Background Splash

Cyhoeddi - 20/10/2026

Tilhill Students

Cymerodd bedwar ymgeisydd ran mewn amserlen llawn dop wedi’i ddylunio i roi cymwysterau cydnabyddedig sydd hefyd yn rhoi sgiliau ymarferol a pherthnasol y diwydiant iddyn nhw. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys defnyddio plaladdwyr (PA1 a PA6), gyrru tractor, Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith gydag elfen benodol ar gyfer coedwigaeth, defnyddio peiriant malu coed a hyfforddiant ATV (cerbyd pob tirwedd). Darparwyd PPE hanfodol i gyfranogwyr hefyd, gan gynnwys offer sy’n ofynnol i weithio’n ddiogel yn yr amgylchedd goedwigaeth.

Yn gyfrifol am yr hyfforddiant oedd Tilhill Forestry ynghyd â gwahanol adrannau ledled y coleg yn ogystal â hyfforddwyr ac aseswyr allanol. Mae’r rhaglen hon yn deillio o gydweithio hirdymor rhwng Tilhill a Foresight, yn ogystal â rhwng Tilhill a’r coleg ac wedi cynnig llwybr i’r sector ar gyfer gweithwyr coedwigaeth uchelgeisiol.

Meddai Elin Roberts, Pennaeth Coleg Cambria Llysfasi: “Mae cyrraedd y pumed grŵp yn garreg filltir wych ac yn dangos cryfder a hir oes y bartneriaeth. Mae coedwigaeth yn ddiwydiant pwysig sy’n parhau i esblygu ac yn galw am bobl ddawnus a hyderus gyda chymwysterau a phrofiad ymarferol yn y maes i gael dylanwad ar unwaith.

“Mae cydweithio’n agos gyda Tilhill, Foresight ac arbenigwyr yn y diwydiant yn ein galluogi ni i gynnig yr union beth hynny, gan ddod ag addysg a chyflogwyr ynghyd a chreu cyfleoedd i bobl o gymunedau ledled Cymru.

“Rydyn ni’n llongyfarch yr ymgeiswyr ar gwblhau rhaglen sy’n gofyn llawer o rywun ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Iwan Parry, Rheolwr Rhanbarthol Cymru a’r Mers yn Tilhill Forestry: “Rydyn ni wrth ein bodd bod y bartneriaeth hon rhwng Foresight a Llysfasi yn parhau i ddarparu cenedlaethau’r dyfodol o weithwyr proffesiynol coedwigaeth gyda’r sgiliau a’r profiad sydd ei angen i yrru’r sector ymlaen.

“Mae coedwigoedd yn rhan allweddol o ecosystemau Cymru a’r economi, felly mae’n hynod o bwysig bod y rheiny yn y diwydiant yn gallu gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd sy’n cael eu cyflwyno gan y sector.

“Hoffwn longyfarch y grŵp diweddaraf ac edrychaf ymlaen at weld eu cynnydd.”

Ychwanegodd Murray Aitchison, Rheolwr Portffolio’r Foresight Group: “Mae’n wych gweld pedwar ymgeisydd arall yn ennill sgiliau coedwigaeth newydd. Yma yn Foresight rydyn ni’n credu bod coedwigaeth yn gallu cael effaith economaidd gadarnhaol ar y DU a thrwy fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu sgiliau gallwn gymryd y cam arwyddocaol at adeiladu diwydiant coed mwy cynaliadwy wedi’i leoli yn y DU.”

Daw’r grŵp diweddaraf yn sgil cyfnod arall o ddatblygiad sylweddol yn Llysfasi sydd wedi cryfhau ei sefyllfa fel un o ganolfannau arweiniol y DU ar gyfer addysg astudiaethau’r tir. Mae’r safle yn gartref i’r Hwb Arloesi gwerth £10m, cyfleuster carbon niwtral yn cynnwys labordai, ystafelloedd dosbarth, gofod Addysg Uwch a llesiant a wal ddringo.

Mae gwaith yn parhau ar ddatblygiad llety myfyrwyr (50 ystafell wely) newydd gan ategu’r fferm, ardaloedd coedwigaeth a chadwraeth, gweithdai peirianneg a pheiriannau ac offer sylweddol o safon y diwydiant sydd i’w cael ar y safle.

Ychwanegodd Elin Roberts: ” Mae Llysfasi yn parhau i fynd o nerth i nerth ond mae partneriaethau fel hyn wrth wraidd popeth a wnawn – sicrhau bod ein buddsoddiad, cyfleusterau a’n addysgu yn cadw’n agos at anghenion y diwydiant a’r economi wledig.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Mae eich dyfodol yn dechrau yma!

Ceisiadau ar agor mewn...

Days
Hours
Minutes
Seconds