Mae amser o hyd i wneud cais am gwrs llawn amser neu ran-amser yn Cambria eleni!
Ar draws chwe safle yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, mae Cambria yn cynnig ystod eang o gyrsiau llawn amser a rhan-amser gan gynnwys Safon Uwch, TGAU, cyrsiau ymarferol, Cymraeg i Oedolion ac Addysg Uwch.
Gan weithio mewn partneriaeth â dros 1,000 o gyflogwyr, mae’r Coleg hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd prentisiaeth gyda chysylltiadau cadarn â chyflogaeth leol.
Gweld Ein Holl Gyrsiau
Barod i ddarganfod y cwrs i chi?
Cyrsiau llawn amser
Mae gan bob myfyriwr eu Hanogwr Cynnydd eu hun i sicrhau eu bod nhw’n cyflawni drwy gydol eu rhaglen yn Cambria ac yn aros ar y trywydd iawn. Mae gan y Coleg Dîm Cynhwysiant rhagorol sy’n gweithio gyda myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen arnyn nhw i gyflawni eu potensial. Mae cefnogaeth fugeiliol ychwanegol ar gael i bob myfyriwr yn y Coleg sy’n cynnwys tîm Gwasanaethau Myfyrwyr cyfeillgar a phrofiadol sy’n darparu cefnogaeth a gwybodaeth, staff iechyd a llesiant, anogwyr gwydnwch, mannau tawel fel canolfannau iechyd a lles a chefnogaeth iechyd meddwl.
Mae rhwydwaith o fysiau yn cludo myfyrwyr llawn amser i’r chwe safle bob dydd. Mae pob bws yn gollwng myfyrwyr ar safle’r Coleg neu gerllaw ac efallai y bydd myfyrwyr yn gymwys i deithio am ddim ac mae gan unrhyw fyfyriwr ar unrhyw safle Cambria hawl i gasglu brecwast iach AM DDIM o unrhyw un o fwytai’r Coleg, o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am – 9.15am.
Chwiliwch Drwy ein Cyrsiau Llawn Amser
Am ragor o wybodaeth ar gyrsiau llawn amser a sut i wneud cais
Cyrsiau gradd
Mae Cambria yn partneru â rhai o brifysgolion blaenllaw’r DU i gynnig cyrsiau gradd gan gynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Wrecsam.
Mae’r cyrsiau lefel prifysgol i gyd wedi’u cynllunio gyda chyflogaeth mewn golwg i wneud y mwyaf o’ch potensial gyrfa. Bob blwyddyn, mae nifer cynyddol o fyfyrwyr yn dewis astudio cyrsiau lefel gradd yn Cambria.
Mae miliynau o bunnoedd wedi’u buddsoddi yn y cyfleusterau a’r safleoedd, ac mae myfyrwyr wedi elwa, gan gyflawni canlyniadau rhagorol a rhagolygon cyflogaeth graddedig gwell. Mae mewnbwn cyflogwyr yn sicrhau eich bod yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn eich gyrfa ddewisol.
Chwiliwch Drwy Ein Cyrsiau Lefel Gradd
Am ragor o wybodaeth ar gyrsiau Lefel Gradd a sut i wneud cais
Cyrsiau rhan-amser
Ymhlith y sefydliadau achredu sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg mae IOSH, Llywodraeth Cymru, City and Guilds, Lantra, CIPD, Prince2, a Dysgu Cymraeg. Os ydych chi’n gweithio ac eisiau uwchsgilio neu’n chwilio am newid gyrfa, neu os ydych chi eisiau cwrdd â phobl newydd a dysgu rhywbeth newydd.
Chwiliwch Drwy Ein Cyrsiau Rhan-amser
Am ragor o wybodaeth am gyrsiau Rhan-amser a sut i wneud cais
Cyfrif Dysgu Personol
Mae’r rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yn ceisio darparu cefnogaeth am ddim* i chi ennill sgiliau lefel uwch, i gael mynediad at ystod ehangach o gyfleoedd gwaith ar lefel uwch mewn sectorau blaenoriaeth.
*Os ydych yn hŷn na 19 oed, yn byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth (gan gynnwys mewn perygl o gael eu diswyddo a charcharorion sy’n cael eu rhyddhau am y dydd) ac yn ennill llai na’r incwm canolrifol o £34,303 y flwyddyn, mae Cyfrif Dysgu Personol yn ffordd wych i gael y cyfle i astudio cyrsiau penodol yn rhan-amser.
Beth ydy Cyfrif Dysgu Personol?
Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu dysgu wedi’i ariannu’n llawn*. Byddwch yn gallu cael sgiliau a chymwysterau newydd sydd eu hangen ar gyflogwyr lleol i’ch helpu i ddatblygu eich gyrfa bresennol.
Mae pob un o’r cyrsiau sy’n cael eu cynnig yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Gallwch weld y rhestr lawn o gyrsiau Cyfrif Dysgu Personol yng Ngholeg Cambria ar y dudalen cyrsiau.
Cyrsiau Am Ddim
Mae'r holl gyrsiau sydd ar gael yn cael eu hariannu gan Llywodraeth Cymru. I gael gwybod am y cyrsiau sydd ar gael, cymhwysedd a rhagor
Digwyddiadau Agored
Applications for September 2025 open in November. Open Events will be held at each Cambria site giving the opportunity to tour the facilities and speak with expert tutors. Mae ceisiadau ar gyfer mis Medi 2025 yn agor ym mis Tachwedd
Amdanom ni
Sefydlwyd y coleg yn ôl yn 2014, ac ers hynny rydyn ni wedi sefydlu ein hunain yn gyflym fel darparwr addysg blaenllaw yn y DU. Rydyn ni’n un o’r colegau mwyaf yn y DU, gyda thua 6,000 o fyfyrwyr llawn amser, 20,000 o ddysgwyr rhan amser a llawer o gysylltiadau rhyngwladol.
Ar draws ein deg safle, rydym yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyrsiau llawn amser a rhan amser gan gynnwys cyrsiau Safon Uwch, TGAU, BTEC, Cymraeg i Oedolion, ac Addysg Uwch. Mae’r coleg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â thros 1000 o gyflogwyr yn lleol ac yn genedlaethol i’ch helpu i gael cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth.
Ein Gweledigaeth
Ein gweledigaeth ysbrydoledig o’r dyfodol ydy ‘rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth.’
Ein blaenoriaeth gyffredinol ydy parhau i gyflwyno addysgu a dysgu rhagorol, er mwyn ymestyn, herio ac ysbrydoli pob dysgwr i archwilio a chyflawni i’w llawn botensial. Mae hyn yn hanfodol wrth i ddyletswydd Cambria ddod yn bwysicach byth i’n cymunedau a’n heconomi.
Ein gwerthoedd
Dangos gonestrwydd ac uniondeb
Cael eich parchu a'ch gwerthfawrogi
Bod yn garedig a chefnogol
Gweithio gydag eraill
Teimlo'n gyfartal a chynhwysol
Bod yn gymuned
Bod yn rhagorol ac yn ysbrydoledig
Annog a chymell
Bod yn angerddol
Bod yn arloesol