Home > Prentisiaethau > Gweld Pob Maes Pwnc > Ceffyleg
Ceffyleg
Ceffyleg
Gwybodaeth am Brentisiaethau
Pam Dewis Prentisiaeth?
Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.
Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.
Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.
Os oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn ceffylau, efallai dyma’r cyfle perffaith i chi symud ymlaen yn y diwydiant ac ennill cymhwyster a gydnabyddir yn
genedlaethol neu dystysgrifau Cymdeithas Ceffylau Prydain. Mae llwybrau yn y cymwysterau hyn yn cynnwys marchogaeth, bridio a hyfforddi.
Asesir prentisiaid yn y gwaith gan ein timau asesu sydd â phrofiad yn y diwydiant.
Mae angen i ddysgwyr a fydd yn cwblhau’r cymwysterau hyn bod â’r gallu i beidio â chynhyrfu, yn amyneddgar ac yn hyderus wrth weithio gyda cheffylau. Bydd angen i chi fod â lefel ffitrwydd a chryfder da.
Y Prentisiaethau Rydym yn eu Cynnig
Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth Lefel 2,3 a 4 mewn ceffyleg.
Lefel 2 City & Guilds neu Gymdeithas Ceffylau Prydain mewn Ceffyleg, Gofal Ceffylau, Marchogaeth a Hyfforddi
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 18 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Gweithle
Lefel 3 City & Guilds neu Gymdeithas Ceffylau Prydain mewn Ceffyleg, Gofal Ceffylau, Marchogaeth a Hyfforddi
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 18 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Gweithle
Lefel 4 Cymdeithas Ceffylau Prydain mewn Gofal, Marchogaeth a Rheolaeth Uwch
Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol
Hyd Arferol – 18 mis
Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith
Lleoliad – Gweithle
Ymweld â'n horiel
Astudiaethau Achos
Kimberly Jones
“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.
I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”
Jane Moore
“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.
I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”
Alice Stansford
“During my apprenticeship I was getting the training as well as getting paid. It opens your eyes up to the working environment and gets you ready for your future.
I think it’s brilliant to have the opportunity to do an apprenticeship as a mature person.”
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!
Y Cyflogwyr Rydym yn Gweithio Gyda Nhw
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
Digwyddiad Agored – Llaneurgain
16 oed neu'n hŷn
Gall unrhyw un sy'n hŷn nag 16 ymgymryd â phrentisiaeth
Cyflogedig/Uwchsgilio
Os ydych chi'n weithiwr sydd eisiau uwchsgilio a rhoi hwb i'ch rhagolygon gyrfa
Cyflogaeth yn y Dyfodol
Gall cyflogwr gynnig eich rhoi chi ar brentisiaeth
Sut mae'n gweithio
Yng Nghymru, mae angen i Brentisiaid fod yn 16 oed neu’n hŷn ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos i gwblhau Prentisiaeth. Rhaid i’r cyflogwr fod yn awyddus i’ch cefnogi chi gyda’r Brentisiaeth gan y byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle ac efallai y bydd angen i chi fynd i’r coleg yn rheolaidd (mae hyn yn dibynnu ar y cymhwyster) i ddysgu sgiliau newydd a chwblhau unrhyw arholiadau.
Bydd ymarferydd sydd â phrofiad yn y diwydiant yn cael ei bennu i chi a fydd yn dod i’r gweithle ac yn gosod tasgau i chi i gasglu tystiolaeth sy’n mynd tuag at eich cymhwyster. Hefyd byddant yn gwirio eich llesiant ac yn sicrhau nad oes unrhyw broblem neu yn eich cyfeirio chi at gymorth ychwanegol yn Cambria os oes angen.
Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau ar wefan Llywodraeth Cymru
Beth mae prentisiaeth yn ei gynnwys?
Ymrwymiad gennych chi i weithio'n galed a bod yn angerddol am eich datblygiad.
Ymrwymiad gan eich cyflogwr i gefnogi eich datblygiad a'ch dysgu.
Cyfarfodydd rheolaidd gyda'ch ymarferydd a'ch tiwtoriaid.
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth, byddwch wedi ennill sawl cymhwyster a thystysgrif prentisiaeth lawn.
Lefelau Prentisiaeth
Gellir darparu Prentisiaethau ar Lefel 2 – Lefel 6
Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2
Dyma’r man cychwyn ar gyfer prentisiaethau, mae’n rhoi’r sylfeini a dealltwriaeth o’r swydd i chi ac mae’n cyfateb i 5 TGAU
Prentisiaeth Lefel 3
Mae Lefel 3 yn ddilyniant naturiol o Lefel 2 ac mae’n rhoi rhagor o wybodaeth fanwl i chi am y pwnc ac mae’n gyfwerth â llwyddo mewn 2 gymhwyster Safon Uwch
Prentisiaeth Uwch Lefel 4 a 5
Mae cymwysterau Lefel 4/5 NVQ a HNC yn gyfwerth â’r flwyddyn gyntaf mewn Prifysgol fel arfer. Mae angen lefel uchel o wybodaeth a dealltwriaeth i astudio ar y lefel hon
Prentisiaeth Gradd Lefel 6
Mae’r cymwysterau Lefel 6 yn raddau a ddarperir mewn partneriaeth â’n partneriaid Prifysgol
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!
Cwestiynau Cyffredin
Mae angen i chi fod yn gyflogedig i wneud Prentisiaeth
Gallwch wneud prentisiaeth mewn sawl sector – Cyllid, Digidol, Rheoli, Amaethyddiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo, Gwallt a Harddwch – i enwi ond ychydig!
Rhaid i brentisiaid gael eu talu o leiaf yr isafswm cyflog Prentisiaeth gan eu cyflogwr, ond mae’r rhan fwyaf o leoedd yn talu rhagor. Gallwch weld y gofynion cyflog diweddaraf ar wefan y Llywodraeth
Mae llawer o gymorth ar gael i Brentisiaid trwy’r coleg gan gynnwys trwy eu hasesydd a gwasanaethau myfyrwyr.
Gall prentisiaid hefyd gyrchu ACAS neu wasanaethau cynghori eraill i gael cyngor