Background Splash

Cyhoeddi - 10/02/2026

group of scouts taking a selfie

Bydd Georgia Ellams, Prentis Gradd sydd ar ei blwyddyn gyntaf yng Nghanolfan Brifysgol Coleg Cambria yng Nglannau Dyfrdwy, yn teithio i Accra y Nadolig yma ar ôl cael ei dewis i gwblhau Gwobr fawreddog Sgowtiaid y Byd, un o’r anrhydeddau rhyngwladol uchaf ym mudiad y Sgowtiaid.

Mae Georgia, o Wrecsam, yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Sant Joseff a Chweched Dosbarth Ysgol Dinas Brân yn Llangollen, ac wedi bod yn angerddol ers maith am beirianneg fecanyddol ac awyrofod.

Mae’r myfyriwr 19 oed ar hyn o bryd yn astudio rhaglen Prentisiaeth Gradd Airbus yng Ngholeg Cambria, gan gyfuno dysgu academaidd gyda phrofiad ymarferol yn y diwydiant, ac mae hi’n gobeithio mynd ar drywydd gyrfa mewn peirianneg awyrofod gyda’r RAF

“Dwi wedi bod â diddordeb ers erioed mewn sut mae pethau’n gweithio, yn enwedig awyrennau,” meddai Georgia, wrth siarad yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.

“Roedd y llwybr prentisiaeth gradd yn teimlo fel y cyfle perffaith. Mae’r cymorth gan Goleg Cambria ac Airbus wedi bod yn rhagorol ac mae wir wedi fy helpu i dyfu fy hyder.”

Ochr yn ochr â’i hastudiaethau, roedd Georgia’n cymryd rhan fawr yn symudiad y Sgowtiaid.

Mae hi’n Arweinydd Sgowtiaid gyda grŵp Bishop’s Own yn Wrecsam, a hi ydy’r Arweinydd Tîm 14-24 ar gyfer Sgowtiaid Ardal Wrecsam.

Mae hi wedi bod yn rhan o’r Sgowtiaid ers iddi fod yn bump oed ac yn y gorffennol pan roedd hi’n 16 oed, cynrychiolodd hi’r DU yn Jamborî Sgowtiaid y Byd yn Ne Korea.

Gan weithio gyda’r elusen Village by Village, bydd Georgia’n treulio pythefnos yn byw o fewn cymunedau yn Ghana, gan gefnogi prosiectau a allai gynnwys addysgu cymorth cyntaf, gwella gallu’r gymuned i gyrchu dŵr glân neu helpu i adeiladu ysgolion. Bydd y gwirfoddolwyr yn codi arian ar gyfer holl ddeunyddiau’r prosiect o flaen llaw.

“Dwi’n elwa gymaint o’r Sgowtiaid, i ddweud y gwir dwi ddim yn meddwl y baswn i’n mynd ar drywydd yr yrfa yma nac wedi bod â’r hyder i sicrhau lle gydag Airbus, heb fy nhaith gyda”r Sgowtiaid,” meddai hi.

“Mae wedi fy ngwthio i herio fy hun a ffynnu.”

Dywedodd Salah Berdouk, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Peirianneg Uwch yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy: “Mae Georgia yn berson ifanc arbennig ac yn ysbrydoliaeth wirioneddol. Rydyn ni’n hynod o falch o’i chyflawniadau hi.

“Mae hi’n cynrychioli popeth y mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau ei gynrychioli – uchelgais, cyfle a rhoi yn ôl i’r gymuned.”

Ychwanegodd Georgia: “Dwi’n edrych ymlaen yn arw at y cyfle yma. Mae bod yn rhan o’r Sgowtiaid yn fy ngalluogi i brofi fy hun, rhoi yn ôl a datblygu sgiliau a fydd yn fuddion i mi drwy gydol fy ngyrfa. Dwi’n teimlo braint o allu cymryd rhan.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost