Dysgu Saesneg

ESOL Students in a classroom,  interacting with the tutor at the front of the class

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, bydd cwrs  Dysgu Saesneg yng Ngholeg Cambria yn berffaith i chi. Byddwn yn eich helpu chi i wella eich sgiliau siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu Saesneg.

Bydd y cyrsiau yn eich helpu chi yn eich bywyd a’ch gwaith bob dydd, ac yn dangos rhagor i chi am fywyd Prydeinig a diwylliant Cymru, gan ehangu eich profiad o fyw yn y DU.

Cysylltwch ag mi wnawn ni eich ffonio'n ôl

Hoffech chi weld y dudalen yma mewn iaith arall?

Yaser Iranshahi

Yaser Iranshahi

Astudiodd – Dysgu Saesneg

Fy hoff beth am astudio yng Ngholeg Cambria oedd yr amgylchedd cyfeillgar a pharodrwydd pobl i helpu. Roedd yr athrawon bob amser yn gymwynasgar ac yn fy annog i wneud fy ngorau.

Mi fyswn i’n dweud wrth unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais i Goleg Cambria ei fod yn lle gwych i ddysgu ac i wella eich sgiliau ac mae ymdeimlad bod cymorth bob amser ar gael drwy gydol eich astudiaethau.

Yn y dyfodol dwi’n gobeithio parhau â’m haddysg a chael gyrfa lwyddiannus. Mae fy amser yng Ngholeg Cambria wedi fy helpu i fagu hyder a datblygu sgiliau pwysig ar gyfer fy nyfodol.

Mae’n deimlad anhygoel dod yn fuddugol yn y Gwobrau Myfyrwyr a dwi’n teimlo’n falch ac yn ddiolchgar am y cyfle hwn.”

Dangos mwy
Tanbir Hussain

Tanbir Hussain

Astudiodd – Dysgu Saesneg

Ym mis Ionawr 2026 fe ddechreuais y cwrs Dysgu Saesneg ar safle Iâl yng Ngholeg Cambria. Ers fy niwrnod cyntaf dwi wedi teimlo’n gyffrous yn hytrach na nerfus ac wedi bod yn benderfynol o wella fy Saesneg a datblygu sgiliau newydd. 

Dros y pum mis diwethaf dwi wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran fy sgiliau iaith Saesneg ac mae fy hyder wedi tyfu’n sylweddol. Mae’r amgylchedd ddysgu gefnogol ynghyd â staff ac athrawon cyfeillgar ac agos atoch wedi fy helpu i deimlo’n gartrefol ac wedi bod yn hwb i mi drwy gydol fy astudiaethau. 

 

Mae gan Goleg Cambria gyfleusterau a chymorth rhagorol i fyfyrwyr yn cynnwys Cambria Heini, gwasanaethau llesiant, llyfrgell fawr, gweithgareddau ymrwymo’r gymuned a chymorth iechyd meddwl. Mae’r adnoddau hyn wedi fy helpu gyda fy mhrofiad dysgu yn gyffredinol a fy ngwneud i deimlo’n falch o fod yn rhan o’r coleg.

Mae Dysgu Saesneg wedi bod yn hanfodol i mi ar gyfer setlo i fywyd yn y DU ac i baratoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. Mae fy mhrofiad yng Ngholeg Cambria wedi atgyfnerthu fy hyder ac wedi rhoi’r sgiliau a’r cymorth sydd ei angen arna’i er mwyn cyflawni fy nodau proffesiynol.

Dangos mwy
Rory Scarlett

Rory Scarlett

Astudiwyd – Prentisiaeth Lefel 3/Lefel 2 mewn Cymorth Cymwysiadau Digidol

“Mwynheais astudio ar gyfer fy mhrentisiaeth gyda Choleg Cambria yn fawr iawn; cefais gefnogaeth wych gan fy ymarferydd dysgu yn y gweithle, a chawsant eu helpu i mi pryd bynnag yr oedd gennyf gwestiynau, gan ymateb yn gyflym iawn.

Mae gwneud prentisiaeth yn y gweithle yn beth gwych; rydych chi’n ennill sgiliau a phrofiad go iawn tra hefyd yn ennill cymhwyster, sy’n wych ar gyfer eich gyrfa!

Fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol yw astudio’r brentisiaeth radd mewn Seiberddiogelwch ym Mhrifysgol Bangor.

Mae’n teimlo’n wych ennill gwobr i fyfyrwyr a gwybod bod rhywun wedi gwerthfawrogi’r holl waith caled ac ymroddiad rydw i wedi’i roi i’r broses.”

Dangos mwy
Photo of Ashley Littlemore recieving a student award

Ashley Littlemore

Astudiais – Lefel 3 Meddalwedd TG, y We a Thelathrebu i Weithwyr Proffesiynol

Ar hyn o bryd – Yn gweithio yn CSA Group

Y peth gorau am astudio yn Cambria fel dysgwr yn y gweithle yw’r gallu i ennill arian ac astudio ar yr un pryd; mae hefyd yn rhoi amser i mi ganolbwyntio ar bob agwedd ar fy mywyd.

Os ydych chi’n ystyried gwneud cais i Goleg Cambria, gwnewch yn siŵr ei fod yn gwrs sydd o ddiddordeb i chi ac yr ydych yn angerddol yn ei gylch, oherwydd pan fyddwch chi’n angerddol am rywbeth, mae astudio yn llawer haws.

Ar gyfer y dyfodol, rwy’n gobeithio cael swydd amser llawn ym maes Cymorth Technegol – bydd fy amser yn Cambria yn fy helpu gyda hyn gan ei fod wedi rhoi’r hyder i mi fynd ar drywydd fy mreuddwyd, sef gweithio yn y diwydiant TG.

Mae’n teimlo’n wych ennill Gwobr Myfyrwyr, gan nad oeddwn i’n disgwyl hynny o gwbl!

Dangos mwy
Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llaneurgain
14/11/2026

10:00

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost