimau gofal cymdeithasol. Mae pob lleoliad gwaith yn rhoi dealltwriaeth glir i ddysgwyr o sut mae gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cefnogi unigolion, teuluoedd a chymunedol gyda thosturi ac urddas.
Mae’r Academi yn cyflwyno canlyniadau go iawn. Mae llawer o gyn-gyfranogwyr wedi symud ymlaen i raddau gwaith cymdeithasol, astudiaethau pellach, neu swyddi â thâl o fewn gwasanaethau’r cyngor a’r sector gofal annibynnol.
Dywedodd Cyng. John Pritchard, Aelod Arweiniol Wrecsam ar gyfer Gofal Cymdeithasol Oedolion, Iechyd a Llesiant: “Mae’r cydweithrediad yma rhwng y cyngor a Choleg Cambria yn arddangos ein bod ni’n sefydliad dysgu, sydd wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu’r dyfodol.
“Mae’r gwaith paratoi a chynllunio rydyn ni wedi’i wneud yn golygu bod Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam yn cynnig profiad gwaith a chyfleoedd dysgu arwyddocaol i’r myfyrwyr.”
Ychwanegodd Claire Williams, Cyfarwyddwr Cwricwlwm ar gyfer Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yng Ngholeg Cambria Iâl: “Mae’r Academi yn rhoi rhywbeth arbennig iawn i’n dysgwyr, y siawns i roi’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn, gyda chefnogaeth mentoriaid arbenigol sy’n angerddol am ddatblygu’r genhedlaeth nesa’.
“Mae’n hynod werthfawr gweld ein myfyrwyr yn tyfu mewn hyder, yn darganfod eu cyfeiriad gyrfa, ac yn dechrau eu taith i ofal cymdeithasol yn gwybod eu bod nhw’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymuned yn barod.”
Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.