Technolegau Digidol, Cyfrifiadura a TG

Pam dewis Prentisiaeth?

Dechreuwch eich gyrfa gyda phrentisiaeth i ennill cyflog wrth ddysgu.

Mae cwmnïau ledled Gogledd Cymru a thu hwnt yn recriwtio pobl ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfa.

Fel prentis byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymwysterau cydnabyddedig ar hyd y ffordd. P’un ai rydych chi rhwng 16 ac 19 oed neu’n 20 oed neu’n hŷn, gallai ystod o opsiynau prentisiaeth fod ar gael i chi.

Ar hyn o bryd mae Technolegau Digidol yn un o’r ychydig bynciau yng Nghymru y gallwch chi wneud prentisiaeth gradd ynddynt, mae’r sector hwn yn tyfu’n gyflym ac mae bob amser yn chwilio am bobl dawnus newydd!

Mae dysgwyr yn y diwydiant hwn angen llygad da am fanylion, y gallu i addasu a
gweithio fel rhan o dîm.

Mae’r cyrsiau hyn yn cael eu hasesu yn y gweithle gan ein timau sydd â phrofiad yn y diwydiant a gall fod angen rhyddhau am ddiwrnod o’r gwaith i’n safleoedd coleg Glannau Dyfrdwy neu Iâl lle bydd dysgwyr yn cael cyrchu cyfleusterau a thechnoleg o’r radd flaenaf i helpu eu dysgu.

Y Prentisiaethau rydym yn eu cynnig

Rydym yn cynnig hyfforddiant prentisiaeth technolegau digidol ar Lefel 2, 3 a 4 yn ogystal â lefel gradd.

I gael rhagor o wybodaeth, hyn ewch i’n tudalen Cyrsiau Digidol i Oedolion.

Diploma Lefel 2 mewn Cymorth Cymwysiadau Digidol (Cymorth)

Gofyniad Mynediad – Wedi’ch cyflogi mewn diwydiant perthnasol

Hyd Nodweddiadol – 14 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesu yn y gweithle

Lleoliad – Y gweithle

Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Cymwysiadau Digidol (Cymorth)

Gofyniad Mynediad – Wedi’u cyflogi mewn diwydiant perthnasol

Hyd Nodweddiadol – 21 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gweithle

Lleoliad – Y gweithle

Peiriannydd Seilwaith Digidol Lefel 3

Gofyniad Mynediad – Wedi’u cyflogi mewn diwydiant perthnasol

Hyd Nodweddiadol – 21 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gweithle

Lleoliad – Y gweithle

Lefel 4 mewn Peiriannydd Seilwaith Digidol

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant
perthnasol

Hyd Arferol – 21 mis

Dull Astudio ac Asesu – Asesiad yn y gwaith

Lleoliad – Yn y gweithle

Head and shoulders photo of Karol Gorzym

Karol Gorzym

Wedi astudio – Lefel 3 mewn Meddalwedd TG, Gwe a Thelathrebu ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol

Erbyn hyn – Gweithio ym Maelor Foods

“Dwi wedi dysgu cymaint drwy gwblhau’r cymhwyster hwn, dwi wedi llenwi’r holl fylchau gwybodaeth TG, yn enwedig am rwydweithiau a rhwydweithio.

“Dwi wedi ennill rhagor o sgiliau, wedi bod yn fwy proffesiynol, ac wedi cael codiad cyflog hyd yn oed ers i mi orffen y cymhwyster!”

Dangos rhagor
Photo of Ashley Littlemore recieving a student award

Frankie McCamley

Wedi astudio – Prentisiaeth Lefel 3 i Weithwyr Proffesiynol TG a Thelegyfathrebu

Erbyn hyn – CSA Group

Fy hoff beth am astudio yn Cambria fel dysgwr yn y gwaith ydy’r gallu i ennill arian ac astudio ar yr un pryd. Mae’n galluogi i fi ganolbwyntio ar bob agwedd ar fy mywyd.

Os ydych chi’n ystyried gwneud cais i Goleg Cambria, gwnewch yn siŵr fod y cwrs o ddiddordeb i chi a’ch bod chi’n angerddol am y maes. Os ydych chi’n angerddol am rywbeth, mae’n gwneud y gwaith astudio yn llawer haws.

Yn y dyfodol, dwi’n gobeithio cael swydd lawn amser mewn Cymorth Technegol. Bydd fy amser yn Cambria yn fy helpu i gyda hynny, am ei fod o wedi rhoi’r hyder i fi ddilyn fy mreuddwyd o weithio yn y diwydiant TG.

Mae’n deimlad anhygoel ennill gwobr, doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl o o gwbl!

Dangos rhagor
Rory Scarlett

Rory Scarlett

Wedi Astudio – Prentisiaeth Lefel 2 mewn Cymorth Cymwysiadau Digidol

Mi wnes i fwynhau astudio fy mhrentisiaeth gyda Choleg Cambria yn fawr iawn. Roedd fy ymarferydd dysgu yn y gwaith yn wych ac wrth law bob amser i ateb unrhyw gwestiynau oedd gennyf a hynny mewn da bryd hefyd.

Mae gwneud prentisiaeth yn y gwaith yn ffordd wych o feithrin sgiliau a phrofiad bywyd go iawn wrth ennill cymhwyster hefyd sy’n anhygoel ar gyfer gyrfa rhywun!

Yn y dyfodol mi fyswn i’n hoffi astudio prentisiaeth Gradd Seiberddiogelwch ym Mhrifysgol Bangor.

Mae ennill gwobr myfyriwr yn deimlad gwych ac yn dystiolaeth bod rhywun yn gwerthfawrogi fy holl waith caled ac ymroddiad.

Dangos mwy
Photo of Ashley Littlemore recieving a student award

Ashley Littlemore

Astudiais – Lefel 3 Meddalwedd TG, y We a Thelathrebu i Weithwyr Proffesiynol

Ar hyn o bryd – Yn gweithio yn CSA Group

Y peth gorau am astudio yn Cambria fel dysgwr yn y gweithle yw’r gallu i ennill arian ac astudio ar yr un pryd; mae hefyd yn rhoi amser i mi ganolbwyntio ar bob agwedd ar fy mywyd.

Os ydych chi’n ystyried gwneud cais i Goleg Cambria, gwnewch yn siŵr ei fod yn gwrs sydd o ddiddordeb i chi ac yr ydych yn angerddol yn ei gylch, oherwydd pan fyddwch chi’n angerddol am rywbeth, mae astudio yn llawer haws.

Ar gyfer y dyfodol, rwy’n gobeithio cael swydd amser llawn ym maes Cymorth Technegol – bydd fy amser yn Cambria yn fy helpu gyda hyn gan ei fod wedi rhoi’r hyder i mi fynd ar drywydd fy mreuddwyd, sef gweithio yn y diwydiant TG.

Mae’n teimlo’n wych ennill Gwobr Myfyrwyr, gan nad oeddwn i’n disgwyl hynny o gwbl!

Dangos mwy

Lefel 2 mewn Gweithiwr Proffesiynol TG

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Lefel 2 mewn Defnyddiwr TG

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

 

Lefel 3 mewn Gweithiwr Proffesiynol TG

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Lefel 3 mewn Defnyddiwr TG

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 18 mis

Dull Astudio ac Asesu – Yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Lefel 4 mewn Gweithiwr Proffesiynol TG

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 24 mis

Dull Astudio ac Asesu – Yn y gwaith

Lleoliad – Gweithle

Prentisiaeth Gradd Ddigidol Seiber Ddiogelwch Gymhwysol

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol

Hyd Arferol – 3 blynedd

Dull Astudio ac Asesu – Yn y gwaith a diwrnod rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Iâl

Prentisiaeth Gradd Ddigidol Gwyddor Data Cymhwysol

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol – Asesir fesul achos

Hyd Arferol – 3 blynedd

Dull Astudio ac Asesu – Yn y gwaith a diwrnod rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Iâl

Prentisiaeth Gradd Ddigidol Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol

Gofynion Mynediad – Cyflogaeth mewn diwydiant perthnasol – Asesir fesul achos

Hyd Arferol – 3 blynedd

Dull Astudio ac Asesu – Yn y gwaith a diwrnod rhyddhau o’r gwaith

Lleoliad – Iâl

Siaradwch â'r tîm

Os ydych yn chwilio am brentisiaeth, cysylltwch â ni heddiw!

mobile phone svg

Cysylltwch â ni

0300 30 30 006

mail svg

Cyfeiriad e-bost

Cyrsiau Digidol i Oedolion

Ydych chi eisiau ennill sgiliau newydd, uwchsgilio, newid gyrfa neu ddychwelyd i waith?
Ymweld â'n horiel
Dewch i edrych o gwmpas i weld yn union sut beth yw astudio gyda ni yn Cambria.
Neu edrychwch o gwmpas ein safleoedd coleg trwy ymweld yma .
Astudiaethau Achos
Hairdresser, Kimberly Jones taking a hero shot at her salon looking at the camera

Kimberly Jones

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
A hairdressing student cutting someone's hair in a salon

Jane Moore

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
A Construction Apprentice in their office looking towards the camera with plans on the stand up table below her

Alice Stansford

“Yn ystod fy mhrentisiaeth roeddwn yn cael yr hyfforddiant yn ogystal â chael fy nhalu. Mae’n agor eich llygaid i’r amgylchedd gwaith ac yn eich paratoi ar gyfer eich dyfodol.

Dwi’n meddwl bod cael y cyfle i wneud prentisiaeth fel person aeddfed yn wych.”

Dangos Rhagor
Chwilio am brentisiaeth? Cymerwch gip ar ein Siop Swyddi i weld y prentisiaethau gwag!
Chwilio am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Prentisiaethau Gwag Llywodraeth Cymru!

Cyflogwyr yr ydym yn gweithio â nhw

Wrexham Council logo with a white background

Tudalen Pynciau Llawn Amser

Gwybodaeth am y Cyflogwr

Digwyddiadau Diweddaraf
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Llaneurgain
14/11/2026

10:00

Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Mis Tachwedd – Iâl a Chweched Iâl
19/11/2026