Mae Reacta Healthcare, cwmni diagnostig clinigol o Lannau Dyfrdwy sy’n trawsnewid bywydau’r rhai ag alergeddau bwyd yn fyd-eang, yn gosod ei hun fel arweinydd yn y diwydiant fferyllol. Trwy fenter ar y cyd rhwng Cyngor Sir y Fflint a Choleg Cambria, mae’r cwmni wedi llwyddo i wella sgiliau mwy na hanner ei weithlu o 60.
Gyda chefnogaeth rhaglen Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru Coleg Cambria a chyllid o ddyraniad Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF), mae Reacta Healthcare wedi cwblhau 18 cwrs hyfforddi pwrpasol wedi’u teilwra i’w anghenion. Mae’r rhaglen, a gafodd £975,893 gan UKSPF, wedi darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol sy’n cael eu hariannu’n llawn, a’u darparu’n rhithwir ac yn fewnol.
Wedi’i sefydlu yn 2013, mae Reacta Healthcare yn chwarae rhan hanfodol wrth gynhyrchu prydau her sy’n cael eu defnyddio i asesu diogelwch ac effeithiolrwydd triniaethau alergedd bwyd newydd. Mae’r hyfforddiant wedi galluogi’r cwmni i ehangu ei alluoedd a chryfhau ei weithlu, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod ar flaen y gad yn ei faes.
Mae saith aelod o staff wedi cymhwyso fel hyrwyddwyr iechyd meddwl drwy’r cwrs Cyflwyniad i Hyrwyddwyr Iechyd, gan eu galluogi i arwain mentrau llesiant misol, fel canolbwyntio ar iechyd dynion ym mis Tachwedd. Yn ogystal, fe wnaeth y cwmni wella ei ddealltwriaeth o arferion diogelwch trwy gwrs Gweithio’n Ddiogel IOSH a gwella ei sgiliau rheoli prosiectau trwy ardystiad Ymarferydd Prince2.
Roedd y bartneriaeth hefyd yn cefnogi datblygu sgiliau arwain, gyda staff yn cwblhau cyrsiau Sefydliad Arwain a Rheoli (ILM) hyd at lefel pedwar, gan arwain at sawl dyrchafiad mewnol a gwell parodrwydd ar gyfer rolau arwain yn y dyfodol.
Roedd Sophie Griffiths, Pennaeth Pobl Reacta Healthcare, yn canmol y cydweithrediad: “Gyda chymorth Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru, rydyn ni wedi gallu cryfhau ein gweithlu ac alinio ein hanghenion hyfforddi gydag atebion pwrpasol o ansawdd uchel. Mae’r hyfforddiant wedi grymuso ein staff i ymgymryd â rolau a chyfrifoldebau newydd, gan gyfrannu’n sylweddol at ein llwyddiant hirdymor.
“Mae sefydlu tîm llesiant wedi bod yn werth chweil, gan ei fod wedi ein helpu ni i feithrin amgylchedd mwy cefnogol i weithwyr. Ar ben hynny, mae’r hyfforddiant wedi gwella ein sgiliau TG mewn offer hanfodol fel Microsoft Excel a PowerPoint, gan hybu cynhyrchiant yn gyffredinol.”
Mae’r fenter yn adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd Cyngor Sir y Fflint a Choleg Cambria i gefnogi busnesau lleol i gyflawni eu nodau. Fe wnaeth Rachel Mardon, Swyddog Cymorth Prosiect Sgiliau Cyflogwyr Gogledd Cymru, dynnu sylw at effaith ranbarthol y rhaglen: “Yn ystod y cyfnod economaidd heriol hwn, ein nod ydy helpu busnesau ledled Gogledd Cymru i ffynnu. Mae cyllid gan UKSPF wedi bod yn allweddol wrth ddarparu hyfforddiant sy’n lleihau straen ariannol ar gwmnïau. Mae llwyddiant Reacta Healthcare yn enghraifft wych o sut y gall y cydweithrediad hwn wneud gwahaniaeth go iawn.”
Pwysleisiodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Economi, yr Amgylchedd a’r Hinsawdd, bwysigrwydd partneriaethau o’r fath: “Mae rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar fusnesau lleol nid yn unig yn cryfhau cwmnïau unigol ond yn ysgogi twf ar draws y rhanbarth. Mae cyflawniadau Reacta Healthcare yn dangos effaith buddsoddi mewn datblygu’r gweithlu, ac rydyn ni’n falch o fod wedi cefnogi’r daith hon ochr yn ochr â Choleg Cambria.”
Mae stori Reacta Healthcare yn dyst i bŵer trawsnewidiol cydweithio, gan ddarparu glasbrint ar gyfer sut y gall awdurdodau lleol a darparwyr addysg gydweithio i ysgogi twf a llwyddiant rhanbarthol.