Home > Oedolion a Rhan-amser > Gweld Pob Maes Pwnc > PRINCE2 – Rheoli Prosiectau
PRINCE2 – Rheoli Prosiectau
PRINCE2 - Rheoli Prosiectau
Mae PRINCE2® yn ddull strwythuredig o reoli prosiectau y gellir ei addasu ar gyfer prosiectau o unrhyw faint. Wedi’i ddatblygu gan lywodraeth y DU ac yn seiliedig ar arferion gorau, mae’n safon sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ar gyfer rheolwyr prosiect.
Bydd unigolion sy’n chwilio am waith fel rheolwyr prosiect yn gwybod bod cael tystysgrif gan arweinydd y farchnad yn ychwanegiad gwerthfawr at eu portffolio proffesiynol.
Rich Brady
Astudiais – Rheoli Prosiectau PRINCE2 – Sylfaen
Currently – Cyllid cyfrif dysgu personol
“Mi wnes i ddewis astudio rheoli prosiectau am fy mod i wedi treulio dros 10 mlynedd yn arwain prosiectau newid yn y gwaith ac eisiau adeiladu ar y profiad hwnnw gyda chymhwyster cydnabyddedig. Mi wnes i gwblhau PRINCE2 Sylfaen wrth weithio yn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a gyda chymorth Coleg Cambria a’r Cyfrif Dysgu Personol, rydw i wedi gallu parhau i’r lefel nesaf. Mae hyn hefyd wedi fy helpu i ddod â rhagor o strwythur a hyder o ran sut ydw i’n cynllunio ac yn cyflawni prosiectau.
Yn fy swydd bresennol, mae hyn yn helpu’n uniongyrchol gyda phrosiect ailddatblygu safle yn Ninbych, yn enwedig yn y ffordd rydyn ni’n trefnu gwaith a chyfathrebu gydag eraill sy’n rhan o’r gwaith. Mae’r cyllid hefyd yn golygu fy mod i wedi gallu datblygu fy sgiliau heb gost ychwanegol i’r cwmni, sy’n helpu rhyddhau adnoddau ar gyfer blaenoriaethau eraill. Wrth edrych ymlaen, rydw i eisiau parhau i ddatblygu, gan gynnwys astudio Sigma Chwech Darbodus, i helpu i wneud ein gwaith yn fwy effeithlon a dod â chyfleoedd newydd yn y dyfodol, gan gynnwys mynd dramor i weithio ar brosiectau.“
Nathan Griffiths
Astudiais – Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid
Ar hyn o bryd – Dysgwr Yn Y Gwaith Y Flwyddyn 2026 – Cyngor Ac Arweiniad / Gwasanaethau I Gwsmeriaid
“Mae fy amser yng Ngholeg Cambria wedi bod yn brofiad cadarnhaol, ac mae wedi fy helpu i ddatblygu’n bersonol ac yn academaidd. Un o’r pethau rydw i wedi’i werthfawrogi fwyaf ydy pa mor gefnogol oedd y tiwtoriaid a’r staff drwy gydol fy nghyfnod astudio. Maen nhw wastad wedi bod yn hawdd siarad â nhw ac yn barod i helpu, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fy hyder a lefelau ysgogiad. Rydw i’n ystyried cwblhau cymhwyster arall yn barod.
Mae fy rhaglen Dysgu Yn Y Gwaith yng Ngholeg Cambria wedi bod yn brofiad gwych ac wedi rhoi’r cyfle i mi ddatblygu sgiliau gwerthfawr wrth i mi ennill profiad go iawn yn y gweithle. Mae gallu dysgu yn y gwaith a rhoi’r hyn rydw i wedi’i ddysgu ar waith mewn sefyllfaoedd ymarferol wedi fy helpu i feithrin hyder a pharatoi ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.
Roedd ennill Gwobr Myfyriwr yn syndod llwyr ac yn anrhydedd go iawn. Roedd yn ffaith bod fy ngwaith caled yn cael ei gydnabod yn deimlad anhygoel, ac fe wnaeth i mi deimlo’n falch o bopeth rydw i wedi’i gyflawni yn ystod fy amser gyda Choleg Cambria. Rydw i’n ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth rydw i wedi’i gael, a byddwn i’n argymell Coleg Cambria i unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais i astudio.”