Erbyn hyn, gyda chynigion prifysgol gan sefydliadau blaenllaw fel Prifysgol Fetropolitan Manceinion, John Moores Lerpwl, a Met Caerdydd, mae’r ferch 18 oed yn edrych ymlaen at fynd i Brifysgol Bangor i astudio Addysgu Cynradd – yn barod i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf yn yr un modd ag y cafodd hi.
“Dwi wedi bod mwynhau bod yn rhan o gymuned Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy. O’r diwrnod cyntaf un, roeddwn i’n teimlo ‘mod i’n cael fy nghefnogi, fy nghroesawu, a’m gwthio i gyflawni fy ngorau, hyd yn oed pan oedd pethau’n anodd,” meddai.
Astudiodd Megan, o Drury, Safon Uwch mewn Cymdeithaseg, y Cyfryngau, Celf a Bagloriaeth Cymru. Ond yn ogystal â llwyddiant academaidd, roedd ei hamser yng Ngholeg Cambria hefyd yn ymwneud â thwf, gwydnwch, a gwneud ei marc.
O ddod yn ail yng nghategori Mentee y Flwyddyn Reaching Wider, i jyglo dwy swydd ran-amser, cyfrannu at gylchgrawn y myfyrwyr, a dod yn llysgennad myfyrwyr dros Gymdeithaseg, gwnaeth Megan y gorau o bob cyfle.
Cafodd hyd yn oed ei henwi’n Fyfyriwr y Flwyddyn Chweched Glannau Dyfrdwy, teitl y mae’n falch iawn ohono.
Ond mae Megan yn dweud na fyddai ei thaith wedi bod yr un peth heb y bobl a fu’n gefn iddi.
“Mae’r gefnogaeth gan y staff wedi bod yn anhygoel. Dwi wedi bod mor ffodus o gael fy amgylchynu gan diwtoriaid ymroddedig ac angerddol, yn enwedig Samantha Ingman, fy athrawes Cymdeithaseg,” meddai.
“Samantha oedd fy nghefnogwr mwyaf, nid yn unig yn ei phwnc hi ond yn fy astudiaethau i gyd.
“Hi oedd y person roeddwn i’n troi ati am gyngor, anogaeth, a rhywun sy’n credu ynof fi o ddifrif. Fedra’i ddim diolch digon iddi.”
Yn y dyfodol, nod Megan yw bod yn athrawes ysgol gynradd, gan greu lle cynnes ac ysbrydoledig i’w darpar ddisgyblion, yn union fel yr un a gafodd hi yn y coleg.
I unrhyw berson ifanc sy’n ystyried eu camau nesaf ar ôl TGAU, mae ganddi neges glir:
“Mae Coleg Cambria yn fwy na choleg, mae hefyd yn gymuned. Mae’n rhywle y gallwch chi dyfu, cyflawni, a bod yn falch o bwy rydych chi am fod,” meddai Megan.
“Os ydych chi’n ystyried Safon Uwch, ewch amdani – wnewch chi ddim difaru.”
Ychwanegodd Mim Riddell, Pennaeth Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy a Phennaeth Cynorthwyol ar gyfer Astudiaethau Academaidd:
“Mae Megan yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni gyda gwaith caled, penderfyniad a’r gefnogaeth gywir. Mae hi wedi cofleidio pob cyfle, ac rydyn ni’n falch dros ben o’i thaith. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld y gwahaniaeth y bydd hi’n ei wneud ym myd addysg.”
Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o wybodaeth am astudio Safon Uwch yng Ngholeg Cambria. Fel arall, anfonwch e-bost at admissions@cambria.ac.uk, ffoniwch 0300 30 30 007 neu defnyddiwch yr adnodd Sgwrsiwch rŵan! | Cymorth i Gwsmeriaid ar y wefan.