Yale Site Page Hero

Mae dechrau coleg yn gam cyffrous ond mae’n hollol normal i bobl ifanc a’u rhieni i deimlo’n nerfus hefyd.

Cyn iddyn nhw ddechrau

Gwirio eu Negeseuon E-bost

Cofiwch atgoffa eich person ifanc i wirio eu negeseuon e-byst yn rheolaidd - bydd y rhan fwyaf o wybodaeth yn cael ei anfon atyn nhw’n uniongyrchol.

Lawrlwytho ap Cambria

Gwnewch yn siŵr bod eich person ifanc yn lawrlwytho ac yn mewngofnodi i "https://cambria.ac.uk/adran-myfyrwyr-newydd/gwybodaeth-groeso/ap-cambria/?lang=cy">App Cambria cyn iddynt ddechrau.

Cofrestru ar gyfer Cludiant

Os oes angen cludiant coleg ar eich person ifanc, rhaid cofrestru eu diddordeb yma. I ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein cludiant, cliciwch yma.

Edrych ar Gymorth Ariannol

Gwiriwch os ydyn nhw’n gymwys am gymorth ariannol fel Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) neu'r Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF).

Ble i ddod o hyd i gymorth

Edrychwch ar y gwasanaethau cymorth sydd ar gael gan gynnwys Gwasanaethau Myfyrwyr, Anogwyr Cynnydd, Cymorth Llesiant a Chymorth Dysgu, fel eich bod yn gwybod lle i droi os bydd eich person ifanc eisiau help.

Edrych ar yr Adran Myfyrwyr Newydd

Edrych ar yr Adran Myfyrwyr Newydd - Edrychwch ar weddill ein hadran Myfyrwyr Newydd gyda'ch person ifanc i wneud yn siŵr eich bod wedi gweld y wybodaeth allweddol, y canllawiau a'r adnoddau sydd ar gael cyn iddynt ddechrau yn y coleg fel eu bod yn teimlo'n barod ar gyfer yr wythnosau i ddod.

Sut y Gallwch Chi Helpu

Mae’r cyfnod pontio rhwng ysgol a choleg yn golygu rhagor o annibyniaeth a chyfrifoldeb. Mae’n bosib helpu eich person ifanc drwy:

  • Annog presenoldeb a phrydlondeb da
  • Siarad yn bositif am y cyfleoedd o’u blaenau
  • Eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau
  • Eu hatgoffa nhw i ofyn am help os ydyn nhw ei angen
Mae Cymorth ar Gael

Mae’r cymorth canlynol ar gael i unrhyw berson ifanc sy’n ei chael yn anodd setlo: 

  • Anogwyr Cynnydd
  • Gwasanaethau Myfyrwyr
  • Cymorth Llesiant
  • Cymorth Dysgu a Gwasanaethau Cynhwysiant
Angen Rhagor o Wybodaeth?

Ewch i’n Cwestiynau Cyffredin Gan Rieni i gael atebion i gwestiynau cyffredin am gludiant, presenoldeb, dyddiadau’r tymor a rhagor.

Mae bron yn amser dweud ie i'ch lle!

Days
Hours
Minutes
Seconds