Yn cael ei gynnal ddydd Mercher 29 Ebrill ar safle Iâl y coleg yn Wrecsam, bydd Gyrfa Gymraeg @ Cambria yn cynnig cyfle anffurfiol a hamddenol i gyfarfod staff, dysgu am swyddi, ac archwilio sut mae defnyddio sgiliau’r Gymraeg yn y gweithle.
Nod y sesiwn yw denu dawn dwyieithog i swyddi allweddol ledled y coleg, gan gynnwys addysgu, cymorth busnes, a llwybrau diwydiant-i-addysg.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 4.30pm a 6.30pm a gall mynychwyr ddod unrhyw bryd. Bydd cyflwyniadau byr am 5pm a 6pm.
Dywedodd Llinos Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu’r Gymraeg yng Ngholeg Cambria: “Mae datblygu gweithlu dwyieithog hyderus yn ganolog i’n gweledigaeth.
“Diben y digwyddiad hwn yw cysylltu â chymunedau sy’n siarad Cymraeg a dangos pa mor werthfawr yw’r sgiliau iaith hynny mewn lleoliad proffesiynol. Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi staff bob cam o’u taith dysgu Cymraeg a chreu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.”
Bydd ymwelwyr yn gallu siarad yn anffurfiol â staff Cymraeg dros baned a chacen, heb unrhyw gyfweliadau ffurfiol, a dod i ddeall amgylchedd gweithio cefnogol a chynhwysol y coleg.
Ychwanegodd Jack Swift, Partner Busnes Adnoddau Dynol yng Ngholeg Cambria: “Rydyn ni eisiau ei gwneud hi mor rhwydd â phosibl i bobl archwilio gyrfa gyda ni. P’un a ydych chi ym myd addysg yn barod neu’n dod o’r diwydiant, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i holi cwestiynau, gwneud cysylltiadau a gweld sut beth fyddai dyfodol yn y coleg.”
Mae’r coleg yn awyddus i glywed gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant mewn sectorau fel adeiladu, peirianneg, gofal iechyd a digidol, gan gynnig llwybrau at addysgu gyda chymorth i ennill TAR wrth fod yn y swydd.
Mae Coleg Cambria hefyd yn darparu datblygiad Cymraeg wedi ei deilwra, hyfforddiant ar gyfer cyflwyno’n ddwyieithog, a chymhelliant i staff sy’n defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith.
Anogir y rhai sydd â diddordeb mewn dod i’r digwyddiad i gofrestru ymlaen llaw, am mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw lle, ewch i https://cambria.ac.uk/ymgyrchoedd/digwyddiad-recriwtio-cymraeg/?lang=cy