Background Splash

Cyhoeddi - 21/09/2026

Deeside Sixth Celebration

Agorodd y ganolfan sydd werth £14.6 miliwn ym mis Medi 2016, a chafodd ei hagor gan y Prif Weinidog Carwyn Jones fel cyfleuster o’r radd flaenaf ar gyfer addysg ôl-16 yn Sir y Fflint.

Degawd yn ddiweddarach, mae wedi helpu cannoedd o bobl ifanc i gymryd eu camau nesaf i addysg uwch, prentisiaethau gradd a chyflogaeth fedrus, gyda chyn-fyfyrwyr yn symud ymlaen at rai o brifysgolion blaenllaw y DU ac i mewn i yrfaoedd heriol a hynod gystadleuol.

Heddiw daeth staff o’r gorffennol a staff presennol, cyn-fyfyrwyr a dysgwyr presennol at ei gilydd wrth i’r ganolfan ddathlu ei degawd, gan adfyfyrio ar oes lle mae bywydau wedi cael eu trawsnewid ac uchelgeisiau wedi’u gwireddu.

Ymhlith y rhai a oedd yn canmol y ganolfan roedd Nathan Hall, o Dreffynnon, a astudiodd Safon Uwch mewn Busnes, y Gyfraith a Ffrangeg cyn sicrhau prentisiaeth radd fawreddog fel cyfreithiwr gyda’r cwmni cyfreithiol rhyngwladol Ashurst Perkins Coie. Wrth iddo hyfforddi fel cyfreithiwr a chwblhau ei radd yn y gyfraith ar yr un pryd, mae’n priodoli’r ffaith iddo ddod i wybod am lwybr y gallai fod wedi’i golli fel arall i’r coleg.

“Rhoddodd Cambria llawer o gyfleoedd i glywed am opsiynau gyrfa y tu hwnt i’r llwybr prifysgol traddodiadol,” meddai.

“Roeddwn i hefyd wrth fy modd efo’r annibyniaeth a’r ymddiriedaeth a gafodd eu rhoi i mi o’r dechrau cynta’, a wnaeth y cam ar ôl y Chweched Dosbarth yn llawer llai brawychus.

“Wrth i ganolfan Chweched Glannau Dyfrdwy ddathlu ei phen-blwydd yn 10 oed, hoffwn i longyfarch pawb sydd wedi ei wneud yn gymaint o lwyddiant. Mae’n lle sydd wedi rhoi’r hyder i mi fynd ar drywydd llwybr gwahanol a dwi’n andros o ddiolchgar o fod wedi bod yn rhan o’i stori.”

Efallai mai’r cyn-fyfyriwr Dr Ellie Moore sy’n dangos orau’r effaith sy’n newid bywydau y gall addysg ei chael.

Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 oed a mynd yn syth i weithio, gwnaeth hi ddychwelyd i addysg yn Chweched Glannau Dyfrdwy, heb fod yn siŵr a oedd hi’n gallu astudio Safon Uwch. Heddiw mae ganddi PhD o Brifysgol Loughborough.

“O’r dechrau cynta’, gwnaeth Coleg Cambria adeiladu fy hyder,” meddai hi.

“Roeddwn i wrth fy modd efo bob eiliad a gwnaeth newid sut roeddwn i’n fy ngweld fy hun a’r hyn roeddwn i’n meddwl oedd yn bosib.”

Ychwanegodd hi: “Gwnaeth Chweched Glannau Dyfrdwy osod y sylfeini ar gyfer y bennod yma yn fy mywyd; gyda’r gefnogaeth gywir a’r bobl gywir yn eich cefnogi chi, gallwch chi wir gyflawni unrhyw beth.”

Dywedodd Louise Barnard, sydd bellach yn feddyg dan hyfforddiant yn y GIG ar ôl astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Newcastle, fod y coleg wedi ei pharatoi ar gyfer un o raglenni gradd fwyaf heriol y wlad.

“Wrth edrych yn ôl, dwi’n teimlo bod Coleg Cambria wedi helpu i ddatblygu fy annibyniaeth a’m hyder fel dysgwr sy’n oedolyn, rhywbeth a wnaeth y broses o symud i’r brifysgol yn llawer llyfnach,” meddai.

Mae Alice Cleave, sydd bellach yn Swyddog Ymgysylltu a Dysgu yn Llyfrgell Gladstone ym Mhenarlâg, yn cofio cyrraedd y ganolfan fel eiliad a luniodd ei dyfodol.

“Roedd symud o’r ysgol uwchradd i’r cyfleusterau newydd anhygoel yma yn teimlo fel cam gwirioneddol ymlaen, a gwnaeth fy annog i ddod yn llawer mwy annibynnol,” meddai.

“Roedd y tiwtoriaid yn wych ac yn hynod gefnogol tra roeddwn i yno a hyd yn oed wedyn. Fe wnaethon nhw danio fy angerdd am wleidyddiaeth yn arbennig, ac mae hynny wedi dylanwadu ar bopeth dwi wedi mynd ymlaen i’w wneud.”

O Ogledd Cymru i un o brifysgolion mwyaf mawreddog y byd, graddiodd y cyn-ddisgybl Tom Billington yn ddiweddar mewn Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol ym Mhrifysgol Princeton yn New Jersey, gan ychwanegu stori lwyddiant nodedig arall at eu cymuned gynyddol o gyn-fyfyrwyr.

Gellir teimlo dylanwad y ganolfan ym maes gwasanaethau cyhoeddus hefyd. Mae Matthew Barnes bellach yn Swyddog y Wasg Cynorthwyol gyda Heddlu Metropolitan New Scotland Yard, ar ôl dechrau ei yrfa ym maes cyfathrebu yn Westminster.

“Gwnaeth y dull dysgu fy mharatoi’n wirioneddol ar gyfer popeth sydd wedi dod ers hynny,” meddai.

“Rhoddodd y sgiliau academaidd i mi i lwyddo yn y brifysgol a gwnaeth fy annog i gredu mwy yn fy ngalluoedd, gan lunio fy newisiadau gyrfaol ers hynny.”

I Jonathon Dawes, y mae ei lwyddiannau ym myd tenis a gwleidyddiaeth ieuenctid wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol iddo, Chweched Glannau Dyfrdwy oedd y lle a ddechreuodd uchelgais o ddifrif.

“Coleg Cambria wnaeth fy annog i wneud cais i brifysgol pan oeddwn i’n ystyried opsiynau eraill,” meddai.

“Gwnaethon nhw feithrin fy angerdd am denis a rhoi’r hyder i mi feddwl yn fawr.”

Mae llawer o gyn-ddysgwyr hefyd wedi dychwelyd ers hynny i siarad â myfyrwyr presennol, gan greu cylch o ysbrydoliaeth sydd wedi dod yn un o nodweddion diffiniol y coleg dros y degawd diwethaf.

Dywedodd Mim Riddell, Pennaeth Chweched Glannau Dyfrdwy a Dirprwy Bennaeth Astudiaethau Academaidd yng Ngholeg Cambria, fod y pen-blwydd yn ddathliad o bobl, nid dim ond yr adeilad ei hun.

“Mae dathlu ein degfed pen-blwydd yn hynod arbennig, gan ei fod yn rhoi cyfle i ni adfyfyrio ar gannoedd o deithiau rhyfeddol a ddechreuodd yma,” meddai.

“Dros y degawd diwethaf, rydyn ni wedi gweld cyn-fyfyrwyr yn symud ymlaen i rai o brifysgolion blaenllaw’r DU, yn sicrhau prentisiaethau mawr eu bri, yn sefydlu gyrfaoedd llwyddiannus ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu proffesiynau a’u cymunedau. Mae hynny’n rhywbeth y gall pob aelod o’r staff fod yn hynod falch ohono.

“Mae ein cyn-fyfyrwyr bellach yn gofalu am gleifion, yn llunio polisi cyhoeddus, yn diogelu cymunedau, yn cynnal ymchwil, yn arwain busnesau, yn cefnogi elusennau ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesa’. Gyda’i gilydd, maen nhw’n gwneud cyfraniad enfawr i gymdeithas a’r economi, a dechreuodd y cyfan gyda’r penderfyniad i gamu trwy ein drysau.”

Ychwanegodd Mim: “Rydyn ni’r un mor gyffrous am y dyfodol. Bob mis Medi, mae cenhedlaeth arall yn cyrraedd gyda breuddwydion a photensial, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld i ble y bydd y deng mlynedd nesa’ yn mynd â nhw.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost