Cynhwysiant a Chymorth Dysgu

Mynd i'r Afael â Phontio

Mae dechrau pontio i’r coleg yn gyfnod cyffrous iawn – ond mae’n gallu bod yn frawychus ac anodd i wybod beth i’w ddisgwyl. Bydd y wybodaeth ar hyn a’r tudalennau canlynol yn rhoi cyngor allweddol i chi, yn eich cyflwyno chi i dimau cymorth ac yn rhoi cysylltiadau allweddol i helpu gyda’ch cyfnod pontio ac wrth i chi ymgartrefu yn y coleg.

Archwiliwch ein timau allweddol isod a gwelwch sut allan nhw eich cefnogi chi drwy eich taith Cambria.

Yma yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n ceisio cefnogi ac addysgu dysgwyr ynglŷn â’u hiechyd meddwl a llesiant. Drwy gyflwyno cefnogaeth iach a thechnegau llesiant i’n trefn bob dydd, rydyn ni’n teimlo’n fwy gwydn.

Rydyn ni’n gwybod bod iechyd a llesiant yn gallu cael effaith sylweddol ar eich profiad yn y coleg.

Mae ein Tîm Iechyd a Llesiant yn angerddol am ddarparu’r gefnogaeth a’r adnoddau gorau i chi sy’n hybu eich llesiant ac iechyd meddwl da, gan gynnwys;

  • Cefnogaeth gan staff llesiant pwrpasol sy’n ystyriol o drawma ar draws holl safleoedd y coleg 
  • Pontio personol i’r coleg ac oddi yno
  • Hybiau llesiant a hybiau gwib ar draws ein safleoedd gan ddarparu lleoliadau diogel a thawel i chi ymlacio a chymryd rhan mewn gweithgareddau meddwlgarwch
  • Cefnogaeth gan ein Hanogwyr Gwytnwch a chynorthwywyr Llesiant i’ch helpu chi i adnabod a chwalu rhwystrau i ddysgu
  • Cwnsela wyneb yn wyneb
  • Gweithgareddau iechyd meddwl a llesiant drwy gydol y flwyddyn
  • Sesiynau a chefnogaeth iechyd meddwl a llesiant 1:1, wedi’u teilwra’n benodol i fodloni eich anghenion a’ch helpu chi i lwyddo 
  • Cefnogaeth i oresgyn gorbryder sy’n gysylltiedig â chymdeithasu, mynd i’r coleg neu deithio i’r coleg
  • Gweithio amlasiantaeth gan gynnwys atgyfeiriadau a chyfeirio cymdeithasol

Gallai’r holl ddysgwyr gyrchu anogwyr gwytnwch a chwnselwyr allanol fel lefelau ychwanegol o gefnogaeth Iechyd Meddwl.

Mae ein tîm ADY pwrpasol yn gweithio’n agos gyda’r tîm cymorth dysgu a chydlynwyr cymorth i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a nodir yn eich CDU neu’ch Cynllun Addysg, Llesiant, ac Iechyd (EHCP) ar waith pan fyddwch chi’n cofrestru. Os oes gennych chi CDU/EHCP, siaradwch â’r Cydlynydd Dysgu Ychwanegol ar eich safle chi neu cysylltwch â cdu@cambria.ac.uk.

Mae manylion llawn i’w gweld yma: 

Cynnig Darpariaeth Dysgu Cyffredinol ac Ychwanegol.

Mae’r tîm Anogwyr Cynnydd yma i gefnogi eich dilyniant a datblygiad drwy’r coleg. Mae sesiynau un i un rheolaidd ar gael i’ch helpu chi i gynllunio’ch camau nesaf a thwf personol. Mae’r tîm hefyd yn cyflwyno’r rhaglen MADE, cyfle cyffrous i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau y tu hwnt i’r cwricwlwm. 

Bydd ein dull yn cael ei deilwra i chi a’ch anghenion unigol. Gellir rhannu manylion eich anghenion dysgu gyda ni cyn i’ch cwrs ddechrau neu ar unrhyw adeg yn ystod eich cwrs astudio.

Mae gennym ni amrywiaeth o swyddi o fewn y tîm gan gynnwys tiwtoriaid arbenigol, cydlynwyr cymorth, cymorth wedi’i dargedu, mentoriaid, a chymorth dysgu yn y dosbarth. Gallwch alw heibio i siarad â ni yn yr ardaloedd cynhwysiant neu drwy anfon e-bost at y tiwtor arbenigol yn uniongyrchol.

Mae manylion llawn ar gael yma: 

Cymorth Dysgu a Chynhwysiant.

Cymorth Arbenigol ar gyfer Pontio

Bydd y Swyddog Pontio yng Ngholeg Cambria yn eich cefnogi chi wrth i chi bontio i’r coleg.

Gallan nhw ddarparu cefnogaeth bontio bwrpasol ac arweiniad un-i-un i’ch helpu chi i deimlo’n gyfforddus ac yn hyderus wrth i chi ddechrau eich taith yng Ngholeg Cambria.

Mae cefnogaeth ar gael i sicrhau bod pobl sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn pontio’n llyfn i’r coleg ac oddi yno, ac ar draws y coleg. Drwy weithio’n agos gydag ysgolion ac awdurdodau lleol, mae’r tîm pontio’n helpu i sicrhau eich bod chi’n symud i’r coleg yn ddidrafferth, gyda’r cymorth cywir yn ei lle i’ch helpu chi i lwyddo yn eich cwrs o’r eiliad rydych chi’n cofrestru.

cdu@cambria.ac.uk

Awgrymiadau da i reoli pontio'n llyfn

1

Cofiwch dydych chi ddim ar eich pen eich hun - mi fydd pawb bron iawn yn newydd. Mae'n normal i deimlo'n nerfus. Mae newidiadau mawr yn frawychus. Cofiwch fod yn gyffrous hefyd!

2

Yn wahanol i'r ysgol, rydych chi'n cael dewis y pynciau rydych chi eisiau eu hastudio; ac mae hynny'n meddwl bod gennych chi rywbeth yn gyffredin â'ch cyd-fyfyrwyr ar unwaith!

Mae cyfrifoldeb yn allweddol. Mae disgwyl i chi wneud gwaith cwrs yn eich amser eich hun, a gwneud astudiaeth annibynnol yn eich amser rhydd.

Bydd yr addysgu ddim yn gorffen ar yr union amser sydd wedi'i nodi ar eich amserlen, felly peidiwch â disgwyl gadael yn syth yn ystod adegau prysur; ac ar adegau tawel, efallai mi wnewch chi orffen yn gynnar.

Does dim clychau na seinwyr i ddweud wrthych chi pryd mae dosbarthiadau'n dechrau neu'n gorffen. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod ble mae angen i chi fod a phryd, fel eich bod chi'n brydlon. Meddyliwch am gael dyddiadur ar gyfer eich diwrnod cyntaf, neu defnyddiwch y calendr ar eich ffôn.

Os ydych chi'n methu dosbarth, bydd angen i chi fynd i ofyn i'ch tiwtor neu gyd-fyfyriwr i weld beth rydych chi wedi'i fethu.

Efallai mai dim ond un neu ddau diwtor fydd gennych chi am y flwyddyn gyfan, felly bydd perthynas dda yn ddefnyddiol.

Cyrraedd pob dosbarth y gallwch chi ydy'r ffordd hawsaf o wneud yn siŵr nad ydych chi'n syrthio ar ei hôl hi ac yn cael eich llethu gan waith.

Os ydych chi'n teimlo'n llethol neu'n anifyr ar y dechrau, mae hyn yn hollol normal, ac nid chi fydd yr unig un. Ceisiwch beidio â chynhyrfu na bod yn rhy galed arnoch chi'ch hun. Siaradwch â'ch tiwtor, cwnselydd, cynorthwyydd Llesiant, neu rywun rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw.

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Angen gwybodaeth yn sydyn? Defnyddiwch y dolenni isod i archwilio adnoddau allweddol fel opsiynau cludiant, cymorth llesiant, a gwasanaethau myfyrwyr.

P’un ai eich bod chi’n cynllunio’ch taith neu’n chwilio am arweiniad, mae popeth sydd ei hangen arnoch chi ar gael ar flaenau eich bysedd.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost