Gadawodd Dr Ellie Moore ysgol uwchradd y dref yn 16 oed ac aeth hi’n syth i weithio, yn ansicr am ba gyfeiriad y byddai ei bywyd yn mynd.
Doedd mynd i’r Brifysgol byth yn rhan o’i chynllun. Ond pan oedd hi’n 19 oed, gwnaeth hi’r penderfyniad i ddychwelyd i addysg, gan gofrestru yng Nghanolfan Chweched Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria i astudio Safon Uwch mewn Cymdeithaseg, Llenyddiaeth Saesneg ac Addysg Gorfforol, ochr yn ochr â chymhwyster Bagloriaeth Cymru.
“Roeddwn i’n wyliadwrus iawn i ddychwelyd i addysg ar ôl ychydig o flynyddoedd allan,” meddai Ellie.
“Ond o’r dechrau cyntaf, mi wnaeth Coleg Cambria adeiladu fy hyder. Roeddwn i wrth fy modd gyda phob eiliad a newidiodd sut roeddwn i’n fy ngweld fy hun yn hollol a’r hyn roeddwn i’n ei feddwl oedd yn bosib.”
Gydag anogaeth darlithwyr a staff cymorth, aeth Ellie o nerth i nerth yn academaidd, gan ail-sefyll rhai o’r TGAU ar hyd y ffordd hefyd.
Mae hi’n rhoi clod i’r coleg am agor drysau iddi a oedd y tu hwnt i’w breuddwydion.
“Nhw oedd y rhai a wnaeth fy annog i wneud cais i fynd i’r brifysgol,” meddai Ellie.
“Roedd hynny’n sioc i mi i ddechrau, ond roedd ganddyn nhw ffydd ynof fi, ac roedd gan fy nheulu hefyd.”
Aeth Ellie ymlaen i astudio Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Birmingham, gan ddisgrifio’r profiad fel “newid bywyd”.
“Doeddwn i byth yn meddwl y baswn i’n mynd ymlaen i’r brifysgol,” meddai hi. “Roeddwn i mor falch o’n hun, ac roedd fy nheulu yn andros o falch hefyd. Dyna le cefais i’r awydd i ddysgu.”
Wedi’i hysbrydoli gan ei phrofiad graddedig, aeth Ellie ymlaen i wneud gradd Meistr mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Sheffield.
Ar ôl gweithio’n llawn amser am gyfnod, daeth hi’n ymwybodol o gyfle PhD trwy gyn darlithydd.
Cwblhaodd Ellie y ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Loughborough, gyda’r ymchwil yn canolbwyntio ar sobrwydd mewn myfyrwyr prifysgol, ac mae hi bellach yn Ddoethur mewn Athroniaeth.
Roedd ei gwaith hi’n archwilio sut mae dysgwyr nad ydyn nhw’n yfed alcohol yn llywio bywyd prifysgol, yn ffurfio cyfeillgarwch, a sut y gellir dylunio mannau cymdeithasol a dysgu i fod yn fwy cynhwysol a symud i ffwrdd o ddiwylliannau sy’n canolbwyntio ar alcohol.
Erbyn hyn, 10 mlynedd ar ôl dechrau ei Safon Uwch yng Ngholeg Cambria, mae Ellie’n falch o gael y teitl Dr Moore.
“Mi wnes i dorri’r cyfan i lawr yn ddarnau – wythnos ar ôl wythnos, blwyddyn ar ôl blwyddyn – dyna sut mi wnes i lwyddo,” meddai hi.
“Mi wnaeth Coleg Cambria osod y sylfeini ar gyfer y bennod yma o fy mywyd, a gyda’r gefnogaeth gywir a’r bobl iawn y tu ôl i chi, rydych chi wir yn gallu cyflawni unrhyw beth.”
Ar ôl cwblhau ei PhD dros y Nadolig, mae Ellie erbyn hyn yn archwilio cyfleoedd mewn addysg ac addysg uwch, gan gynnwys gan gynnwys rolau cymrawd ymchwil, cydlynydd a chynorthwyydd ymchwil, ac mae’n gyffrous i weld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig.
Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.