Background Splash

Cyhoeddi - 19/06/2026

Student Awards 2026

Cynhaliwyd y dathliadau dros ddau ddiwrnod ar safle Iâl y coleg yn Wrecsam, ac roedden nhw’n cydnabod cyflawniad ar draws rhaglenni Addysg Bellach, Addysg Uwch, Prentisiaethau, Dysgu yn y Gwaith a Dysgu i Oedolion, gan daflu goleuni ar unigolion sydd wedi goresgyn anawsterau, wedi rhagori ar ddisgwyliadau ac wedi manteisio i’r eithaf ar bob cyfle.

Cafodd y seremonïau eu cefnogi gan y prif noddwr Airbus, gyda Google for Education yn noddi gwobrau Addysg Bellach ac Elate Construction yn noddi gwobrau Dysgu yn y Gwaith a Dysgu i Oedolion.

Gyda Yana Williams y Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr ar gyfer Profiadau Pobl a Diwylliant Caroline Street a Phennaeth y Gymraeg Llinos Roberts yn cyflwyno’r seremoni, daeth dysgwyr, teuluoedd, cyflogwyr, llywodraethwyr a staff o ar draws safleoedd Cambria yng Nglannau Dyfrdwy, Llaneurgain, Llysfasi a Wrecsam at ei gilydd i ddathlu.

Gwnaeth Yana Williams y prif weithredwr longyfarch yr holl enwebeion ac enillwyr.

“Yr hyn sy’n sefyll allan bob blwyddyn ydy penderfyniad ein dysgwyr,” meddai hi.

“Mae llawer wedi cydbwyso astudio gyda gwaith, ymrwymiadau teulu a chyfrifoldebau eraill, ond wedi parhau i wthio eu hunain a chyflawni canlyniadau rhagorol.

“Rydyn ni’n hynod o falch o’r hyn y maen nhw wedi’i gyflawni ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi’u cefnogi nhw ar hyd y ffordd.

“Nid cyflawniad yn unig sy’n cael ei ddathlu yn y gwobrau yma, ond uchelgais, gwytnwch ac ymrwymiad a fydd yn fuddiol iawn iddyn nhw beth bynnag y byddan nhw’n dewis ei wneud nesa’.”

Roedd y dysgwyr yn cynnwys:

Myfyriwr y Flwyddyn – Chweched Iâl – Krish Lavan

Myfyriwr y Flwyddyn – Chweched Glannau Dyfrdwy – Michael Knapp

Myfyriwr y Flwyddyn – Iechyd a Gofal Cymdethasol – Amelia Jenkins

Myfyriwr y Flwyddyn – Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol – Jayden Howard

Myfyriwr y Flwyddyn – Peirianneg – Tia Jones-Hughes

Myfyriwr y Flwyddyn – Cerbydau Modur – Mark Ward

Myfyriwr y Flwyddyn – Astudiaethau Technegol Llaneurgain – Mia Wright

Myfyriwr y Flwyddyn – Cyrsiau’r Tir Llysfasi – Evan Turner

Myfyriwr y Flwyddyn – Celf a Dylunio – Sian-Abbi Roberts

Myfyriwr y Flwyddyn – Sgiliau Byw’n Annibynnol – Michael Owen

Myfyriwr y Flwyddyn – Twf Swyddi Cymru+ (Iâl) – Frankie Bennett

Myfyriwr y Flwyddyn – Twf Swyddi Cymru+ (Glannau Dyfrdwy) – Lewis Clarke

Myfyriwr y Flwyddyn – Addysg Uwch – Krzysztof Folta

Dysgwr Proffesiynol y Flwyddyn – Leanne Denny

Dysgwr y Flwyddyn – Prentisiaeth Gradd – Georgia Ellams

Prentis y Flwyddyn – Crefftau Adeiladu – Cian Williams

Prentis y Flwyddyn – Technolegau Digidol – Rory Scarlett

Prentis y Flwyddyn – Y Gymraeg – Sioned Jones

Dysgwr y Flwyddyn – Cymraeg i Oedolion – Helen Murray

Dros y ddwy sesiwn roedd yna hefyd ymddangosiadau a chyflwyniadau gwadd gan Stifyn Parri, sydd â mwy na 40 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau creadigol fel Cynhyrchydd, Difyrrwr, Cyflwynydd a Mentor, a sesiwn Holi ac Ateb gyda Naomi Griffiths, Kierion Lloyd a Georgia Ellams, a drafododd eu teithiau prentisiaeth gyda’r coleg.

Dywedodd Caroline fod y gwobrau’n tynnu sylw at ehangder y dalent yng Ngholeg Cambria.

“Mae stori pawb yn wahanol, a dyna beth sy’n gwneud y gwobrau yma mor arbennig,” meddai hi.

“Mae rhai dysgwyr wedi symud ymlaen at addysg uwch, rhai i gyflogaeth a phrentisiaethau, tra bod eraill wedi dychwelyd i ddysgu yn ddiweddarach mewn bywyd ac wedi cyflawni pethau nad oedden nhw erioed wedi meddwl byddai’n bosib eu cyflawni.

“Mae eu llwyddiant yn glod iddyn nhw, eu teuluoedd, eu cyflogwyr a’r staff sydd wedi’u cefnogi, ac rydyn ni wrth ein bodd yn dathlu eu cyflawniadau.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost