Background Splash

Cyhoeddi - 24/06/2026

Introducing Our AI Pledge: Putting People at the Heart of Artificial Intelligence

Mae’r addewid yn nodi ymrwymiad y coleg i ddefnyddio AI yn foesegol, yn gyfrifol ac yn gynhwysol, gyda barn ddynol, arbenigedd a pherthnasoedd yn parhau i fod yn ganolog i wneud penderfyniadau.

Wedi’i ddatblygu fel rhan o strategaeth arloesi digidol ehangach Cambria, credir bod y fframwaith ymhlith y cyntaf o’i fath yn y sector addysg bellach yng Nghymru – ac mae’n cynnig model o arfer gorau y gellir ei rannu ag ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled y DU.

Mae wedi’i adeiladu o amgylch pum egwyddor: gwella gallu dynol; defnydd moesegol a diogel o AI; cynnal goruchwyliaeth ddynol; hyrwyddo hygyrchedd a chynhwysiant; a datblygu sgiliau a dealltwriaeth yn barhaus.

Mae’r dull yn adlewyrchu ymrwymiad hirdymor y coleg i Bartneriaeth Gymdeithasol ac ymgysylltu â staff, model sydd wedi trawsnewid cysylltiadau diwydiannol yn fframwaith cydweithredol wedi’i adeiladu ar gynrychiolaeth uniongyrchol a gwneud penderfyniadau ar y cyd, gan roi llais staff wrth wraidd sut mae’r sefydliad yn esblygu.

Dywedodd Nigel Holloway, Pennaeth AI ac Arloesedd Digidol yng Ngholeg Cambria: “Mae AI eisoes yn newid y ffordd rydyn ni’n dysgu, yn gweithio ac yn cyfathrebu, felly mae’n bwysig bod sefydliadau’n cofleidio’r technolegau hyn yn feddylgar ac yn gyfrifol.

“Diben ein Haddewid AI ydy rhoi sicrwydd ac eglurder. Mae’n adlewyrchu pwy ydym ni fel coleg – arloesol, uchelgeisiol a blaengar, ond bob amser yn canolbwyntio ar bobl.

“Rydyn ni’n gweld AI fel offeryn a all helpu cydweithwyr a dysgwyr i weithio’n fwy effeithiol, cael gwared ar rwystrau, gwella hygyrchedd a rhyddhau amser ar gyfer gweithgareddau gwerth uwch. Boed hynny’n cefnogi cydweithwyr niwroamrywiol, helpu dysgwyr i adolygu’n fwy effeithiol neu symleiddio tasgau bob dydd, y nod bob amser yw gwella profiad y bobl sy’n ei ddefnyddio.”

Mae’r canlyniadau eisoes i’w gweld ar draws y sefydliad. Mae un darlithydd wedi defnyddio offer cyfathrebu sy’n cael eu pweru gan AI i ddehongli tôn negeseuon e-bost, crynhoi negeseuon cymhleth a drafftio ymatebion proffesiynol, gan leihau pryder ac arbed llawer iawn o amser.

Mae aelod o’r tîm Llesiant wedi defnyddio AI i grynhoi adroddiadau hir a thynnu gwybodaeth allweddol o ddogfennau cymhleth, gan ryddhau capasiti ar gyfer gwaith strategol, barn broffesiynol a chefnogaeth i ddysgwyr.

Yn yr ystafell ddosbarth, mae dysgwyr wedi cael eu cyflwyno i offer fel NotebookLM, a all drawsnewid deunyddiau adolygu yn ganllawiau astudio rhyngweithiol, podlediadau, cwisiau ac adnoddau eraill sy’n cefnogi gwahanol arddulliau dysgu ac yn gwella hygyrchedd i bawb.

Dywedodd Caroline Street, Dirprwy Brif Weithredwr Profiad Pobl a Diwylliant: “Fel sefydliad sy’n canolbwyntio ar bobl, ein blaenoriaeth ydy creu amgylchedd lle gall cydweithwyr a dysgwyr ffynnu.

“Mae’r addewid yma yn dangos ein hymrwymiad i groesawu arloesedd wrth aros yn driw i’n gwerthoedd. Rydyn ni am i bobl deimlo’n hyderus wrth ddefnyddio AI, deall sut y gall eu cefnogi a gwybod y bydd elfen ddynol bob amser wrth wraidd yr hyn a wnawn.

“Drwy fuddsoddi mewn sgiliau, hyfforddiant ac arfer moesegol, rydyn ni’n sicrhau bod technoleg yn gweithio i bobl – nid y ffordd arall.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost