Mae Libby Rush sy’n 18 oed ac o Fwcle wedi sicrhau lle ym Mhrifysgol Lerpwl i astudio Hanes ar ôl cwblhau ei phynciau safon uwch mewn Hanes, Cymdeithaseg a Throseddeg yng Nghanolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria.
A hithau’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Elfed, mae Libby bellach yn edrych ymlaen at droi ei chariad at y pwnc yn yrfa wrth iddi ystyried cyfleoedd mewn addysg, amgueddfeydd neu’r sector treftadaeth.
Wrth feddwl am ei hamser yn Cambria mae Libby yn canmol y cymorth a gafodd gan y staff a’r cyfleoedd a fu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
“Dwi wedi mwynhau fy amser yn Chweched Glannau Dyfrdwy gymaint,” meddai Libby.
“Mae fy athrawon pwnc, yn arbennig Sam, Gwen ac Andy wedi bod yn gymaint o gefn i mi ac wedi fy helpu gyda chwestiynau ymarfer a rhoi adborth i mi ar fy ngwaith cwrs.
“Mae bob un ohonyn nhw gyda chymaint o angerdd at eu pynciau a dwi’n meddwl bod hynny wedi fy helpu i gymaint gyda chymryd rhan mewn gwersi ac i feithrin diddordeb yn y pynciau hyn.”
Er mai ei hastudiaethau oedd y flaenoriaeth i Libby fe gymerodd ran mewn ymweliadau addysg hefyd a gyflwynodd elfennau o fywyd go iawn i ddysgu.
Un o’r uchafbwyntiau oedd taith i Efrog Newydd lle bu cyfle i brofi nifer o’r llefydd y dysgodd amdanyn nhw mewn gwersi hanes.
“Roeddwn i wrth fy modd efo Efrog Newydd,” meddai am ei thaith i’r ddinas gyda’i chyd-ddisgyblion o’r chweched dosbarth.
“Roedd yn anhygoel gweld y pethau yr oeddwn i wedi’i ddysgu yn fy ngwersi hanes fel Wall Street ac Ellis Island. Fy uchafbwyntiau oedd gweld y Statue of Liberty a siopa ar Fifth Avenue. Roedd yn brofiad arbennig iawn a dwi mor ddiolchgar o fod wedi cael mynd yno.”
Wrth edrych i’r dyfodol mae Libby yn gobeithio troi ei brwdfrydedd am hanes yn yrfa werthfawr.
Ychwanegodd: “Dwi ddim yn gwybod eto’n bendant be ‘dwi eisiau ei wneud yn y dyfodol ond dwi’n sicr mod i eisiau gwneud rhywbeth gyda hanes.”
Meddai Mim Riddell, Pennaeth Chweched Glannau Dyfrdwy ac Is-bennaeth Astudiaethau Academaidd Coleg Cambria: “Mae Libby yn fyfyrwraig ymroddgar a brwdfrydig sydd wedi croesawu pob cyfle sydd ar gael iddi yn ystod ei hamser gyda ni.
“Mae ei hawch at hanes, ei hymrwymiad at ei hastudiaethau a’i hagwedd bositif wedi bod yn amlwg trwy gydol ei hamser yn Cambria. Rydyn ni’n falch ofnadwy o’i chyraeddiadau ac yn dymuno pob llwyddiant wrth iddi ddechrau ar ei phennod gyffrous newydd ym Mhrifysgol Lerpwl.”