Mae’r flwyddyn garreg filltir hefyd yn arwydd o gyflawniad mawr i’r coleg, gan atgyfnerthu ei safle fel y sefydliad AB gorau yng Nghymru ar gyfer cyfranogwyr Gwobr Dug Caeredin, gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill sgiliau bywyd hanfodol, hyder a gwytnwch drwy’r wobr.
Mae dros 400 o ddysgwyr ar draws safleoedd Cambria yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi wedi cwblhau’r Gwobrau Efydd, Arian ac Aur dros y tair blynedd diwethaf, gyda’r coleg yn anelu at gael 300 o fyfyrwyr yn cwblhau’r wobr yn 2026 yn unig, sy’n adlewyrchu nid yn unig y nifer sydd wedi cofrestru, ond pobl ifanc yn gweld pob cam i lwyddiant.
Mae’r cynnig cynhwysol yn agored i ddysgwyr o bob cefndir, pwnc a lefel, gydag arweiniad wedi’i deilwra i helpu pawb i gymryd rhan.
Yn ddiweddar roedd hyn yn cynnwys myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol yn Llaneurgain, sy’n cwblhau eu Gwobrau Arian cyntaf – gan feithrin hyder i archwilio cyfleoedd ehangach fel cystadlaethau WorldSkills yn y dyfodol.
Dywedodd Swyddog Gwobr Dug Caeredin Cambria Clive Rowland: “Mae ein huchelgais yn syml, sef gwneud Gwobr Dug Caeredin yn hygyrch i bawb. Rydyn ni yma i gefnogi ac arwain dysgwyr, beth bynnag fo’u cefndir neu eu cwrs.
“Mae gweld myfyrwyr yn tyfu mewn hyder, gwytnwch a sgiliau arwain yn werth chweil iawn. Mae’r rhaglen yn eu hannog nhw i gamu i ffwrdd o sgriniau, ail-gysylltu gyda natur, gwirfoddoli yn eu cymuned, a gwella eu llesiant corfforol a meddyliol.
“Dydyn ni ddim yn gorffwys ar ein bri – rydyn ni eisiau i gynifer o ddysgwyr â phosibl elwa o’r cyfle yma sy’n newid bywydau.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gwobr Dug Caeredin Cymru Steph Price: “Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld cymaint o bobl ifanc o Goleg Cambria yn cyflawni Gwobr Dug Caeredin, sy’n dyst i waith caled ac ymrwymiad y dysgwyr a’r Arweinwyr Gwobr Dug Caeredin sy’n eu cefnogi nhw.
“Mae’n wych gweld darpariaeth Gwobr Dug Caeredin yn parhau i ddatblygu yn y coleg, yn enwedig y ffocws ar sicrhau bod cyfleoedd Gwobr Dug Caeredin yn gynhwysol a hygyrch i’r holl ddysgwyr.”
Wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth a Cambria Heini – rhaglen llesiant corfforol y coleg sy’n un o ganghennau iechyd a llesiant y coleg – mae’r rhaglen wedi’i hymgorffori ar draws y cwricwlwm a gweithgareddau cyfoethogi.
Mae Cambria Heini yn hyrwyddo amgylchedd croesawgar a chefnogol i ddysgwyr a staff, gan gefnogi eu “meddwl, corff ac enaid” ac mae’n darparu cyfleoedd gwirfoddoli sy’n cryfhau ceisiadau UCAS, hybu cyflogadwyedd ac yn cyfrannu’n uniongyrchol at Wobrau Dug Caeredin.
Dywedodd Donna Welsh, Cydlynydd Cambria Heini: “Rydyn ni’n angerddol am feithrin arweinyddiaeth a thwf personol. Trwy Cambria Heini rydyn ni’n creu mannau cynhwysol lle mae pobl ifanc yn teimlo fel eu bod nhw’n cael eu cefnogi i roi cynnig ar bethau newydd, aros yn heini a gofalu am eu llesiant.
“Mae Gwobr Dug Caeredin yn chwarae rhan enfawr wrth helpu dysgwyr i adeiladu hyder, gwytnwch a sgiliau sy’n para hyd oes.”
Mae cyfranogiad yn Cambria yn parhau i fynd y tu hwnt i gyfartaleddau cenedlaethol, gydag alldeithiau a gweithgareddau awyr agored hefyd yn dathlu’r Gymraeg a hanes a diwylliant Cymru ar draws y Gogledd Ddwyrain a’r ardaloedd cyfagos.
Gweledigaeth hir dymor y coleg ydy dod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer cyflwyno Gwobr Dug Caeredin.
Tynnodd Clive sylw at y staff a gwirfoddolwyr hefyd: “Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb ein darlithwyr a’n staff sy’n rhoi eu hamser i gefnogi teithiau cerdded ac alldeithiau hyfforddi. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am eu hymrwymiad.”
Ychwanegodd Caroline Street, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau a Diwylliant Pobl Coleg Cambria: “Rydyn ni mor falch o’n dysgwyr a staff am gyflawni cyfraddau cwblhau Gwobr Dug Caeredin mor uchel eu statws yn ystod y flwyddyn ben-blwydd garreg filltir yma.
“Yr hyn sy’n gwneud hyn yn arbennig o arwyddocaol ydy ein hymrwymiad i gynhwysiant, gan sicrhau bod gan bob dysgwr, beth bynnag fo’u cefndir, gyfle i feithrin hyder, gwytnwch a sgiliau bywyd hanfodol.”
Mae Coleg Cambria bellach yn gwahodd cyflogwyr a sefydliadau lleol i gefnogi cynnig Gwobr Dug Caeredin y coleg trwy gyllid neu nawdd, gan helpu i ddarparu offer a lleoedd wedi’u hariannu i ddysgwyr o gefndiroedd heriol – gan sicrhau y gall hyd yn oed rhagor o bobl ifanc feithrin hyder, gwytnwch a dyfodol mwy disglair trwy Wobr Dug Caeredin.