Ein Canolfan Camu Newydd

CAMU Logo

Beth ydy Camu?

Camu ydy Canolfan Rhagoriaeth Cymraeg penodol Cambria, sydd wedi ei chreu i unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu Cymraeg a chysylltu â diwylliant cyfoethog Cymru. P’un ai ydych chi’n dechrau o’r dechrau neu’n datblygu eich sgiliau presennol, mae Camu’n cynnig amgylchedd croesawgar gydag ystod eang o gyfleoedd i gynorthwyo eich taith ddysgu.

Gydag ymrwymiad cadarn i ddarparu cymwysterau Cymraeg o safon, mae Camu ar gyfer myfyrwyr a’r gymuned ehangach – gan helpu dysgwyr ar bob lefel i feithrin eu hyder a’u rhuglder.

Caffi ac Ardaloedd Cymunedol

Mannau cyfforddus i ymlacio, cysylltu ac ymarfer eich Cymraeg.

Technoleg a Mannau Dysgu Newydd

Offer digidol o'r radd flaenaf i ychwanegu at eich taith iaith.

Hwb Gweithio'n Ystwyth i Staff

Amgylchedd gweithio'n hyblyg i'n tîm addysgu arbenigol.

Ystafelloedd Dosbarth a Mannau Mewnol wedi'u Hadnewyddu

Uwchraddio'r cyfleusterau presennol i fod yn fwy modern ar safle Iâl.

Gwell Hygyrchedd

Gwneud Camu yn fwy hygyrch a chroesawgar nag erioed.

Anfonwch neges atom ni

Llenwch y ffurflen isod, ac fe wnawn ni gysylltu â chi.

DEWCH I WELD EIN SAFLEOEDD