Background Splash

Cyhoeddi - 25/03/2026

PLAID CYMRU leader Rhun ap Iorwerth MS visited Llysfasi this week to see first-hand the impact of major multi-million pound investment in agricultural education and rural skills

Ymunodd Llyr Gruffydd AS, llefarydd Plaid Cymru dros Faterion Gwledig, ag ef ar y safle diwydiannau tir.

Ar yr ymweliad, cafodd weld Hwb Arloesi (Canolfan Arloesi) y coleg, gwerth £10 miliwn, sef canolfan amaethyddol o’r radd flaenaf sy’n cefnogi arloesedd, cynaliadwyedd a datblygu sgiliau ar draws y sector.

Gan adeiladu ar y buddsoddiad hwn, mae gwaith hefyd ar y gweill ar floc llety myfyrwyr newydd â 50 ystafell wely, i’w ddarparu gan Read Construction.

Wedi’i ddylunio gan TACP Architects, bydd y cynllun yn darparu mannau byw cyfoes o ansawdd uchel gan gynnwys ystafelloedd gwely en-suite, mannau cymdeithasu a pharthau cymunedol i gefnogi bywyd myfyrwyr a’r gymuned dysgwyr.

Yn ystod eu hymweliad, aeth y gwleidyddion ar daith o amgylch cyfleusterau helaeth y safle, gan gynnwys y fferm weithredol, gweithdai a Hwb Arloesi, ac fe wnaethant gyfarfod Elin Roberts, Pennaeth Safle Llysfasi, Llinos Roberts, Cyfarwyddwr Datblygu’r Iaith Gymraeg, a myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau’r tir.

“Rwyf wedi croesawu’r cyfle i ymweld â’r Hwb Arloesi newydd ar safle Llysfasi Coleg Cambria a chwrdd â’r myfyrwyr a fydd – diolch i’r cyfleoedd dysgu sy’n cael eu darparu gan Goleg Cambria – yn allweddol i lunio dyfodol ein cymunedau ffermio,” meddai Mr ap Iorweth.

“Amaethyddiaeth ydy asgwrn cefn ein heconomi wledig yma yng Nghymru, ac mae cyrsiau fel y rhain sy’n cael eu cynnig yn Llysfasi yn hanfodol i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant.”

Ychwanegodd Mr Gruffydd: “Mae Llysfasi wedi bod yn goleg arloesol i’r gymuned amaethyddol yn y rhan hon o Gymru ers tro byd ac mae wedi parhau i esblygu a moderneiddio i ddal i fyny â datblygiadau yn y sector.

“Hwb Arloesi ydy’r enghraifft ddiweddaraf o’r gwaith moderneiddio hwnnw ac mae mor bwysig galluogi’r genhedlaeth nesaf i gael y wybodaeth a’r dechnoleg ddiweddaraf wrth law. Mae angen i ni sicrhau bod gan ein pobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.”

Tynnodd yr ymweliad sylw at rôl allweddol Llysfasi wrth gefnogi cymunedau gwledig a’r economi ranbarthol, gyda buddsoddiad sylweddol yn sicrhau bod gan y dysgwyr y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen ar gyfer dyfodol ffermio.

Dywedodd Elin Roberts: “Roedd yn bleser eu croesawu ac arddangos maint y buddsoddiad rydyn ni’n ei wneud mewn addysg amaethyddol.

“Mae’r Hwb Arloesi a’n cyfleusterau ehangach yn rhoi profiad ymarferol i ddysgwyr mewn amgylchedd fferm waith go iawn, ynghyd â mynediad at y dechnoleg ddiweddaraf ac arbenigedd y diwydiant.

“Mae hyn yn sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n llawn ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector amaethyddol.”

Ychwanegodd Llinos Roberts: “Mae addysg ddwyieithog yn hanfodol i ddyfodol ein cymunedau gwledig, y byd academaidd a’r diwydiant amaethyddol.

“Yng Ngholeg Cambria, rydyn ni’n falch o gefnogi dysgwyr i astudio a gweithio yn Gymraeg a’r Saesneg, gan gryfhau nid yn unig eu rhagolygon gyrfa ond hefyd cynaliadwyedd yr iaith yn y sector ac ar draws cefn gwlad Cymru.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost