Llwyddo'n Chweched Glannau Dyfrdwy: Dathlu Degawd o Lwyddiant
#Degawdo6edGD
Rydyn ni’n dathlu degawd o Chweched Glannau Dyfrdwy
Mae hi’n anodd coelio bod degawd wedi bod ers i Chweched Glannau Dyfrdwy agor ei ddrysau am y tro cyntaf.
P’un a oeddech chi’n rhan o’n carfan gyntaf un neu wedi cwblhau eich Safon Uwch gyda ni yn fwy diweddar, rydych chi wedi chwarae rhan bwysig yn stori Chweched Glannau Dyfrdwy. Rŵan mae hi’n amser dod yn ôl a dathlu popeth rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd.
Ailgysylltwch â chyn-ddarlithwyr, daliwch i fyny â hen gyd-fyfyrwyr, a gweld sut mae Chweched Glannau Dyfrdwy wedi esblygu dros y deng mlynedd diwethaf wrth gwrdd â rhai o’n myfyrwyr presennol.
Manylion y Digwyddiad
Dyddiad 📅 Dydd Llun 21 Medi 2026
Amser 🕛 12:15pm – 2:15pm – Digwyddiad ymlaciol, galw heibio – galwch draw pryd bynnag
Lleoliad📍Canolfan Chweched Glannau Dyfrdwy – Coleg Cambria
Bwyd a Lluniaeth🍽️Mwynhewch ginio bwffe a lluniaeth am ddim yn ystod y digwyddiad.
Pam Dod?
🎉 Dathlu degawd o Chweched Glannau Dyfrdwy
🤝 Ailgysylltu â ffrindiau a chyn-ddarlithwyr
🎓 Cwrdd â myfyrwyr presennol a gweld sut mae Chweched Glannau Dyfrdwy wedi tyfu
💬 Rhwydweithio gyda chyd gyn-fyfyrwyr
📸 Ail-fyw atgofion a dathlu etifeddiaeth Chweched Glannau Dyfrdwy
P’un a ydych chi newydd adael neu a ydy blynyddoedd wedi mynd heibio ers i chi raddio, byddem ni wrth ein bodd yn eich croesawu chi’n ôl.
Taith
Ewch ar daith rhithwir o amgylch Chweched Glannau Dyfrdwy gyda’n taith 360°.
Straeon Cyn-Fyfyrwyr
Dewch i glywed gan ein cyn-fyfyrwyr
Mae cyn-fyfyriwr Coleg Cambria, Jonathon Dawes, wedi cyfuno rhagoriaeth academaidd, arweinyddiaeth ac angerdd dros gynhwysiant i ddod yn un o leisiau cynyddol y DU mewn tenis a gwleidyddiaeth ieuenctid.
Ar ôl cyflawni A* mewn pedwar Safon Uwch a gwasanaethu fel Llywydd Myfyrwyr, aeth Jonathon ymlaen i Goleg y Brenin Llundain, lle mi wnaeth tenis drawsnewid myfyrwyr trwy gynyddu aelodaeth 65%, sicrhau partneriaeth â Wilson, lansio Gŵyl Tenis LHDTC+ gyntaf y brifysgol, a helpu i ymgysylltu â 350+ o fyfyrwyr wrth ddatgloi £2,500+ mewn cyllid.
Rŵan yr aelod ieuengaf o Gyngor yr LTA, mae Jonathon wedi cael ei gydnabod gyda Gwobr Arweinydd Newydd Cyn-fyfyrwyr Sy'n Dod i'r Amlwg Coleg y Brenin Llundain ac mae'n paratoi i ddechrau PhD yn archwilio sut y gall gwleidyddiaeth wella mynediad at denis ar gyfer cymunedau dan anfantais.
Dwi wedi ymrwymo i wneud tenis yn fwy hygyrch i bawb, yng Nghymru, y DU a thu hwnt.
Llywodraeth a Gwleidyddiaeth A*, Economeg A*, Addysg Gorfforol A* a Bagloriaeth Cymru A*
Mae cyn-fyfyriwr Coleg Cambria, Matthew, wedi troi ei angerdd dros wleidyddiaeth, y cyfryngau a chyfathrebu yn yrfa yng nghanol un o heddluoedd prysuraf y DU.
Ar ôl astudio Safon Uwch mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Astudiaethau'r Cyfryngau, Saesneg Iaith a Bagloriaeth Cymru yng Nghanolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy, graddiodd Matthew o Brifysgol Sheffield gyda BA mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth cyn cwblhau gradd Meistr mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu.
Ymhlith ei gyflawniadau roedd cael Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth Dan Walker fawreddog a chael ei ddyfarnu am y Perfformiad Cyffredinol Gorau ar ei raglen MA.
Yn dilyn rôl gyfathrebu yn San Steffan, ymunodd Matthew â Heddlu'r Metropolitan, lle mae bellach yn gweithio yn swyddfa'r wasg yn New Scotland Yard, yn cefnogi cyfathrebu ar ymchwiliadau a digwyddiadau troseddol mawr.
Gwnaeth y ffordd o addysgu yng Ngholeg Cambria fy ngosod ar gyfer popeth sydd wedi dod ers hynny. Rhoddodd y sgiliau academaidd i mi lwyddo a'm hannog i gredu rhagor yn fy ngalluoedd.
Gwleidyddiaeth A, Cyfryngau A*, Iaith Saesneg A
Ar ôl Chweched Glannau Dyfrdwy, cefais radd BA Hanes dosbarth cyntaf o Brifysgol Efrog. Ar hyn o bryd, dwi yn y broses o gwblhau fy MA mewn Hanes Cyfoes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Efrog.
Mewn gwirionedd, roedd fy newis i astudio hanes oherwydd un o'r modiwlau Hanes a astudiais yn Chweched Glannau Dyfrdwy! Mi wnes i fwynhau astudio'r modiwl Canrif Americanaidd yn fawr, a helpodd fi i sylweddoli fy niddordeb mewn hanes imperialaidd modern. Yna daeth hanes ac etifeddiaeth ymerodraethau modern yn ffocws fy ymchwil ar draws fy astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig. Yn anad dim, ni fyddwn lle dwi heddiw heb yr anogaeth, y cymhelliant a'r gefnogaeth a roddodd y darlithwyr anhygoel yn Chweched Glannau Dyfrdwy i mi.
Hanes A*, Mathemateg A, Busnes A, Bagloriaeth Cymru A
“Dwi wedi mwynhau fy nghyfnod yng Ngholeg Cambria. Y peth amlycaf am y cwrs oedd y cyfle i ennill profiad ymarferol mewn lleoliadau gwaith. Mae gweithio’n uniongyrchol â phlant wrth ddysgu wedi bod yn werth chweil a dwi
wedi ennill sgiliau ymarferol amhrisiadwy.
Mae’r addysgu a’r gefnogaeth gan fy nhiwtoriaid yng Ngholeg Cambria wedi bod yn rhagorol. Mae eu harweiniad wedi cael effaith sylweddol ar fy nhaith dysgu. Ar ôl gorffen fy nghwrs, dwi’n edrych ymlaen at ddechrau fy ngyrfa mewn gwaith cymdeithasol.”
“Mi wnes i ddewis astudio’r cymhwyster yma yng Ngholeg Cambria oherwydd dyma oedd y llwybr gorau i’r diwydiant. Roedd y cwrs yn ddiddorol ac ymarferol ac roedd gan fy nhiwtoriaid brofiad o’r diwydiant. Roedden nhw
mor gefnogol ac agos atoch chi. Ar ôl i mi orffen fy nghwrs, roeddwn i’n gallu
astudio fy HNC yn y Coleg hefyd felly roeddwn i’n gallu astudio mewn lleoliad cyfarwydd. Ers gorffen fy astudiaethau dwi’n Dechnegydd Pensaer yn CB3 Design Architects yn Swydd Gaer.”
“Mi wnes i gymryd rhan yn rhaglen Twf Swyddi Cymru+ a mwynhau bod yn y coleg yn fawr iawn; mae pawb mor gyfeillgar a chroesawgar. Mae yna gymorth ar gael ar draws Coleg Cambria ac mae yna gymaint o bobl ar gael i
helpu. Mae Twf Swyddi Cymru+ wedi fy helpu i gael fy swydd ddelfrydol fel gofalwr a dwi mor hapus a faswn i byth wedi gallu cyrraedd yma heb y rhai sydd wedi fy helpu i ar y cwrs.”
"Dwi'n byw ar fferm gartref. Mae fy Nhad yn dda gyda'r da byw ond ddim cystal gyda pheiriannau, a dyna pam roeddwn i eisiau dysgu'r ochr honno - i ddod â rhywbeth newydd i'r fferm - er y byddwn i'n bendant yn hoffi cael profiad o weithio dramor ar ryw adeg hefyd. Mae yna lawer o gyfleoedd gyrfa yn y maes astudio hwn. Mae'n sector helaeth gyda llawer o swyddi amrywiol. Dwi'n hoffi'r berthynas sydd gennym ni gyda'r tiwtoriaid yn y coleg, a'r ymdeimlad o gymuned yma yng Ngholeg Cambria."