Background Splash

Cyhoeddi - 14/10/2026

AWARD-WINNING Airbus apprentice Georgia Ellams conquered three of the country’s most iconic peaks in just 24 hours as she steps up fundraising for a humanitarian mission to Ghana.

Mae’r ferch 19 oed o Wrecsam wedi cyflawni’r Her Tair Copa gan drechu Pen y Fan, Cadair Idris a’r Wyddfa fel rhan o’i her i godi arian cyn teithio i Accra y Nadolig hwn.

Mae Georgia yn un o 20 o bobl ifanc o bob cwr o’r DU – a dim ond dau o Gymru – i gael ei dewis ar gyfer y prosiect rhyngwladol, a bydd yn treulio pythefnos yn gweithio gyda chymunedau i wella mynediad at addysg a dŵr glân gan gynnwys adeiladu system cynaeafu dŵr glaw.

Mae’r her yn cloi blwyddyn fythgofiadwy i’r cyn myfyriwr o Ysgol Uwchradd St Joseph a myfyriwr chweched dosbarth Ysgol Dinas Brân a gafodd ei henwi hefyd fel Dysgwr y Flwyddyn ar gyfer Prentisiaeth Gradd Coleg Cambria yng Ngwobrau Myfyrwyr y coleg yr haf hwn.

Mae Georgia yn astudio Prentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Awyrennol a Gweithgynhyrchu gyda Airbus yng Nglannau Dyfrdwy lle mae hi wedi cyflawni’r graddau gorau yn barhaus ac yn gweithio at radd dosbarth cyntaf wrth iddi ennill profiad ymarferol a gwerthfawr yn y diwydiant.

Meddai: “Roedd Her Tair Copa Cymru yn her a hanner ond roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth a fyddai’n fy ngwthio i’r eithafion a gyda’r gobaith yn codi mwy o ymwybyddiaeth a chymorth ar gyfer y prosiect yn Ghana.

“Dwi’n hynod o ddiolchgar i bawb sydd wedi fy nghefnogi hyd yma. Mae pob cyfraniad yn mynd i wneud gwahaniaeth i’r cymunedau y byddwn yn gweithio gyda nhw ac felly mae unrhyw gyfraniad yn fawr neu’n fach yn golygu gymaint.”

Bydd Georgia yn cyflawni’r prosiect dyngarol gydag elusen Village by Village fel rhan o Wobr y Flwyddyn y Sgowtiaid mawreddog, un o anrhydeddau rhyngwladol mwyaf y Sgowtiaid.

A hithau’n Arweinydd i’r Sgowtiaid gyda grŵp yr Esgob ei hun yn Wrecsam ac yn Arweinydd Ieuenctid i Sgowtiaid Rhanbarth Wrecsam, mae Georgia wedi bod yn rhan o’r symudiad ers iddi fod yn bump oed ac wedi cynrychioli’r DU yn y gorffennol yn Jambori Sgowtiaid y Byd yn Ne Corea.

Mae ei hymrwymiad i’r Sgowtiaid wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ddatblygu ei sgiliau gwaith tîm, hyder ac arwain ac mae hi wedi cyflwyno’r rhain yn ei hastudiaethau a’i phrentisiaeth.

Ychwanegodd Salah Berdouk, Cyfarwyddwr Cwricwlwm ar gyfer Peirianeg Uwch yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy: “Mae Georgia yn Brentis Gradd eithriadol sy’n cyflawni’r graddau uchaf yn gyson ond mae hi hefyd yn sefyll allan am ei bod mor garedig a phositif ac mor barod i helpu eraill.

“Mae ei chyfraniad at y prosiect dyngarol hwn yn enghraifft o’i hymrwymiad a’i gwerthoedd cadarn ac mae ei phrofiadau gyda’r Sgowtiaid wedi ei helpu gyda’i sgiliau gwaith tîm ac arwain.

“Rydyn ni wrth ein bodd yn gallu tynnu sylw at y rhinweddau hyn drwy ei henwi yn Ddysgwr y Flwyddyn ar gyfer y Prentisiaeth Gradd ac rydyn ni mor falch o bopeth mae Georgia wedi’i gyflawni.”

Nod Georgia yw parhau gyda’i hastudiaethau cyn mynd ati i wireddu ei huchelgais o yrfa mewn peirianneg awyrofod.

I gyfrannu at ymgyrch Georgia i godi arian ac i wneud gwahaniaeth i gymunedau yn Ghana, ewch i: Village By Village: 3 Peaks, 1 Purpose: Rainwater Collection Project for Ghana.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost