Home > Myfyrwyr Newydd 26/27 > Gwybodaeth i Rieni > Dyddiadau a Digwyddiadau Allweddol
Mae dechrau’r flwyddyn academaidd yn gyfnod prysur a chyffrous. Dyma ganllaw i rai o’r prif ddigwyddiadau a’r cerrig milltir sy’n digwydd cyn ac yn ystod wythnosau cyntaf eich person ifanc yng Ngholeg Cambria.
20 a 21 Awst
Os hoffai eich person ifanc drafod y cwrs y maen nhw wedi’i ddewis, edrych ar opsiynau eraill neu ragor o wybodaeth cyn dechrau coleg, mae ein Diwrnodau Agored ym mis Awst yn gyfle gwych i siarad â staff a chael cyngor.
Mae’n bosib i chithau ddod hefyd os bydd eich person ifanc yn bwriadu newid cwrs neu ddewisiadau o ran pwnc cyn y cyfnod cofrestru.
Rhagor o wybodaeth yma: Diwrnodau Agored Mis Awst.
Canol Awst
Bydd rhieni a dysgwyr yn derbyn pecyn croesawu sy’n cynnwys gwybodaeth i’w helpu nhw baratoi ar gyfer dechrau yn y coleg.
Rydyn ni’n argymell eich bod yn cyd-ddarllen y wybodaeth a’i gadw’n ddiogel er mwyn gallu cyfeirio ato eto.
Mae ein digwyddiadau cyflwyno ar-lein yn cynnig y cyfle i chi ofyn cwestiynau ac i ddarganfod rhagor o wybodaeth ar ddechrau yn y coleg.
Sesiynau i Ddysgwyr (6pm)
- 26 Awst
- 2 Medi
Sesiynau i Rieni (6pm)
- 27 Awst
- 3 Medi
Mae’n bosib cofrestru a chael rhagor o wybodaeth ar y ddolen ganlynol : https://www.cambria.ac.uk/campaigns/virtual-onboarding-even
Wythnos yn Dechrau 1 Medi
Yn ystod y cyfnod ymsefydlu bydd eich person ifanc yn cael eu cyflwyno i fywyd coleg, eu cwrs, gwasanaethau cymorth a phopeth sydd angen ei wybod ar ddechrau eu siwrnai.
Bydd dysgwyr yn derbyn dyddiad dechrau unigol a gwybodaeth ymsefydlu ar e-bost.
Yn ystod yr wythnos gyntaf bydd dysgwyr yn cael cyfarfod eu Hanogwr Cynnydd.
Mae Anogwyr Cynnydd yn chwarae rôl bwysig iawn o helpu dysgwyr yn ystod eu hamser yn y coleg ac yn gallu rhoi arweiniad ar lesiant, cynnydd a datblygiad personol.
Mae Ffair y Glas yn gyfle gwych i ddysgwyr ddarganfod clybiau, gweithgareddau, cyfleoedd cyfoethogi a gwasanaethau cymorth sydd ar gael ar draws y coleg.
Llysfasi: 1 Medi
Glannau Dyfrdwy: 2 a 4 Medi
Iâl: 2 a 4 Medi
Chweched Iâl: 2 a 4 Medi
Chweched Glannau Dyfrdwy: 7 Medi
Llaneurgain: 8 Medi
Ffordd y Bers: 9 Medi
Wrth i’ch person ifanc setlo i fywyd yn y coleg mi fydden nhw’n:
- Gwneud ffrindiau newydd
- Creu perthnasau gyda thiwtoriaid a staff cymorth
- Dod yn gyfarwydd â systemau ac arferion y coleg
- Rhoi cynnig ar glybiau, gweithgareddau a chyfleoedd cyfoethogi
- Cynllunio eu nodau ar gyfer cynnydd yn y dyfodol gyda’u Hanogwr Cynnydd
Er iddyn nhw deimlo’n nerfus ar y dechrau mae llawer iawn o ddysgwyr yn magu hyder ac annibyniaeth yn gyflym yn ystod y cyfnod hwn.
Tymor yr Hydref 2026
Dydd Mawrth 1 Medi
Tymor yn Dechrau
Dydd Llun 26 - Dydd Gwener 30 Hydref
Hanner Tymor
Dydd Iau 17 Rhagfyr
Tymor yn Gorffen
Tymor y Gwanwyn 2027
Dydd Mawrth 5 Ionawr
Tymor yn Dechrau
Dydd Llun 8 - Dydd Gwener 12 Chwefror
Hanner Tymor
Dydd Gwener 19 Mawrth
Tymor yn Gorffen
Gwyliau'r Pasg 2027
Dydd Llun 22 Mawrth - Dydd Gwener 2 Ebrill
Tymor yr Haf 2027
Dydd Llun 5 Ebrill
Tymor yn Dechrau
Dydd Llun 31 Mai - Dydd Gwener 4 Mehefin
Hanner Tymor
Dydd Gwener 18 Mehefin
Diwedd y Tymor