Cafodd hyd at 100 o bobl ifanc ar draws Glannau Dyfrdwy a Wrecsam oedd newydd adael yr ysgol eu croesawu i ysgol haf saith wythnos Twf Swyddi Cymru+ (JGW+) y coleg, gan adeiladu ar dwf parhaus y rhaglen.
Yng Nglannau Dyfrdwy, cymerodd 60 o ddysgwyr ran mewn pum grŵp, gan gyfuno gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth a dysgu o bell. Yn ogystal â hyn roedd sgyrsiau’n cael eu cynnal gan siaradwyr gwadd ac ymweliadau addysgol â nifer o leoliadau, gan gynnwys Alton Towers, Llandudno, Betws-y-Coed, Gerddi Bodnant a Speke Hall.
Cafodd y rhaglen ei chynllunio er mwyn pontio’r cyfnod rhwng gadael yr ysgol a’r cam nesaf mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, yn enwedig ar gyfer y bobl ifanc hynny sy’n ansicr am ba drywydd i’w gymryd yn y dyfodol neu sy’n awyddus i feithrin hyder cyn mis Medi.
Mae Josh Robinson, 16 oed, o Benarlâg yn astudio Gwaith Saer ac Asiedydd yng Nglannau Dyfrdwy ac mae wedi gwneud ffrindiau newydd yn y coleg yn barod.
“Rydw i wedi gwneud ychydig o waith adeiladu gyda fy ewythr ac roeddwn i wrth fy modd. Dwi’n gobeithio mynd i Awstralia yn y pen draw i weithio yn y grefft,” meddai Josh, cyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd St Richard Gwyn.
“Pe bawn i ddim yn gwybod am y cwrs hwn, dwi’n credu y byddwn i wedi bod dipyn mwy pryderus pan gyrhaeddodd diwrnod canlyniadau.
“Dwi’n teimlo’n fwy cyfforddus ac yn gwybod bod gen i opsiynau rŵan. Mae hynny’n beth mawr i unrhyw berson ifanc yn y sefyllfa honno; mae’n gwneud y dyfodol yn llai brawychus.”
Bydd Lillian Smith, 16 oed, o Shotton, yn dechrau cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ôl gadael Ysgol Uwchradd Elfed ym Mwcle.
“Roeddwn i’n nerfus am fynd i’r coleg, gorfod bod yn fwy annibynnol a chyrraedd yma bob dydd, ond dwi’n teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny rŵan,” meddai.
“Mae’r cyfleusterau’n wych ac rydw i wedi mwynhau’r rhaglen. Rydw i’n gyfarwydd â’r coleg rŵan ac fe wnes i’r cwrs gyda rhai o fy ffrindiau o’r ysgol – roedd pawb wedi ei fwynhau. Rydw i’n teimlo’n fwy hyderus erbyn hyn.”
Dywedodd Georgia Smith, Mentor Cyflogadwyedd, fod ymgysylltiad â’r rhaglen wedi parhau i gynyddu yn dilyn y pandemig.
“I lawer o bobl ifanc, mae’n fath o ‘gwrs paratoi’ ar gyfer mis Medi,” meddai.
“Maen nhw’n cael cyfle i ddod i adnabod yr adeiladau a’r cyfleusterau, maen nhw’n gwneud ffrindiau ac yn ymgolli yn yr amgylchedd, felly maen nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael croeso ac yn rhan o gymuned Cambria.”
“I eraill, roedd yr ymweliadau’n agoriad llygad go iawn. Roedd gennym ni ddysgwyr oedd heb fod y tu allan i Sir y Fflint o’r blaen nac wedi bod ar y traeth, felly roedd gallu rhoi’r profiadau hynny iddyn nhw’n hynod o werth chweil.”
Aeth Georgia ymlaen i ddweud fod y rhaglen hefyd yn cynorthwyo teuluoedd trwy gynnig cymorth ariannol a thrwy dalu costau’r holl deithiau, cludiant i’r coleg ac yn ôl, bwyd a diod ar gyfer y rhai oedd yn cymryd rhan.
Dywedodd Claire Howells, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Twf Swyddi Cymru+ yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy: “Mae’r niferoedd sydd wedi cymryd rhan yr haf hwn – y nifer uchaf erioed – yn dangos pa mor werthfawr mae’r rhaglen wedi dod.
“Mae gweld dysgwyr yn magu hyder, yn gwneud ffrindiau ac yn cyrraedd ym mis Medi gan deimlo eu bod nhw’n rhan o gymuned y coleg yn union beth rydyn ni am ei gyflawni.”
Bydd llawer o’r dysgwyr yn symud ymlaen rŵan i gyrsiau llawn amser neu raglen ehangach JGW+, gyda chyfleoedd ar draws amrywiaeth o bynciau gan gynnwys gofal iechyd, lletygarwch, manwerthu a gofal plant.
Mae JGW+ hefyd yn cynnig cymwysterau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg, yn ogystal â llwybrau sy’n arwain at addysg bellach, prentisiaethau a chyflogaeth.
I gael rhagor o wybodaeth neu i ymuno â Twf Swyddi Cymru+ yng Ngholeg Cambria, ewch i https://cambria.ac.uk/coleg-16-18/meysydd-pwnc-coleg-16-18/twf-swyddi-cymru-plws/?lang=cy neu anfonwch e-bost at jgwplus@cambria.ac.uk.