Home > Coleg 16-18 > Gweld Pob Maes Pwnc > Cynaliadwyedd, Cadwraeth a’r Amgylchedd
CYNALIADWYEDD, CADWRAETH A'R AMGYLCHEDD
Cynaliadwyedd, Cadwraeth a'r Amgylchedd
![](https://www.cambria.ac.uk/wp-content/uploads/2022/03/sustainability-4-1.jpg)
Ydych chi’n angerddol am yr amgylchedd? Hoffech chi archwilio i’r rhyngweithiadau rhwng anifeiliaid, planhigion, pobl a’r byd modern yr ydym yn byw ynddo? Os felly, y cwrs Cynaliadwyedd, Cadwraeth a’r Amgylchedd yw’r un i chi.
Dim ond un blaned sydd gennym ni, a hoffem ni ei gwarchod. Byddech chi’n gweithio mewn sector gwerthfawr iawn unwaith i chi ennill y cymwysterau hyn, gan gael eich ysgogi gan bryderon newid hinsawdd ac angen am ragor o ymarferion cynaliadwy. Yma yng Ngholeg Cambria byddwn ni’n eich addysgu chi i fonitro poblogaethau planhigion ac anifeiliaid, sut i ddeall bygythiadau i ecosystemau a sut mae anifeiliaid a phobl yn manteisio ohonynt. Hefyd, sut i ofalu am ein tir, dŵr ac aer yn well mewn ffordd fwy cynaliadwy.