Gyrfa Gymraeg @ Cambria header graphic

Paned, Cacen a Gyrfa Newydd

Darganfod eich gyrfa nesaf yng Ngholeg Cambria.

Ymunwch â ni ar gyfer Gyrfa Gymraeg @ Cambria, digwyddiad rhwydweithio a recriwtio anffurfiol ‘Paned a Chacen’ i siaradwyr Cymraeg sydd â diddordeb gweithio gyda ni.

P’un a ydych chi eisoes mewn addysg, yn gweithio yn y diwydiant neu’n edrych ar gyfleoedd newydd yn unig yna mae’r noson anffurfiol hon yn ffordd berffaith o gwrdd â’n tîm, i ofyn cwestiynau ac i ddarganfod gyrfaoedd yn Cambria.

Cadw eich Lle

Mae llefydd yn brin felly rydym yn eich annog i gofrestru o flaen llaw ar gyfer y digwyddiad.

Galwch heibio am baned a chwrdd â’r tîm i ddarganfod i le gall eich sgiliau Cymraeg eich arwain.

📅 Dydd Mawrth, 21 Gorffennaf 2026

4:30pm – 6:00pm Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy.

Drysau’n agor am 4:30pm. Galwch heibio unrhyw adeg.

Bydd cyflwyniad byr am yrfaoedd yn Cambria cael ei gynnal am 5:15pm.

Mae’r ddwy sesiwn yn trafod yr un wybodaeth felly ymunwch â pha un bynnag sy’n eich siwtio chi.

Bydd parcio am ddim ar gael, ein cyfeiriad ydy:

Ffordd Celstryn
Cei Connah
CH5 4BR

Yr Hyn Sydd Angen i Chi Ei Wybod

☕ Te, coffi a chacennau cri wrth gyrraedd. Rhwydweithio anffurfiol gyda staff sy’n siarad Cymraeg. Sgyrsiau cyfeillgar – dim cyfweliadau

Cyfle i edrych ar gyfleoedd ar draws ein pedwar maes:

  • Adeiladu
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol 
  • Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Chwaraeon A Hamdden
  • Amaethyddiaeth
  • Busnes  
  • Diwydiannau Creadigol – Celfyddydau Perfformio, Celf a Dylunio, y Cyfryngau

Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol yn y diwydiant (adeiladu, peirianneg, gofal iechyd, digidol a mwy) yna gallwch chi symud i addysgu yng Ngholeg Cambria.

Mae’n bosib y gallwn eich helpu ac yn aml gallwn ariannu eich TAR tra byddwch chi’n gweithio fel eich bod yn gallu troi eich arbenigedd yn y diwydiant yn yrfa addysgu ysbrydoledig.

Rydym yn helpu staff yn barhaus i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith gan gynnwys:

      • Cynlluniau datblygu’r Gymraeg wedi’u teilwra

       

 

 

      • Hyfforddiant ar ddarparu’n ddwyieithog

       

 

 

  • Buddiannau ariannol ar gyfer sgiliau Cymraeg

Mae eich sgiliau iaith yn cael ei gwerthfawrogi yma.

Gallech dderbyn bonws Croeso i Cambria gwerth £400.

Os byddwch yn cael eich cyfeirio gan gydweithiwr presennol ac os byddwch yn ymuno â’r coleg yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn £400 (neu daleb rhodd gorfforaethol) ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf.

Dyma ein ffordd ni o gydnabod gwerth unigolion talentog sy’n siarad Cymraeg.

✔ Lwfans gwyliau hael
✔ Cynllun pensiwn rhagorol
✔ Cymorth lles cynhwysfawr
✔ Cyfleoedd datblygiad proffesiynol
✔ Gweithle cefnogol a chynhwysol

Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho