Sgiliau Cyfweliad a CV Siop Swyddi
Ydych chi eisiau gwneud cais am brentisiaeth ond does gennych chi ddim CV eto neu angen rhai awgrymiadau ar gyfer cyfweliadau? Cymerwch gip ar ein prif awgrymiadau gan ein tîm Siop Swyddi isod.
Sgiliau Cyfweliad a CV Siop Swyddi
Sgiliau Cyfweliad
Paratoi
Meddyliwch am:
- Pam ydych chi eisiau gwneud y swydd
- Pa gwestiynau sydd gennych chi am y swydd/cwmni
- Beth ydy eich cryfderau a gwendidau
- Enghreifftiau bywyd go iawn gallwch chi siarad amdanyn nhw
Beth i’w wisgo
- Cynlluniwch beth rydych chi am ei wisgo’r diwrnod cyn eich cyfweliad
- Darganfyddwch god gwisgo’r cwmni a gwisgwch ddillad i gyd-fynd â hyn
- Peidiwch â gwisgo esgidiau/dillad anghyfforddus na gormod o bersawr
Ar y diwrnod
- Cynlluniwch i gyrraedd yn gynharach na’ch amser cyfweliad fel nad ydych chi’n hwyr
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n diffodd eich ffôn
- Ceisiwch ymlacio – anadlwch yn ddwfn a chofiwch yfed dŵr
Yn ystod y cyfweliad
- Cymerwch eich amser yn ateb y cwestiynau
- Siaradwch yn glir a pheidiwch â rhegi
- Rhowch enghreifftiau
- Byddwch yn gadarnhaol
- Atebwch yn onest
Ar ôl y cyfweliad
- Os maen nhw’n cynnig y swydd i chi, cofiwch ddiolch iddyn nhw
- Os nad ydych chi’n cael y swydd, gofynnwch am adborth.
Sgiliau/Fformatio CV
Gwybodaeth Bersonol
Enw a Manylion Cyswllt
Cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn.
Proffil Personol
4-5 llinell yn crynhoi eich hun: personoliaeth, galluoedd, cymeriad a chryfderau – gwybodaeth sy’n sefyll allan sy’n berthnasol i’r mathau o swyddi rydych chi’n gwneud cais amdanyn nhw.
Sgiliau Craidd
Pwyntiau bwled o’r sgiliau gan grybwyll yn fyr pam rydych chi’n meddwl bod gennych chi’r sgiliau yma.
Addysg a Chymwysterau
Rhestr gyda’r coleg/ysgol ddiweddaraf yn gyntaf, cwrs ac unedau/cymwysterau, dyddiadau a graddau.
Cyflogaeth/Profiad Gwaith
Y mwyaf diweddar yn gyntaf- enw’r sefydliad, dyddiadau, swydd a chyfrifoldebau. Cofiwch sôn am unrhyw waith gwirfoddol.
Diddordebau/Gwybodaeth Ychwanegol
Unrhyw ddiddordebau sydd wedi datblygu eich sgiliau, prosiectau rydych chi wedi’u gwneud yn yr ysgol/coleg neu gartref. Cyflawniadau fel Gwobr Dug Caeredin, trwydded yrru, ac ati.
Hyd
1-2 dudalen – bydd recriwtwyr prysur yn edrych yn gyflym ar y CV, mae angen iddo ddal eu sylw ar unwaith.
Fformat
Defnyddiwch gynllun a ffont syml a chlir i’w gwneud hi’n hawdd i gyflogwyr ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
Beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano mewn CV?
Bydd cyflogwyr yn edrych ar eich sgiliau a’ch profiad/cymwysterau i weld pa mor addas y gallech chi fod i wneud y swydd a ffitio i mewn i’w sefydliad.